Arfer da mewn ymchwil 

Atodiad B – Rhagor o adnoddau

Cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil

Mae gwefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn disgrifio’r (Saesneg yn unig) gwahanol ffyrdd y gall cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys adnodd (Saesneg yn unig) a all helpu pobl i gael gwybod am astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cael eu cynnal ledled y DU.

Yn seiliedig ar waith ymchwil gan Brifysgol Rhydychen, mae Healthtalk.org (Saesneg yn unig) yn cynnwys fideos lle mae pobl yn siarad am eu profiad o gymryd rhan mewn ymchwil fel claf neu aelod o’r cyhoedd. Maent yn ymdrin â phynciau fel:

  • cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil, a pham ei fod yn bwysig
  • gwahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd
  • anawsterau a rhwystrau rhag cymryd rhan
  • awgrymiadau ar gyfer ymchwilwyr iechyd proffesiynol.

Adnoddau dysgu a hyfforddi ar gyfer pobl sy’n ymwneud ag ymchwil 

Mae gwefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd yn cyfeirio at nifer o adnoddau (Saesneg yn unig) dysgu ar gyfer y gymuned ymchwil. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau dysgu a modiwlau eDdysgu.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn darparu amrywiaeth o adnoddau (Saesneg yn unig) i helpu pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymchwil. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, hyfforddiant i bobl sy’n newydd i ymchwil iechyd a gofal. Ceir hefyd gyrsiau hyfforddi ar Ymarfer Clinigol Da (GCP) ar gyfer pobl sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil glinigol yn y GIG, prifysgolion y DU a sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr.

Canllawiau cenedlaethol ar fynd i'r afael â gwrthdaro rhwng buddiannau mewn ymchwil

Mae'r canlynol yn rhestr anghyflawn o ganllawiau a gyhoeddwyd gan gyrff cenedlaethol ynghylch mynd i'r afael â gwrthdaro rhwng buddiannau mewn ymchwil: