Amddiffyn plant a phobl ifanc

Ffynonellau eraill o wybodaeth ac arweiniad

Cyfraith, arweiniad ac adolygiadau cenedlaethol

Pecynnau cymorth a deunydd darllen

Hyfforddiant

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, et al (2010) Safeguarding children and young people: roles and competences for healthcare staff: intercollegiate report  Llundain, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Rhoi tystiolaeth mewn llys

Cymdeithas Feddygol Prydain (2008) Expert witness guidance Llundain, Cymdeithas Feddygol Prydain

Y Gwir Anrhydeddus Ustus Wall (2007) A handbook for expert witnesses in Children Act cases Bryste, Jordans, 2il rifyn

Ministry of Justice (2011) Practice Direction on Experts in Family Proceedings Relating to Children

Ffynonellau cyngor a chymorth annibynnol ar gyfer rhieni atheuluoedd

Mae NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n ymgyrchu ar ran plant a phobl ifanc. Mae gan NSPCC linellau cymorth y mae modd i blant ac oedolion eu ffonio er mwyn cael cyngor a chymorth. Mae modd i blant a phobl ifanc ffonio ChildLine ar 0800 1111. Mae modd i oedolion ffonio 0808 800 5000 i gael help a chyngor

Mae Grŵp Hawliau’r Teulu (FRG) Darparu cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i deuluoedd sydd â'u plant yn ymwneud â gwasanaethau plant yr awdurdod lleol. Gall teuluoedd ffonio ei wasanaeth cyngor am ddim ar 0808 801 0366 neu anfon e-bost i advice@frg.org.uk. Mae FRG hefyd yn cynnig ystod o daflenni cyngor am ddim ar ei wefan.

Mae Coram Children’s Legal Centre (CCLC) yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc, a’u teuluoedd, ac i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae modd i deuluoedd ffonio’i gwasanaeth cynghori yn rhad ac am ddim ar 08088 020 008 i gael cyngor cyfreithiol am unrhyw fater. 

Mae cymdeithasau’r cyfreithwyr yn cynnig cyfleusterau chwilio ar y rhyngrwyd er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i gyfreithwyr.

Mae Cyngor ar Bopeth yn sefydliad annibynnol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim am bob mater i unrhyw un. Yn ogystal, mae ei wefan yn cynnwys cyngor a gwybodaeth.

Mae Family Lives yn elusen genedlaethol sy’n darparu help a chymorth am bob agwedd ar fywyd teuluol. Mae ganddi wasanaeth cyfrinachol o’r enw Parentline (0808 800 2222), y mae modd i rieni ei ffonio yn rhad ac am ddim o linellau tir ac o’r rhan fwyaf o ffonau symudol er mwyn cael gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth am unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol.

Mae Home-Start UK yn elusen genedlaethol sy’n cynorthwyo plant a theuluoedd trwy gyfrwng rhwydwaith o wirfoddolwyr.

Mae Family Action yn elusen sy’n cynnig cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd difreintiedig ac y maent yn ynysig yn gymdeithasol.