Ôl-nodion
Nid yw hyn yn cynnwys recordiadau o bobl yn eu gweithle a gynlluniwyd i ddangos neu nodi peryglon galwedigaethol.
Nid yw’r arweiniad hwn yn cynnwys recordiadau CCTV o safeoedd cyhoeddus mewn ysbytai a meddygfeydd, y maent yn destun canllawiau ar wahân gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gwybodaeth wedi’i chodio – a elwir gwybodaeth ffugenwol hefyd – yw gwybodaeth na fydd modd i’r derbynnydd adnabod unigolion ohoni, ond sy’n galluogi gwybodaeth am wahanol gleifon i gael ei gwahaniaethu neu i wybodaeth am yr un cleifon gael ei chysylltu dros gyfnod o amser, er enghraifft er mwyn nodi sgil-effeithiau cyffur. Efallai y bydd yr unigolyn neu’r gwasanaeth a wnaeth godio’r wybodaeth yn cadw ‘allwedd’, fel bod modd ei hail-gysylltu â’r claf.
Mae deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys, er enghraifft, Deddf diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Freedom of Information (Scotland) Act 2002, a’r ddeddfwriaeth galluedd meddyliol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os bydd gennych chi amheuaeth am eich.
Dylech geisio cyngor gan eich corff cyfogi neu gontractio ynghylch sut i droi at a chydymffurfo gyda pholisïau a gweithdrefnau lleol; er enghraifft, gan eich adran eglurhadau meddygol lleol, neu Warcheidwad Caldicott neu rywun cyfatebol.
Gweler rhan 2 Caniatâd: cleifon a meddygon yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd am gyngor ynghylch gwneud penderfyniadau am ymchwiliadau a thriniaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth gyda chleifon.
Gweler Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau.
Paragraff 63-70 o Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth am gleifion, darparu cyngor ar ddatgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd.
Mae rhagor o ganllawiau ar asesu galluedd wedi’u nodi yn y ddogfen Gwneud Penderfyniadau a chydsyniad.
Atwrneiod lles a gwarcheidwaid a benodir gan lys (yr Alban); deiliaid atwrneiaethau arhosol a dirprwyon a benodir gan lys (Cymru a Lloegr).
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau am driniaeth a gofal ar gyfer cleifon heb alluedd yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban, Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 sy’n delio â hyn. Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes deddfwriaeth sylfaenol berthnasol ar hyn o bryd, ac mae’r gyfraith gyffredin yn llywodraethu gweithgarwch penderfynu ar ran cleifon heb alluedd. Adeg cyhoeddi hwn, mae fframwaith deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol newydd yn cael ei ddatblygu.
Gellir datgelu gwybodaeth bersonol os bydd hynny o fudd i’r claf neu os bydd er budd gorau’r claf, ond nid yw hyn yn debygol o fod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau a drafodir yn y canllawiau hyn. Mae paragraffau 13-17 Cyfrinachedd: Datgelu gwybodaeth at ddibenion addysg a hyfforddiant yn rhoi cyngor ar ddatgelu gwybodaeth bersonol at ddibenion addysg a hyfforddiant am gleifion sydd heb alluedd.
Ceir gwybodaeth bellach am asesu galluedd a materion ynghylch caniatâd i blant a phobl ifanc yn ein harweiniad 0–18 oed: arweiniad i bob meddyg.
Ceir rhagor o arweiniad ar rannu gwybodaeth ym mharagraffau 11, 13b, 21, 27-29 o Gwneud penderfyniadau a chydsyniad.
Mae arweiniad ar faterion yn ymwneud â galluedd wedi’u nodi yn Gwneud penderfyniadau a chydsyniad, paragraffau 76-86.
Gweler troednodyn 11 am grynodeb o’r gyfraith.
Ceir arweiniad ynghylch cynnwys oedolion heb alluedd mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 23-35 Caniatâd i waith ymchwil.
Ceir cyngor ynghylch cynnwys plant neu bobl ifanc mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 36-40 0-18 oed: arweiniad i bob meddyg.
Ceir arweiniad ynghylch yr ystyriaethau penodol mewn perthynas â cheisio a gweithredu ar sail caniatâd i blant neu bobl ifanc gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 14-20 Caniatâd i waith ymchwil.
Mae Gwarcheidwaid Caldicott yn bobl ar lefel uwch o fewn GIG, gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, a sefydliadau partner, sy’n gyfrifol am ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth cleifon, a galluogi gweithgarwch rhannu gwybodaeth briodol.
Mae'r Cod Darlledu Ofcom.
Mae rhagor o wybodaeth am ddatgelu gwybodaeth ar ôl i glaf farw wedi’i nodi ym mharagraffau 134-138 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth am gleifion.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu arweiniad ynghylch rheoli gwybodaeth am yr ymadawedig.
Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn darparu’r fframwaith ar gyfer rheoleiddio meinweoedd dynol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gan yr Alban ei deddf ei hun, Human Tissue (Scotland) Act 2006. Mae’r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cyhoeddi Cod Ymarfer 3 – Archwiliadau post mortem (2009) a Chod Ymarfer 1 – Caniatâd (2009).
Nodir y cynllun ar gyfer awdurdodi yn ss.28- 30 Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 ac ss.5-8 Regulation of Investigatory Powers (Scotland) Act 2000.
Safeguarding children in whom illness is fabricated or induced (Department for Children, Schools and Families guidance revised March 2008).
Covert Surveillance: Code of Practice (Scottish Government, 2003).
Diogelu Plant ag arnynt Salwch Ffug neu Salwch Gwneud (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008).
Cod Ymarfer y GIG Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Y Gynghrair Llywodraethu Gwybodaeth, 2016); Rheoli Cofnodion: Cod Ymarfer y GIG (Yr Alban) (Llywodraeth yr Alban, 2012), Cylchlythyr Iechyd Cymru (2000) 71: I’r Cofnod (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2000) a Good Management, Good Records (Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus, 2011) i gyd yn cynnwys cyngor ar storio a gwaredu recordiadau a wnaed fel rhan o ofal claf neu ran o ymchwil.