Gwneud a defnyddio recordiadau gweledol a sain o gleifion

Recordiadau a gaiff eu creu at ddibenionymchwil, addysg neu eilaidd

Casgliadau sy’n bodoli eisoes ac a ddefnyddir atddibenion addysgu a hyfforddi

22

Er 1997, mae’n harweiniad wedi gofyn bod meddygon yn sicrhau caniatâd cyn creu recordiadau nad ydynt yn rhan o ofal claf. Fodd bynnag, mae rhai meddygon yn cadw casgliadau o recordiadau a grëwyd dros nifer o fynyddoedd ac a ddefnyddir ganddynt at ddibenion addysgu yn unig o fewn lleoliad meddygol. Gallai rhai recordiadau o fewn y casgliadau hyn, a gynhyrchwyd cyn 1997, barhau i fod o werth arwyddocaol at ddibenion addysgu. Mewn amgylchiadau o’r fath, gallwch barhau i ddefnyddio recordiadau dienw. Yn ogystal, gallwch barhau i ddefnyddio recordiadau pan fo modd adnabod y claf ohonynt, ar yr amod bod gennych gofnod sy’n nodi bod caniatâd wedi cael ei sicrhau i’r recordiad gael ei greu neu ei ddefnyddio.

23

 Ni ddylech ddefnyddio recordiadau na cheir cofnod ynghylch a sicrhawyd caniatâd ar eu cyfer neu beidio: 

  • pan y bydd yn amlwg o’r cyd-destun nas rhoddwyd caniatâd i’r recordiad 
  • pan fo modd adnabod y claf, neu pan allai fod modd eu hadnabod.

Oedolion sy’n meddu ar alluedd – creurecordiadau at ddibenion eilaidd

24

Rhaid i chi sicrhau caniatâd cyn creu recordiadau at ddibenion addysgu, hyfforddi, asesu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr, ymchwil, a dibenion eraill sy’n ymwneud â gofal iechyd. Mae’n arfer da sicrhau caniatâd ysgrifenedig y claf, ond os na fydd hyn yn ymarferol, dylid sicrhau caniatâd y claf ar lafar. Dylid storio caniatâd ysgrifenedig neu gofnod o’r caniatâd a roddwyd ar lafar, gyda’r recordiad.

25

Bydd recordiadau yn amrywio o ffotograffau syml i recordiadau sain a gweledol o ymgynghoriadau sy’n cynnwys trafodaethau personol ac emosiynol. Bydd swm y gwybodaeth y dylech ei darparu cyn ceisio caniatâd yn amrywio gan ddibynnu ar natur y recordiad, sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, a phryderon y claf unigol. Cyn creu’r recordiad, dylech esbonio: 

  • tdiben y recordiad a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio
  • am ba mor hir y bydd y recordiad yn cael ei gadw, a sut y bydd yn cael ei storio 
  • y gall cleifon wrthod rhoi eu caniatâd, neu dynnu eu caniatâd yn ôl yn ystod y recordiad neu’n syth ar ôl ei gwblhau, ac na fydd hyn yn effeithio ar ansawdd y gofal y byddant yn ei gael, neu eu perthynas gyda’r rhai sy’n darparu gofal ar eu cyfer. 
26

Dylech gyfeu’r wybodaeth hon i gleifon mewn ffordd y gallant ei deall. Rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau a ofynnir gan gleifon mewn ffordd mor gyfawn a gonest ag y gallwch. Dylech ddarparu unrhyw gymorth ychwanegol y bydd ei angen ar gleifon er mwyn deall y wybodaeth hon, er mwyn cyfeu eu dymuniadau neu er mwyn gwneud penderfyniad. Mae modd gweld cyngor pellach yn nogfen Gwneud penderfyniadau a chaniatâd.14 

14

Ceir rhagor o arweiniad ar rannu gwybodaeth ym mharagraffau 11, 13b, 21, 27-29 o Gwneud penderfyniadau a chydsyniad

27

Mewn rhai achosion, er nas cynlluniwyd recordiad, byddai recordiad o ddatblygiad annisgwyl yn ystod triniaeth neu ymchwiliad yn cynnig offeryn addysgol gwerthfawr (recordiad heb ei gynllunio). Pan fydd claf yn meddu ar alluedd i roi eu caniatâd, dylech geisio’u cytundeb i greu’r recordiad. Dylech stopio’r recordiad os bydd y claf yn gofyn i chi wneud hynny. Ni ddylech greu recordiadau at ddibenion eilaidd heb sicrhau caniatâd neu awdurdod cyfreithiol arall. 

Oedolion y mae ganddynt gyfyrau a allai amharuar alluedd

28

Rhaid i chi asesu galluedd y claf i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y bydd angen ei gwneud. Os na fydd claf yn meddu ar alluedd i wneud rhai penderfyniadau, ni ddylech gymryd yn ganiataol nad ydynt yn meddu ar alluedd i wneud unrhyw benderfyniadau o gwbl, neu na fyddant yn gallu gwneud y penderfyniad yn y dyfodol. Er enghraifft, efallai na fydd rhai cleifon yn meddu ar alluedd i bwyso a mesur risgiau a manteision triniaethau arwyddocaol, ond efallai y byddant yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid caniatáu i recordiad ohonynt gael ei greu neu beidio. 

29

Cyn penderfynu a yw cleifon yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad, rhaid i chi gymryd yr holl gamau ymarferol a phriodol er mwyn eu galluogi i wneud y penderfyniad drostynt eu hunain; er enghraifft, trwy ddefnyddio cymhorthion gweledol neu ieithyddol syml, neu thrwy gynnwys gofalwr neu aelod o’r teulu. 

30

Mae modd gweld cyngor pellach ynghylch manteisio’n llawn ar allu claf i wneud penderfyniadau ac asesu galluedd yn nogfen Gwneud penderfyniadau a chaniatâd.15  

15

Mae arweiniad ar faterion yn ymwneud â galluedd wedi’u nodi yn Gwneud penderfyniadau a chydsyniad, paragraffau 76-86.

Oedolion heb alluedd

31

Pan na fydd claf yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad, rhaid i chi weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.16 Mae hyn yn golygu, wrth wneud unrhyw benderfyniad ynghylch neu ar ran y claf, gan gynnwys creu recordiadau ohonynt at ddibenion eilaidd (ac eithrio dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 33), dylech deimlo’n fodlon bod creu recordiad: 

  • yn angenrheidiol ac yn cynnig budd neu’r budd pennaf i’r claf
  • n na fyddai modd cyfawni’r diben mewn ffordd a fyddai’n cyfyngu llai ar hawliau a dewisiadau’r claf. 
16

Gweler troednodyn 11 am grynodeb o’r gyfraith. 

32

Pan fydd unigolyn arall yn meddu ar awdurdod cyfreithiol i benderfynu ar ran y claf, rhaid iddynt weithredu’r un egwyddorion cyn rhoi neu wrthod caniatâd.  

33

Mae'r gyfraith yn darparu rhai eithriadau o'r egwyddorion hyn i alluogi oedolion nad oes ydynt yn meddu ar alluedd i gymryd rhan mewn ymchwil; a gall recordiadau fod yn rhan o ymchwil o'r fath. I gael rhagor o gyngor am gynnwys oedolion sydd heb alluedd mewn ymchwil, gweler ein canllawiau Arferion da mewn ymchwil.17 

17

Ceir arweiniad ynghylch cynnwys oedolion heb alluedd mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 23-35 Caniatâd i waith ymchwil.

Plant neu bobl ifanc

34

Gall plant neu bobl ifanc dan 16 oed sydd â’r galluedd a’r ddealltwriaeth i gydsynio i recordiad wneud hynny, ond dylech eu hannog i gynnwys eu rhieni yn y broses o wneud penderfyniadau. Os nad yw plentyn neu berson ifanc yn meddu ar alluedd i gydsynio i wneud recordiad wedi’i gynllunio neu heb ei gynllunio, gall person sydd â chyfrifoldeb rhiant gydsynio ar ei ran. Fodd bynnag, dylech roi’r gorau i recordio os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn gwrthwynebu ar lafar neu drwy ei weithredoedd, os yw’n dangos gofid mewn ffyrdd eraill am y recordiad, neu os yw’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gofyn i chi stopio. Am arweiniad pellach gweler 0-18 oed ac am arweiniad ar gynnwys plant mewn ymchwil gweler Arfer da mewn ymchwil.18 

18

Ceir cyngor ynghylch cynnwys plant neu bobl ifanc mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 36-40 0-18 oed: arweiniad i bob meddyg

Ceir arweiniad ynghylch yr ystyriaethau penodol mewn perthynas â cheisio a gweithredu ar sail caniatâd i blant neu bobl ifanc gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ym mharagraffau 14-20 Caniatâd i waith ymchwil.  

35

Pan fydd plentyn neu berson ifanc wedi datblygu’r aeddfedrwydd i wneud penderfyniadau ynghylch recordiadau drostynt eu hunain, dylech fanteisio ar unrhyw gyfe sy’n codi i gynnig y dewis iddynt i dynnu’r caniatâd a roddwyd yn faenorol gan rywun sy’n meddu ar gyfrifoldeb rhiant, yn ôl, neu i amrywio’r caniatâd hwnnw:

  • os bydd modd neu os y gallai fod modd adnabod y plentyn neu’r person ifanc o’r recordiad
  • os bydd yn ymarferol resymol i weithredu yn unol â dymuniadau’r plentyn neu’r person ifanc.