Cleifon a fu farw
Recordiadau a gafodd eu creu pan oedd y claf ynfyw
Mae’r ddyletswydd gyfrinachedd yn parhau ar ôl i glaf farw. Mae Cyfrinachedd21 yn cynnwys arweiniad ynghylch datgeliadau yn dilyn marwolaeth claf. Dylech barchu dymuniadau hysbys claf yn dilyn eu marwolaeth. Er enghraifft, os gwnaethpwyd recordiad gyda chaniatâd y claf at ddiben penodol, megis ymchwil neu hyfforddiant, neu er mwyn ei ddarlledu mewn rhaglen ddogfen, gallwch ddefnyddio’r recordiad yn unol â chaniatâd y claf pan na fydd gennych unrhyw reswm dros gredu bod y caniatâd wedi cael ei dynnu yn ôl cyn iddynt farw. Gallwch ddefnyddio recordiadau dienw a gafodd eu creu pan oedd y claf yn fyw (gweler paragraff 17).
Gallwch ddatgelu recordiadau dienw neu wedi’u codio i’w defnyddio mewn gweithgarwch ymchwil, addysgu neu hyfforddi, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd heb sicrhau caniatâd. Wrth benderfynu a yw recordiad yn ddienw, dylech gofo bod manylion sy’n ymddangos yn rhai anarwyddocaol yn gallu dynodi manylion y claf. Dylech fod yn arbennig o ofalus wrth sicrhau bod recordiadau o’r fath yn ddienw cyn eu defnyddio neu eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a deunyddiau dysgu eraill heb sicrhau caniatâd, os yw’r rhain yn cael eu hargraffu neu os ydynt ar gael mewn ffurf electronig.
Mae rhagor o wybodaeth am ddatgelu gwybodaeth ar ôl i glaf farw wedi’i nodi ym mharagraffau 134-138 Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth am gleifion.
Fodd bynnag, os bydd y recordiadau yn eiddo i’r cyhoedd neu os bydd modd adnabod y claf ohonynt, bydd angen i chi ystyried a ddylid ymgynghori gyda theulu’r claf; er enghraifft, os bydd recordiad yn cynnwys gwybodaeth am gyfwr genetig, neu wybodaeth arall am deulu’r claf. Mewn achosion o’r fath, dylech geisio cyngor cyfreithiol gan eich corff cyfogi neu gontractio, neu gan eich sefydliad amddiffyn meddygol.22
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu arweiniad ynghylch rheoli gwybodaeth am yr ymadawedig.
Archwiliadau post-mortem
Caiff archwiliadau post-mortem eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth yn y DU.23 Dylech sicrhau eich bod yn cydymffurfo gyda’r gyfraith, gan ddilyn unrhyw god ymarfer perthnasol.
Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn darparu’r fframwaith ar gyfer rheoleiddio meinweoedd dynol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gan yr Alban ei deddf ei hun, Human Tissue (Scotland) Act 2006. Mae’r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cyhoeddi Cod Ymarfer 3 – Archwiliadau post mortem (2009) a Chod Ymarfer 1 – Caniatâd (2009).
Gall recordiadau fod yn rhan annatod o archwiliad post-mortem ac ni fydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer creu recordiadau o organau, darnau o’r corff neu sleidiau patholeg er mwyn cynorthwyo i benderfynu achos marwolaeth. Fodd bynnag, dylai gwybodaeth i berthnasau ynghylch yr archwiliad post-mortem gynnwys esboniad ynghylch pam y bydd angen gwneud recordiad efallai.
Os hoffech wneud recordiadau o’r corff, organau neu feinwe yn ystod archwiliad post-mortem, at ddiben eilaidd fel addysgu neu ymchwil, dylech geisio cael caniatâd ar yr un pryd ag y ceisiwch ganiatâd i gynnal yr archwiliad. Os nad ydych chi wedi rhagweld y posibilrwydd hwn, cewch wneud recordiadau (gan gynnwys ffotograffau o sleidiau patholeg) at ddibenion eilaidd heb ganiatâd, os nad ydynt yn cynnwys delweddau a allai adnabod yr unigolyn.
Nid oes angen ichi gael caniatâd i ddefnyddio recordiadau at ddibenion eilaidd os ydy’r recordiadau’n ddienw cyn eu defnyddio; gweler paragraff 48 i gael arweiniad ar recordiadau o gleifon ymadawedig a allai gael eu cyhoeddi yn eiddo cyhoeddus.
Ar gyfer archwiliadau post-mortem a gynhelir gan grwner, dylech ofyn i’r crwner neu’r Procuradur Ffsgal cyn cymryd delweddau o feinwe yn ystod archwiliad post-mortem at ddibenion ac eithrio’r rhai a awdurdodwyd gan y crwner neu’r Procuradur Ffsgal.