Arfer da mewn ymchwil
Mae ymchwil yn achub bywydau ac yn hanfodol i wella gofal cleifion ac iechyd y boblogaeth. Mae pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi ymchwil. Gallai hyn olygu:
- codi ymwybyddiaeth cleifion o gyfleoedd i gymryd rhan
- recriwtio pobl ar gyfer treialon clinigol ac astudiaethau eraill
- dylunio, trefnu a chynnal prosiectau ymchwil
- hybu gweithgarwch ymchwil a defnyddio tystiolaeth ymchwil.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gennych, sut bynnag byddwch chi’n cefnogi ymchwil. Byddant yn eich helpu i sicrhau eich bod yn gweithio yn unol â’r gyfraith a threfniadau llywodraethu ymchwil y DU, fel y nodir yn Fframwaith Polisi’r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (y Fframwaith Polisi), fel y mae’n berthnasol i’ch gwaith.
Daeth y canllawiau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2024