Ymwadiad

Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.

Map cynnwys yr MLA

Maes 4: Triniaethau a sgiliau ymarferol

Y rhestr o sgiliau ymarferol a thriniaethau sy’n ategu Outcomes for graduates yw’r maes hwn. Mae’n nodi’r sgiliau, y triniaethau a’r lefelau cymhwysedd y mae’n rhaid i feddygon sydd newydd gymhwyso eu cyflawni er mwyn ymarfer yn ddiogel pan fyddant yn dechrau gweithio.

Mae’r maes hwn – ynghyd â ‘Galluoedd clinigol a phroffesiynol’ – yn arbennig o berthnasol i Asesiadau o Sgiliau Proffesiynol a Chlinigol (CPSAs).