Gwneud a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion

Creu recordiadau tan gudd

54

Yr unig adeg y dylid creu recordiadau cudd yw pan na fydd unrhyw ffordd arall o sicrhau gwybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn ymchwilio i drosedd ddifrifol neu er mwyn erlyn rhywun am gyfawni trosedd ddifrifol, neu er mwyn diogelu rhywun rhag niwed difrifol. Gallai hyn godi mewn achosion pan geir rheswm dros amau bod plentyn yn cael eu niweidio gan riant neu ofalwr. Cyn bod modd cynnal unrhyw recordiad cudd, rhaid sicrhau bod hyn yn cael ei awdurdodi gan gorff perthnasol yn unol â’r gyfrait.24  Os byddwch yn ystyried creu recordiadau cudd, rhaid i chi drafod hyn gyda chydweithwyr, eich corff cyfogi neu gontractio, ac asiantaethau perthnasol, ac eithrio mewn achosion pan fyddai hyn yn tanseilio diben y recordiad, ac os felly, dylech geisio cyngor annibynnol. Rhaid i chi ddilyn arweiniad cenedlaethol neu leol.25 Ym mwyafrif yr achosion, dylai’r heddlu fod yn gyfrifol am gynnal recordiadau cudd.  

24

Nodir y cynllun ar gyfer awdurdodi yn ss.28- 30 Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 ac ss.5-8 Regulation of Investigatory Powers (Scotland) Act 2000

25

Safeguarding children in whom illness is fabricated or induced (Department for Children, Schools and Families guidance revised March 2008).

Covert Surveillance: Code of Practice (Scottish Government, 2003). 

Diogelu Plant ag arnynt Salwch Ffug neu Salwch Gwneud (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008). 

55

Bydd recordiadau cudd yn rhan o gwmpas Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 neu Regulation of Investigatory Powers (Scotland) Act 2000, pan fyddant yn cael eu defnyddio gan gorff cyhoeddus, megis corff GIG neu’r rhai sy’n cael eu contractio neu eu cyfogi gan gorff GIG. Os bydd amgylchiadau yn codi lle y gallech fod yn ymwneud gyda recordiadau cudd, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfo gyda gofynion y Ddeddf berthnasol.