Gwneud a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion

Recordio galwadau ffôn

56

Gall galwadau ffôn gan gleifon i sefydliadau gofal iechyd gael eu recordio am resymau cyfreithlon, er enghraifft, at ddibenion meddygol-gyfreithiol, hyfforddiant staff ac archwilio, os cymerwch bob cam rhesymol i roi gwybod i’r galwyr y gallai eu galwad gael ei recordio. O gofo natur sensitif y galwadau i linellau cyngor meddygol neu wasanaethau tebyg, dylech roi sylw penodol i sicrhau bod y galwyr yn ymwybodol y gallai eu galwad gael ei recordio. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud recordiadau cyfrinachol o alwadau gan gleifon.