Ymwadiad

Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.

Map cynnwys yr MLA

Gwybodaeth am fap cynnwys yr MLA

Mae map cynnwys yr Asesiad Trwyddedu Meddygol (MLA) yn rhan o'r ddogfen ganlynol ac wedi'i hatodi iddi: Assuring readiness for practice: a framework for the MLA.

Pwrpas yr MLA yw sicrhau bod meddygon sy’n ceisio cael eu cofrestru â thrwydded i ymarfer meddygaeth yn y DU wedi cyrraedd trothwy ar gyfer ymarfer diogel sy’n briodol i’w pwynt mynediad ar y gofrestr feddygol..

Mae dwy elfen i’r MLA: prawf gwybodaeth gymhwysol (AKT) ac asesiad sgiliau clinigol a phroffesiynol (CPSA), lle gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn barod i ymarfer yn ddiogel a’u bod yn gallu ymdopi ag ansicrwydd a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf. Map cynnwys yr MLA yw’r fframwaith sy’n sail i gynnwys y prawf gwybodaeth gymhwysol a’r asesiad sgiliau clinigol a phroffesiynol.

Themâu sylfaenol

Rhaid i feddygon sy’n dechrau ar eu hymarfer meddygol yn y DU allu darparu gofal diogel mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd clinigol – o reoli cleifion sydd â chyflyrau cyffredin fel mater o drefn, i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth ac ansicr.

Mae hyd a lled yr ymarfer hwn yn cael ei adlewyrchu mewn tair thema sy'n sail i'r map cynnwys ac sy'n llywio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau craidd sy'n ofynnol er mwyn dechrau ymarfer yn y DU:

Bod yn barod i ymarfer yn ddiogel

Y gallu i ddelio’n gymwys ag argyfyngau a phroblemau iechyd acíwt, yn ogystal â phryderon iechyd a llesiant cronig cyffredin, a rhai anghyffredin ond difrifol, mewn gwahanol leoliadau yn system gofal iechyd y DU.

Ymdopi ag ansicrwydd

Y gallu i ddelio ag ansicrwydd o ran diagnosis, prognosis a thriniaeth, gan wybod pryd a sut i ofyn am gymorth, uwchgyfeirio gofal a gwneud penderfyniadau clinigol sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Darparu gofal holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Gwrando’n weithredol a helpu cleifion i wneud penderfyniadau; cydnabod effaith cydforbidrwydd, eiddilwch a chyd-destun cymdeithasol; gweithio’n effeithiol ac yn broffesiynol mewn timau amlbroffesiwn ac amlddisgyblaethol mewn gwahanol leoliadau i ddarparu gofal holistaidd i gleifion, gan ddilyn y fframwaith moesegol yn y ddogfen Arfer meddygol da.

Yn y ddogfen Outcomes for graduates, rydym yn amlinellu'r hyn y mae'n rhaid i'r holl raddedigion sydd newydd gymhwyso yn ysgolion meddygol y DU ei wybod a bod yn gallu ei wneud er mwyn ymarfer yn ddiogel fel meddygon yn Rhaglen Sylfaen y DU. Mae’r tair thema sy’n sail i fap cynnwys yr MLA ac yn cydredeg drwyddo, yn seiliedig ar brif ddeilliant Outcomes for graduates:

‘Myfyrwyr meddygol yw meddygon yfory. Yn unol ag Arfer meddygol da, rhaid i feddygon sydd newydd gymhwyso sicrhau mai gofalu am gleifion yw eu blaenoriaeth, defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn modd cymwys, moesegol a phroffesiynol, a chymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd eu hunain mewn sefyllfaoedd cymhleth ac ansicr’.

Mae'r prif ddeilliant hwn yr un mor berthnasol i feddygon rhyngwladol sy'n dod i weithio yn y DU ac ydyw i feddygon sy'n dechrau ar flwyddyn gyntaf hyfforddiant y Rhaglen Sylfaenol ar ôl graddio mewn ysgolion meddygol yn y DU.

Beth sy’n rhan o fap cynnwys yr MLA?

Mae’r map cynnwys yn amlinellu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau craidd a ddisgwylir gan feddygon sy’n dechrau ar eu hymarfer meddygol yn y DU. Mae wedi ei lywio gan y dogfennau canlynol, ac yn cyd-fynd â nhw:

  • Arfer meddygol da: Mae'n nodi'r egwyddorion, y gwerthoedd, a’r safonau ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob meddyg sydd wedi cofrestru â'r GMC. Rhaid i feddygon gydnabod bod cleifion yn unigolion ag anghenion amrywiol sy’n haeddu parch. Rhaid iddynt ystyried ffactorau cyd-destunol, a gweithio ar y cyd â chleifion i asesu eu hanghenion a’u blaenoriaethau mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu.
  • Outcomes for graduatesMae’r rhain yn pennu deilliannau gorfodol sy’n cyd-fynd â’r safonau proffesiynol sydd wedi eu nodi yn Arfer meddygol da. Er nad yw'r map cynnwys yn atgynhyrchu'r deilliannau hyn yn llawn – ni ellir asesu rhai agweddau drwy'r prawf gwybodaeth gymhwysol (AKT) nac asesiad sgiliau clinigol a phroffesiynol (CPSA) (e.e. gwybodaeth am sut mae gwasanaeth iechyd y DU yn gweithio, neu gynnal portffolio datblygiad proffesiynol) – mae'n bwysig nodi bod rhaid i fyfyrwyr basio'r MLA a bodloni'r holl ofynion academaidd a bennir gan eu prifysgol er mwyn graddio o ysgol feddygol yn y DU.
  • Generic professional capabilities framework: Mae’n diffinio’r galluoedd hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gofal meddygol diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel yn y DU, sy’n adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn Arfer meddygol da.
  • Rhannau perthnasol o gwricwlwm Rhaglen Sylfaen y DU: Mae’r rhain yn adlewyrchu sefyllfaoedd nodweddiadol y mae meddygon sy’n gweithio yn Rhaglen Sylfaen y DU yn eu hwynebu.
  • Casgliad craidd o wybodaeth glinigol, a ddisgwylir ar y cam hwn mewn hyfforddiant: Cyflwynir hyn drwy gyflyrau ac ymgyflwyniadau (presentations) clinigol, gan ddarparu fframwaith o’r hyn y disgwylir i feddygon sy’n sefyll asesiad MLA ei ddeall a’i roi ar waith yn ymarferol.

Strwythur map cynnwys yr MLA

Mae map cynnwys yr MLA wedi'i drefnu'n chwe maes:

  • Maes 1 – Meysydd ymarfer clinigol
  • Maes 2 – Meysydd gwybodaeth broffesiynol
  • Maes 3 – Galluoedd clinigol a phroffesiynol
  • Maes 4 – Triniaethau a sgiliau ymarferol
  • Maes 5 – Ymgyflwyniadau cleifion
  • Maes 6 – Cyflyrau (sylwch: nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth, ond mae’n amlygu cyflyrau craidd)

Mae pob maes yn cynnwys disgrifiad o’i bwrpas ac wedi eu cynllunio i fod yn gysylltiedig â’i gilydd yn hytrach nag yn annibynnol o’i gilydd. Anogir ymgeiswyr i archwilio ac ystyried cysylltiadau ar draws meysydd.

Er enghraifft, mae syndromau coronaidd acíwt yn cynnwys grŵp o gyflyrau sy’n effeithio ar y system gardiofasgwlaidd. Mae disgwyl i ymgeiswyr:

  • ddeall anatomeg rhydwelïau coronaidd
  • dehongli symptomau a’r arwyddion clinigol yng nghyd-destun ymgyflwyniadau cleifion, a
  • ffurfio diagnosis gwahaniaethol i lywio’r broses o reoli'r diagnosis yn briodol.

Pan fyddant yn berthnasol, mae’r meysydd yn cyfeirio at ein safonau proffesiynol, gan gynnwys Arfer meddygol da, yn ogystal â’n safonau, deilliannau a’n canllawiau addysg. Mae hyn yn helpu ymgeiswyr a darparwyr asesiadau i ddeall beth yw’r cyd-destun a’r bwriad y tu ôl i’r cynnwys.

Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru map cynnwys yr MLA gyda diwygiadau amserol, gan sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau craidd sydd eu hangen ar feddygon sy'n dechrau ar eu hymarfer meddygol yn y DU, ar eu pwynt mynediad perthnasol ar y gofrestr.