Gwneud a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion

Storio a gwaredu recordiadau

57

Bydd recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o ofal y claf yn rhan o’r cofnod meddygol. Rhaid eu trin yn yr un modd ag y bydd cofnodion meddygol eraill yn cael eu trin, a dylech fod yn eglur ynghylch y cyfrifoldeb dros reoli a defnyddio recordiadau o’r fath. Os byddwch yn creu recordiad at ddiben eilaidd, rhaid i chi fodloni’ch hun bod cytundeb yn cael ei sicrhau ynghylch perchnogaeth, hawlfraint a hawliau eiddo deallusol y recordiad.

58

Gall recordiadau dienw fod yn berchen i gorff cyfogi neu gontractio. Dylech sicrhau eich bod yn deall eich hawliau cytundebol neu’ch hawliau eraill i gadw a defnyddio recordiadau o’r fath, yn enwedig os byddwch yn newid corff cyfogi neu gontractio. Os bydd gennych unrhyw amheuaeth, dylech geisio cyngor gan Warcheidwad Calidcott neu rywun cyfatebol. 

59

Mae adrannau iechyd y DU yn cyhoeddi arweiniad ynghylch hyd y cyfnod y dylid cadw cofnodion iechyd a sut y dylid cael gwared arnynt. Mae’r arweiniad yn sôn am recordiadau sy’n cael eu creu fel rhan o ofal claf neu fel rhan o waith ymchwil. Dylech ddilyn yr arweiniad os ydych yn gweithio o fewn GIG neu beidio.26 

26

Cod Ymarfer y GIG Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Y Gynghrair Llywodraethu Gwybodaeth, 2016); Rheoli Cofnodion: Cod Ymarfer y GIG (Yr Alban) (Llywodraeth yr Alban, 2012), Cylchlythyr Iechyd Cymru (2000) 71: I’r Cofnod (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2000) a Good Management, Good Records (Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus, 2011) i gyd yn cynnwys cyngor ar storio a gwaredu recordiadau a wnaed fel rhan o ofal claf neu ran o ymchwil.