Recordiadau fel rhan o ofal, ymchwiliad neu driniaeth claf
Recordiadau na fydd angen sicrhau caniatâd arwahân ar eu cyfer
Bydd caniatâd i greu’r recordiadau a restrir isod yn ensyniedig yn y caniatâd a roddir i’r ymchwiliad neu’r driniaeth, ac ni fydd angen ei sicrhau ar wahân.
- Delweddau o strwythurau neu organau mewnol
- Delweddau o sleidiau patholeg
- Delweddau laparosgopig ac endosgopig
- Recordiadau o weithrediadau organau
- Delweddau uwchsain
- pelydrau-X
Wrth geisio caniatâd ar gyfer triniaeth neu unrhyw weithdrefn6 arall sy’n golygu y bydd angen creu un o’r recordiadau a restrir ym mharagraff 10, pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech esbonio y bydd recordiad o’r fath yn cael ei greu ac y gallai gael ei ddefnyddio at ddibenion eilaidd, gan gynnwys ei gyhoeddi i’r cyhoedd, heb iddo gynnwys enw’r unigolyn.
Gweler rhan 2 Caniatâd: cleifon a meddygon yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd am gyngor ynghylch gwneud penderfyniadau am ymchwiliadau a thriniaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth gyda chleifon.
Gallwch ddatgelu neu ddefnyddio unrhyw rai o’r recordiadau a restrir ym mharagraff 10 at ddibenion eilaidd heb geisio caniatâd, ar yr amod eich bod yn sicrhau, cyn iddynt gael eu defnyddio, na fyddant yn nodi enw’r unigolyn; er enghraifft, trwy gael gwared ar neu bennu cod ar gyfer unrhyw farciau a allai ddatgelu enw’r unigolyn, megis ysgrifen ar ochr pelydr-x (gweler paragraff 17). Mae modd cael cyngor pellach ynghylch sicrhau na fydd gwybodaeth yn cynnwys enw unigolyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.7
Gallwch ddatgelu recordiadau dienw neu wedi’u codio i’w defnyddio mewn gweithgarwch ymchwil, addysgu neu hyfforddi, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd heb sicrhau caniatâd. Wrth benderfynu a yw recordiad yn ddienw, dylech gofo bod manylion sy’n ymddangos yn rhai anarwyddocaol yn gallu dynodi manylion y claf. Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth sicrhau bod recordiadau o’r fath yn ddienw cyn eu defnyddio neu eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a deunyddiau dysgu eraill heb sicrhau caniatâd, os yw’r rhain yn cael eu hargraffu neu os ydynt ar gael mewn ffurf electronig.
Gweler Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau.
Recordiadau y bydd angen sicrhau caniatâdpenodol ar eu cyfer
Caniatâd i greu recordiadau fel rhan o ofal y claf
Rhaid i chi sicrhau caniatâd y claf i greu recordiad sy’n rhan o’r ymchwiliad neu driniaeth ar gyfer cyfwr, neu sy’n cyfrannu at ofal y claf, ac eithrio dan yr amgylchiadau a ddisgrifr ym mharagraff 10. Dylech esbonio i’r claf y rheswm pam y byddai recordiad yn cynorthwyo gyda’u gofal, ffurf y recordiad, a’r ffaith y bydd yn cael ei storio mewn man diogel.
Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech esbonio unrhyw ddefnydd eilaidd posibl a allai gael ei wneud o’r recordiad mewn ffordd ddienw neu gan ddefnyddio cod, wrth geisio caniatâd i greu’r recordiad. Dylech gofnodi elfennau allweddol y drafodaeth yng nghofnod meddygol y claf.
Datgelu a defnyddio recordiadau sy’n cael eu creufel rhan o ofal y claf
Mae recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o ofal y claf yn rhan o’r cofnod meddygol, a dylid eu trin yn yr un modd ag y bydd deunydd ysgrifenedig yn cael ei drin, o ran diogelwch a phenderfyniadau ynghylch datgeliadau. Felly, rhaid i chi ddilyn arweiniad CMC sy’n ymddangos yn Cyfrinachedd. Fel arfer, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y claf cyn datgelu recordiadau y bydd modd adnabod y claf ohonynt (gweler paragraff 17). Ond, efallai y bydd modd gwneud datgeliadau pan fyddant yn ofynnol dan y gyfraith, os bydd barnwr neu swyddog llywyddol arall mewn llys barn yn rhoi cyfarwyddyd y dylid eu datgelu, neu os bydd modd cyfawnhau hynny er budd y cyhoedd.
Bydd modd cyfawnhau datgeliadau er budd y cyhoedd pan fo’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd o beidio datgelu gwybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r claf ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng meddygon a chleifon, sy’n codi o ryddhau’r wybodaeth. Rhaid i chi wneud asesiad ar wahân ym mhob achos, gan ystyried cynnwys arfaethedig y recordiad, y ffordd y bydd yn cael ei ddefnyddio, hawliau’r claf i fanteisio ar barch tuag at eu preifatrwydd a’u hurddas, ac a oes angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd er mwyn cyfawni’r amcan. Am wybodaeth bellach ynghylch datgeliadau er budd y cyhoedd, trowch at ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion.8
Paragraff 63-70 o Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth am gleifion, darparu cyngor ar ddatgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd.
Gallwch ddatgelu recordiadau dienw neu wedi’u codio i’w defnyddio mewn gweithgarwch ymchwil, addysgu neu hyfforddi, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd heb sicrhau caniatâd. Wrth benderfynu a yw recordiad yn ddienw, dylech gofo bod manylion sy’n ymddangos yn rhai anarwyddocaol yn gallu dynodi manylion y claf. Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth sicrhau bod recordiadau o’r fath yn ddienw cyn eu defnyddio neu eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a deunyddiau dysgu eraill heb sicrhau caniatâd, os yw’r rhain yn cael eu hargraffu neu os ydynt ar gael mewn ffurf electronig.
Oedolion heb alluedd – creu recordiadau fel rhano’u gofal
Os byddwch yn barnu nad yw claf sy’n oedolyn yn meddu ar alluedd9 i benderfynu ynghylch ymchwiliad neu weithdrefn sy’n cynnwys creu recordiad, rhaid i chi sicrhau caniatâd rhywun sy’n meddu ar awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran y claf10 cyn creu’r recordiad.
Mae rhagor o ganllawiau ar asesu galluedd wedi’u nodi yn y ddogfen Gwneud Penderfyniadau a chydsyniad.
Atwrneiod lles a gwarcheidwaid a benodir gan lys (yr Alban); deiliaid atwrneiaethau arhosol a dirprwyon a benodir gan lys (Cymru a Lloegr).
Pan na fydd unrhyw unigolyn yn meddu ar awdurdod cyfreithiol i wneud y penderfyniad ar ran claf, neu pan fo’n rhaid darparu triniaeth ar unwaith, bydd modd creu recordiadau o hyd pan fyddant yn rhan annatod o ymchwiliad neu driniaeth yr ydych yn ei darparu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol neu gyfraith gwlad.11
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau am driniaeth a gofal ar gyfer cleifon heb alluedd yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban, Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000 sy’n delio â hyn. Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes deddfwriaeth sylfaenol berthnasol ar hyn o bryd, ac mae’r gyfraith gyffredin yn llywodraethu gweithgarwch penderfynu ar ran cleifon heb alluedd. Adeg cyhoeddi hwn, mae fframwaith deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol newydd yn cael ei ddatblygu.
Oedolion heb alluedd – datgelu a defnyddiorecordiadau wedi’u creu fel rhan o’r gofal
Pan fo recordiad eisoes wedi cael ei greu fel rhan o ofal y claf, ond y gallai fod o werth hefyd at ddiben eilaidd, dylech ddileu enw’r unigolyn o’r recordiad neu bennu cod ar ei gyfer pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol ac yn bodloni’r diben. Os na fydd modd sicrhau bod y recordiad yn ddienw neu os na fydd modd pennu cod ar ei gyfer, dylech geisio cytundeb unrhyw un sy’n meddu ar y grym cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran y claf. Os nad oes unigolyn wedi cael eu penodi, mae’r gyfraith yn eich caniatáu chi i benderfynu a oes modd defnyddio’r recordiad. Dylai’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad ei wneud er budd y cyhoedd, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol neu gyfraith gwlad (gweler paragraff 16).12
Bydd modd cyfawnhau datgeliadau er budd y cyhoedd pan fo’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd o beidio datgelu gwybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r claf ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng meddygon a chleifon, sy’n codi o ryddhau’r wybodaeth. Rhaid i chi wneud asesiad ar wahân ym mhob achos, gan ystyried cynnwys arfaethedig y recordiad, y ffordd y bydd yn cael ei ddefnyddio, hawliau’r claf i fanteisio ar barch tuag at eu preifatrwydd a’u hurddas, ac a oes angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd er mwyn cyfawni’r amcan. Am wybodaeth bellach ynghylch datgeliadau er budd y cyhoedd, trowch at ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion.8
Gellir datgelu gwybodaeth bersonol os bydd hynny o fudd i’r claf neu os bydd er budd gorau’r claf, ond nid yw hyn yn debygol o fod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau a drafodir yn y canllawiau hyn. Mae paragraffau 13-17 Cyfrinachedd: Datgelu gwybodaeth at ddibenion addysg a hyfforddiant yn rhoi cyngor ar ddatgelu gwybodaeth bersonol at ddibenion addysg a hyfforddiant am gleifion sydd heb alluedd.
Plant neu bobl ifanc – creu recordiadau fel rhano’r gofal
Gall plant neu bobl ifanc dan 16 oed sy’n meddu ar y galluedd a’r ddealltwriaeth i roi eu caniatâd i recordiad gael ei greu, wneud hynny, ond dylech eu hannog i gynnwys eu rhieni yn y broses o wneud y penderfyniad. Pan na fydd plentyn neu berson ifanc yn gallu deall natur, diben a chanlyniadau posibl y recordiad, rhaid i chi sicrhau caniatâd unigolyn sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant i greu’r recordiad.13 Dylech ddilyn y cyngor ym paragraphs 13 - 14 ynghylch ceisio caniatâd i greu recordiad, ac ym paragraphs 15 - 17 ynghylch datgelu a defnyddio recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o’r gofal.
Rhaid i chi sicrhau caniatâd y claf i greu recordiad sy’n rhan o’r ymchwiliad neu driniaeth ar gyfer cyfwr, neu sy’n cyfrannu at ofal y claf, ac eithrio dan yr amgylchiadau a ddisgrifr ym mharagraff 10. Dylech esbonio i’r claf y rheswm pam y byddai recordiad yn cynorthwyo gyda’u gofal, ffurf y recordiad, a’r ffaith y bydd yn cael ei storio mewn man diogel.
Pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol, dylech esbonio unrhyw ddefnydd eilaidd posibl a allai gael ei wneud o’r recordiad mewn ffordd ddienw neu gan ddefnyddio cod, wrth geisio caniatâd i greu’r recordiad. Dylech gofnodi elfennau allweddol y drafodaeth yng nghofnod meddygol y claf.
Mae recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o ofal y claf yn rhan o’r cofnod meddygol, a dylid eu trin yn yr un modd ag y bydd deunydd ysgrifenedig yn cael ei drin, o ran diogelwch a phenderfyniadau ynghylch datgeliadau. Felly, rhaid i chi ddilyn arweiniad CMC sy’n ymddangos yn Cyfrinachedd. Fel arfer, bydd angen i chi sicrhau caniatâd y claf cyn datgelu recordiadau y bydd modd adnabod y claf ohonynt (gweler paragraff 17). Ond, efallai y bydd modd gwneud datgeliadau pan fyddant yn ofynnol dan y gyfraith, os bydd barnwr neu swyddog llywyddol arall mewn llys barn yn rhoi cyfarwyddyd y dylid eu datgelu, neu os bydd modd cyfawnhau hynny er budd y cyhoedd.
Bydd modd cyfawnhau datgeliadau er budd y cyhoedd pan fo’r budd i unigolyn neu i gymdeithas o ddatgelu yn drech na’r budd i’r claf ac i’r cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Rhaid i chi bwyso’r niwed sy’n debygol o ddigwydd o beidio datgelu gwybodaeth, yn erbyn y niwed posibl i’r claf ac i’r ymddiriedaeth gyffredinol rhwng meddygon a chleifon, sy’n codi o ryddhau’r wybodaeth. Rhaid i chi wneud asesiad ar wahân ym mhob achos, gan ystyried cynnwys arfaethedig y recordiad, y ffordd y bydd yn cael ei ddefnyddio, hawliau’r claf i fanteisio ar barch tuag at eu preifatrwydd a’u hurddas, ac a oes angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd er mwyn cyfawni’r amcan. Am wybodaeth bellach ynghylch datgeliadau er budd y cyhoedd, trowch at ein harweiniad Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion.8
Gallwch ddatgelu recordiadau dienw neu wedi’u codio i’w defnyddio mewn gweithgarwch ymchwil, addysgu neu hyfforddi, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd heb sicrhau caniatâd. Wrth benderfynu a yw recordiad yn ddienw, dylech gofo bod manylion sy’n ymddangos yn rhai anarwyddocaol yn gallu dynodi manylion y claf. Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth sicrhau bod recordiadau o’r fath yn ddienw cyn eu defnyddio neu eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a deunyddiau dysgu eraill heb sicrhau caniatâd, os yw’r rhain yn cael eu hargraffu neu os ydynt ar gael mewn ffurf electronig.
Ceir gwybodaeth bellach am asesu galluedd a materion ynghylch caniatâd i blant a phobl ifanc yn ein harweiniad 0–18 oed: arweiniad i bob meddyg.