Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.
Maes 3: Galluoedd clinigol a phroffesiynol
Mae’r maes hwn yn amlinellu’r sgiliau, yr ymddygiadau a’r nodweddion sydd eu hangen er mwyn darparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol, gan weithredu fel aelod cymwys a chyfrifol o’r tîm gofal iechyd.
Mae’r galluoedd wedi’u rhannu’n:
- Sgiliau proffesiynol
- Gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol.
Mae’r categorïau hyn yn cyd-fynd ag Outcomes for graduates a’r Generic professional capabilities framework – mae’r ddwy ddogfen yn adlewyrchu’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau proffesiynol a nodir yn Arfer meddygol da.
Yn ogystal â gofal uniongyrchol i gleifion, mae'r galluoedd hyn yn cynnwys hunanymwybyddiaeth, rhesymu clinigol, cyfathrebu, gwaith tîm, arweinyddiaeth, a gwneud penderfyniadau moesegol. Mae’n rhaid i feddyg sydd newydd gymhwyso allu asesu, gwneud diagnosis, a rheoli cleifion, cyfathrebu’n effeithiol, a chymryd rhan mewn ymarfer myfyriol i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.
Disgwylir i feddygon ddangos gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol, e.e. drwy fod yn deg, osgoi gwahaniaethu, a helpu cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus. Gall ymgeiswyr MLA ddatblygu a phrofi eu dealltwriaeth o Arfer meddygol da (a'r canllawiau manylach sy’n deillio ohono) gan ddefnyddio'r adnoddau canlynol:
- Arfer meddygol da
- Y safonau proffesiynol gan gynnwys Arfer meddygol da a’r canllawiau manylach
- Good medical practice in action: adnodd ar-lein rhyngweithiol
- Welcome to UK Practice: case studies
Mae Cyflawni arfer meddygol da: canllawiau ar gyfer myfyrwyr meddygol yn dangos sut mae egwyddorion Arfer meddygol da yn berthnasol i fyfyrwyr meddygol.
Mae rhai rhannau o’r maes hwn yn cynnwys disgrifyddion i gynnig cyd-destun ychwanegol ar gyfer pob pennawd. Bwriad y disgrifyddion yw arwain dealltwriaeth ac ni ddylid eu ystyried eu bod yn gynhwysfawr nac yn gyfyngedig o ran cwmpas.
Sgiliau proffesiynol
Cael a gwerthuso gwybodaeth berthnasol am y claf drwy archwilio hanes ac iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl yn briodol, creu rhestr wedi’i blaenoriaethu o broblemau a diagnosau gwahaniaethol
Mae hefyd yn cynnwys meithrin perthynas therapiwtig â’r claf, ystyried a chymryd camau priodol ynglŷn â ffactorau cyd-destunol perthnasol, fel:
- ffactorau cymdeithasol (e.e. cyflogaeth ac addasrwydd i ymarfer, tai, statws mudo)
- ffactorau ffordd o fyw (e.e. rhoi’r gorau i ysmygu, ymarfer corff, deiet)
- rhwystrau rhag cael gafael ar ofal neu reoli iechyd (e.e. llythrennedd digidol, mynediad at drafnidiaeth)
- unrhyw nodweddion a warchodir gan ddeddfwriaeth gan gynnwys oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol a sut gallai’r rhain groestorri â’i gilydd
- nodweddion personol perthnasol eraill nad ydynt yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth (e.e. hunaniaeth rhywedd, cefndir diwylliannol).
- Arfer meddygol da (‘Darparu gofal clinigol da’)
- Outcomes for graduates ‘Communication and interpersonal skills’ a ‘Diagnosis and medical management’)
- Arfer meddygol da (‘Darparu gofal clinigol da’)
- Outcomes for graduates (‘Diagnosis and medical management’)
Llunio cynlluniau rheoli mewn achosion brys ac acíwt, a rheoli cleifion yn amlawdriniaethol
Mae hefyd yn cynnwys cydnabod y posibilrwydd o salwch difrifol, a chychwyn ar y camau cychwynnol i’w reoli, a rheoli meddyginiaethau’r claf.
- Outcomes for graduates (‘Diagnosis and medical management’)
Llunio cynlluniau rheoli ar gyfer cyflyrau cronig
Mae hefyd yn cynnwys cydnabod y posibilrwydd o salwch difrifol a chychwyn ar y camau cychwynnol i’w reoli ac adsefydlu.
- Outcomes for graduates (‘Diagnosis and medical management’)
Llunio cynlluniau rheoli i hybu iechyd ac atal salwch
Mae hefyd yn cynnwys cleifion unigol a’r boblogaeth, ac mewn partneriaeth â’r claf, ystyried y canlynol:
- ffactorau cymdeithasol a ffordd o fyw
- rhwystrau rhag cael gafael ar ofal a rheoli eu hiechyd
- galwedigaeth ac addasrwydd i weithio
- adsefydlu
- Arfer meddygol da (‘Darparu gofal clinigol da’, ‘Rhannu gwybodaeth gyda cleifion’ a ‘Gofalu am y claf cyfan’)
- Outcomes for graduates (‘Health promotion and illness prevention’)
Cyfathrebu’n effeithiol â chleifion, perthnasau, partneriaid, gofalwyr ac eiriolwyr eraill
Mae hefyd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a dangos sgiliau rheoli, fel:
- darganfod beth sy’n bwysig i’r claf
- rhannu gwybodaeth briodol am y dewis o driniaethau, gan gynnwys yr opsiwn i benderfynu mynd heb driniaeth
- adnabod gwahaniaethau ac anghenion o ran dulliau cyfathrebu, gan wneud addasiadau priodol, a gofyn am gymorth pan fo angen.
- Arfer meddygol da (‘Maes 2: Cleifion, partneriaeth a chyfathrebu’) a Gwneud penderfyniadau a chydsynio i gael arweiniad ar y ddeialog â chleifion sy’n arwain at benderfyniad, gan gynnwys rhannu gwybodaeth (mae hyn yn cynnwys cleifion sydd â diffyg galluedd a phryd i gynnwys eraill yn y broses o wneud penderfyniad)
- Outcomes for graduates (‘Communication and interpersonal skills’ a ‘Diagnosis and medical management’)
Dangos dealltwriaeth o gyfrinachedd, cydsyniad a galluedd cleifion wrth ddarparu gofal
- Arfer meddygol da, (‘Maes 2: Partneriaeth a chyfathrebu’)
- Gweler Gwneud penderfyniadau a chydsynio i gael arweiniad ar gynnal sgyrsiau â chleifion, rhannu’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau, a sicrhau eich bod wedi cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gan y claf. Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau pan fydd gan gleifion ddiffyg galluedd.
- Mae Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion yn amlinellu egwyddorion cyfrinachedd ac yn darparu fframwaith i’ch helpu i benderfynu pryd a pham y dylai gwybodaeth am gleifion gael ei rhannu. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar reoli a diogelu gwybodaeth, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ar ôl i glaf farw.
- Outcomes for graduates (‘Professional and ethical responsibilities’)
Presgripsiynu, adolygu, cyfleu a monitro effeithiau meddyginiaethau yn ddiogel ac yn effeithiol
Mae hefyd yn cynnwys:
- stopio neu newid meddyginiaethau pan fydd hynny’n briodol
- presgripsiynu cymhleth (ee, amlgyffuriaeth)
- presgripsiynu hylifau a chynhyrchion gwaed yn ddiogel
- a gweinyddu meddyginiaethau’n ddiogel (gan gynnwys nwyon meddygol) pan fydd hynny’n briodol
- Mae Arfer da wrth bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau yn rhoi canllawiau manylach ar safonau proffesiynol ar gyfer cynnig, presgripsiynu, neu ddarparu a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.
- Outcomes for graduates (‘Prescribing medicines safely’)
Rheoli poen
- Arfer meddygol da (‘Trin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch’)
Cynnal triniaethau’n ddiogel
- Outcomes for graduates (‘Diagnosis and medical management’, Outcome 13)
Cymryd rhan mewn dulliau cyfannol o reoli cleifion lliniarol a diwedd oes
Mae hefyd yn cynnwys rheoli symptomau cleifion sy’n agosáu at ddiwedd oes.
- Mae Triniaeth a gofal tuag at ddiwedd oes: arfer da wrth wneud penderfyniadau yn darparu fframwaith i helpu meddygon i ddiwallu anghenion cleifion sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes.
- Outcomes for graduates (‘Diagnosis and medical management’, Outcome 15)
Gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol
Ymddwyn yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol (gan gynnwys egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant)
Mae hefyd yn cynnwys:
- deall a rhoi ar waith y cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol a nodir yn Arfer meddygol da ac yn y canllawiau manylach – fel terfynau proffesiynol, credoau personol, defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, mynegi pryderon a gweithredu arnynt, y ddyletswydd gonestrwydd a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau
- adnabod rhagfarn ddiarwybod ac ymwybodol tuag at unigolion a grwpiau, a datblygu strategaethau i fynd i’r afael â hynny.
- Gweler Arfer meddygol da a’r ystod o ganllawiau manylach, sy’n ymhelaethu ar rai o’r safonau a nodwyd yn Arfer meddygol da.
- Outcomes for graduates (‘Professional behaviours’, ‘Professional and ethical responsibilities’, a ‘Legal responsibilities’)
Diogelu cleifion sydd yn agored i niwed
Mae hefyd yn cynnwys adnabod cleifion sydd yn agored i niwed, a chymryd camau priodol yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol.
- Gweler Arfer meddygol da (‘Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef niwed’) ar gyfer egwyddorion diogelu ochr yn ochr a’r canllaw Plant a phobl ifanc a’n hwb Diogelu oedolion.
- Gweler hefyd Gwneud penderfyniadau a chydsynio i gael arweiniad ar y canlynol: os ydych chi’n poeni na fydd claf yn gallu gwneud penderfyniad o’i wirfodd o bosibl, a gwneud penderfyniadau pan fydd gan gleifion ddiffyg galluedd.
- Outcomes for graduates (‘Safeguarding vulnerable patients’)
Delio’n briodol â chymhlethdod ac ansicrwydd, gan gynnwys rheoli amlforbidrwydd a blaenoriaethu tasgau
Mae hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth sefyllfaol, a gwybod sut a phryd i ofyn am help e.e.:
- os oes gennych chi amheuon am dasg sydd wedi cael ei dirprwyo i chi
- os ydych chi’n teimlo y gallai tasg wedi’i dirprwyo fod y tu hwnt i derfynau eich cymhwysedd
- os ydych yn credu nad oes gennych chi lefel briodol o oruchwyliaeth glinigol.
- Gweler hefyd Arfer meddygol da (‘Dirprwyo mewn ffordd ddiogel a phriodol’) “Os bydd cydweithiwr yn dirprwyo tasg i chi ond nid ydych chi’n teimlo’n hyderus eich bod yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau neu’r hyfforddiant i’w chyflawni yn ddiogel, rhaid i chi flaenoriaethu diogelwch y claf a cheisio cymorth, hyd yn oed os byddwch eisoes wedi cytuno i gyflawni’r dasg yn annibynnol.”
- Outcomes for graduates (‘Dealing with complexity and uncertainty’)
Cyfathrebu a gweithio’n effeithiol, yn barchus ac yn gefnogol fel aelod o’r tîm
Mae hefyd yn cynnwys arweinyddiaeth, a chydnabod a myfyrio ar ymddygiad gwael (eich hun a chydweithwyr) a chymryd unrhyw gamau dilynol priodol.
- Arfer meddygol da (‘Maes 3: ‘Cydweithwyr, diwylliant a diogelwch’)
- Outcomes for graduates (‘Leadership and team working’)
Rheoli risg
Mae hefyd yn cynnwys gweithio mewn amodau heriol, gwybod sut a phryd i fynegi pryderon am ddiogelwch cleifion, a defnyddio systemau adrodd am faterion diogelwch.
- Arfer meddygol da (‘Maes 3: Cydweithwyr, diwylliannt a diogelwch’)
- Mae Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a chymryd camau yn archwilio pwy yw'r person neu'r sefydliad gorau i chi fynegi pryderon gyda nhw, a sut i godi eich pryderon
- Outcomes for graduates (‘Professional and ethical responsibilities’)
Defnyddio a chofnodi gwybodaeth yn ddiogel ac yn effeithiol
- Mae Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion yn cynnwys canllawiau ar reoli a diogelu gwybodaeth am gleifion
- Outcomes for graduates (‘Using information effectively and safely’)
Defnyddio canllawiau sy’n berthnasol yn effeithiol, a gwerthuso’n feirniadol yr wybodaeth a’r dystiolaeth wrth asesu claf
Mae hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a'r dystiolaeth y mae’r claf yn ei rhannu.
- Outcomes for graduates (‘Using information effectively and safely’)
Dangos ymarfer myfyriol
Mae hefyd yn cynnwys gofyn am adborth.
- Arfer meddygol da (‘Cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad’)
- Gweler The Reflective practitioner i gael arweiniad ar egwyddorion ymarfer myfyriol
Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd hunanofal a llesiant personol
- Arfer meddygol da (‘Rheoli risgiau a achosir gan eich iechyd’)
- Outcomes for graduates (‘Professional and ethical responsibilities’)