Atodiad A – Dyfyniadau o Arfer meddygol da
Parth 1: Gwybodaeth, sgiliau a datblygiad
Cyflwyniad
Mae ymarfer meddygol yn daith gydol oes. Mae cadw i fyny â newidiadau cymdeithasol, cyfreithiol a datblygiadau technolegol yn golygu dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd â chynnal eraill. Mae rhannu gwybodaeth – a gafwyd drwy ymchwil ac arloesi, yn ogystal â phrofiad – yn hanfodol i fod yn weithiwr meddygol proffesiynol.
Mae gweithwyr meddygol proffesiynol da yn gymwys, yn diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau ac yn darparu safon dda o ymarfer a gofal. Maen nhw’n ymdrechu i ddatblygu a gwella eu perfformiad proffesiynol. Maen nhw’n myfyrio’n rheolaidd ar eu safonau ymarfer ac yn defnyddio adborth a thystiolaeth i ddatblygu mewnwelediad personol a phroffesiynol.
Bod yn gymwys
Rhaid i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu.
Ystyried cyfleoedd ymchwil
Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o gyflyrau iechyd, a chynyddu’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gweithgarwch atal, triniaeth a gofal effeithiol. Dylech ystyried cyfleoedd i gynnal neu gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a allai gynnig budd i gleifion presennol a/neu yn y dyfodol, a helpu i wella iechyd y boblogaeth. Dylech ddweud wrth gleifion os ydych yn ymwybodol o gyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn gwaith ymchwil priodol.
Parth 2: Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu
Cefnogi cleifion i wneud penderfyniadau am driniaeth a gofal
Rhaid i chi fod yn fodlon bod gennych ganiatâd neu awdurdod dilys arall cyn archwilio neu drin cleifion, neu gynnwys cleifion neu wirfoddolwyr mewn gwaith addysgu neu ymchwil. Rhoddir mwy o fanylion am hyn yn ein canallawiau Gwneud penderfyniadau a chydsynio, y mae’n rhaid i chi eu dilyn.
Rhannu gwybodaeth gyda chleifion
Os gofynnir i gleifion gytuno bod yn rhan o waith addysgu neu waith ymchwil, rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth y bydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud penderfyniad ac mae’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ym mharagraff 86 ac yn ein canllawiau mwy manwl am Arfer da mewn ymchwil.
Parth 4: Ymddiriedaeth a phroffesiynoldeb
Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb ym maes ymchwil
Wrth gynllunio, trefnu neu gyflawni gwaith ymchwil, rhaid i chi roi buddiannau’r cyfranogwyr yn gyntaf. Rhaid i chi weithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb, gan ddilyn canllawiau cenedlaethol ar gyfer llywodraethu gwaith ymchwil a’n canllawiau mwy manwl, Arfer da mewn ymchwil.