Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.
Maes 5: Ymgyflwyniadau cleifion
Mae’r maes hwn yn cynnwys arwyddion, symptomau, canlyniadau ymchwiliadau a materion eraill sy’n ymwneud â chleifion y mae meddygon yn aml yn dod ar eu traws yn Rhaglen Sylfaen y DU.
Mae disgwyl i ymgeiswyr ddatblygu diagnosiau gwahaniaethol strwythuredig ac eang, gan ystyried yr holl sbectrwm o gyflyrau sylfaenol - gan gynnwys y rhai sydd heb gael eu rhestru’n unigol ym map cynnwys yr MLA. Rhaid iddynt gydnabod bod cleifion yn aml yn ymgyflwyno â mwy nag un broblem gydamserol a bod cydforbidrwydd yn gallu newid y darlun clinigol.
Hefyd, dylai ymgeiswyr gydnabod y gall cleifion:
- fod heb unrhyw arwyddion na symptomau amlwg o salwch
- disgrifio eu symptomau yn eu geiriau eu hunain, mewn ffordd nad yw o bosibl yn cyd-fynd yn dwt â rhestrau sydd wedi’u diffinio’n barod.
Felly, rhaid i ymgeiswyr barhau i addasu a defnyddio rhesymeg glinigol sy’n adlewyrchu realiti ymarfer clinigol o ddydd i ddydd.
A–Y ymgyflwyniadau cleifion
A
- Addasrwydd i yrru
- Aflonyddwch Meddwl
- Alergedd a/ neu anoddefiad bwyd
- Alergedd/adwaith alergaidd
- Allrediad eisbilennol
- Amnesia
- Amenorea
- Anabledd deallusol
- Anaemia
- Anaf acíwt i'r arennau
- Anaf i feinwe feddal
- Anaf i'r pen
- Anaffylacsis
- Anawsterau ymddygiad yn ystod plentyndod
- Anffrwythlondeb/ tanffrwythlondeb
- Anffurfiadau cyhyrysgerbydol
- Anhrefn meddwl
- Annormaleddau cynhenid
- Annormaleddau o ran electrolytau
- Annormaleddau o ran ewinedd
- Anosmia
- Ansadrwydd
- Anymataliaeth ysgarthol
- Archwiliadau llesiant
- Ataliad cardioresbiradol
B
- Babi’n crïo
- Babi’n marw’n sydyn heb esboniad
- Beichiogrwydd a gofal cyn geni arferol
- Beichiogrwydd anfwriadol a therfynu beichiogrwydd
- Braich neu goes ddiguriad
- Braich neu goes wedi chwyddo
- Brathiadau a phigiadau
- Brech â smotiau gwaedu/pwrpwrig
- Brech ar y croen (acíwt a chronig)
- Brechu
- Briw(iau) ar y croen
- Bygwth neu feddwl am niweidio eraill
- Bysedd poenus/coch/oer
C
- Cael trafferth ymdopi â gweithgareddau bywyd bob dydd
- Caethiwed
- Cais/cyngor am atal cenhedlu
- Cam-drin ac esgeuluso plentyn
- Cam-drin domestig
- Cam-drin pobl hŷn
- Cam-drin rhywiol
- Camddefnyddio sylweddau
- Canfyddiadau damweiniol
- Canlyniad annormal mewn prawf ceg y groth
- Cerddediad annormal
- Claf amdriniaethol
- Claf ar therapi gwrthblatennau
- Claf ar therapi gwrthgeulo
- Claf sy’n dirywio
- Clefyd cronig ar yr arennau
- Clefyd melyn
- Cleisiau
- Cloffni mewn braich neu goes
- Clust boenus
- Colli adlewyrchiad coch o’r llygad
- Colli clyw
- Colli cof
- Colli gwallt
- Colli pwysau
- Corffyn estron
- Crychguriadau
- Crygni a newid yn y llais
- Cryndod
- Cur pen
- Cyanosis
- Cyfbilen a chroen gwelw
- Cyfog
Ch
- Chwydd yn yr abdomen
- Chwydu
- Chwydd yn yr wyneb/ o amgylch y llygaid
- Chwyrnu
- Chwysu yn y nos
D
- Dadhydradiad
- Datblygiad annormal/ oedi mewn datblygiad
- Diffyg anadl
- Diffyg symudedd
- Diffyg twf
- Diplopia
- Dolur gwddf
- Dolur rhydd
- Dryswch (acíwt a chronig)
- Dysmenorhea
E
- Eiddilwch
- Enwresis y nos
- Epistacsis
- Esgor
- Esgoriad cymhleth (gan gynnwys cymhlethdodau wrth esgor)
F
- Fwlfa yn cosi/ nam ar y fwlfa
Ff
- Ffasgelliad
- Ffimosis/paraffimosis
- Ffitiau
- Fflachiadau a brychau mewn meysydd golwg
G
- Geni’n gynnar
- Glasoed hwyr/ cynnar
- Gofal a chymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth
- Gofal diwedd oes/ symptomau o salwch terfynol
- Gorddos
- Gorflinder
- Gorfywiogrwydd a/ neu fethu canolbwyntio
- Gorgyfogi
- Gormod o wallt
- Gwaedlif enfawr
- Gwaedu annormal o'r wain
- Gwaedu ar ôl geni
- Gwaedu cyn geni (antepartum)
- Gwaedu o’r rectwm
- Gwendid mewn braich neu goes
- Gwendid niwrogyhyrol
- Gwendid yn yr wyneb
- Gwenwyno
- Gwich
- Gynaecomastia
H
- Haematemesis
- Haematwria
- Haemoptysis
- Hanes teuluol o anhwylder genetig posibl
- Hunan-esgeuluso
- Hunan-niweidio
L
- Lwmp o dan y croen
- Lwmp yng nghesail y forddwyd
- Lwmp yn y fron
- Lwmp yn y fwlfa/ wain
- Lwmp yn y gwddf
- Lymffadenopathi
Ll
- Lleferydd dan bwysedd
- Llewygu
- Llithriad y rectwm
- Llithriad y wain
- Llosgiadau
- Llygad coch
- Llygaid croes
M
- Magu pwysau
- Marwolaeth a marw
- Marwolaeth yn y groth
- Màs yn y pelfis
- Màs yn yr abdomen
- Meddwl am hunanladdiad
- Melaena
- Menopos/perimenopos
- Murmur ar y galon
- Myalgia/poen yn y cyhyrau
- Mynd yn llai ymwybodol/mynd yn anymwybodol
N
- Nam ar y croen
- Newid mewn archwaeth bwyd
- Newid mewn arferion ysgarthu
- Newid mewn hwyliau
- Newid mewn synhwyriad, diffyg teimlad a phinnau bach
- Newid mewn ymddygiad/ personoliaeth
- Newid yn lliw’r carthion
- Newid yn symudiadau’r ffetws/ llai o symudiadau gan y ffetws
- Newidiadau i’r golwg neu golli golwg (acíwt a graddol)
- Nodyn ffitrwydd
O
- Oedema perifferol a chwydd yn y ffêr
- Oligwria/anwria
- Organomegaledd
P
- Pendro
- Peswch
- Plentyn â dysmorffia
- Plentyn sâl
- Plentyn sy’n gloff
- Poen a/ neu lwmp/chwydd yn y sgrotwm/ceilliau
- Poen cefn
- Poen wrth anadlu i mewn
- Poen wrth gael cyfathrach rywiol
- Poen yn y frest
- Poen yn y pelfis
- Poen yn yr abdomen (acíwt a chronig)
- Poen yn yr esgyrn
- Poen yn yr wyneb
- Poen yn yr ystlys
- Poen/ chwydd/stiffrwydd yn y cymalau (acíwt a chronig)
- Poen/stiffrwydd yn y gwddf
- Poen/teimlad anesmwyth yn y llygaid
- Poen/tynerwch yn y fron
- Polydipsia (syched)
- Prawf wrin annormal
- Problemau bwydo babanod
- Problemau cysgu
- Problemau iaith a lleferydd
- Problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl rhoi genedigaeth
- Problemau llyncu
- Prwritis
- Pryderon ynghylch galluedd meddyliol
- Ptosis
- Pwerperiwm
- Pwysedd gwaed isel
- Pwysedd gwaed uchel
Rh
- Rhedlif o’r glust a’r trwyn
- Rhedlif o’r nipl
- Rhedlif o’r wain
- Rhedlif o'r wrethra, a briwiau/ dafadennau ar yr organau cenhedlu
- Rheoli poen (acíwt a chronig)
- Rhiant pryderus
- Rhithdybiau
- Rhithweledigaethau
- Rhwyg/ anaf i’r croen
- Rhwymedd
- Rhwystr yn y trwyn
S
- Sioc
- Stridor
- Symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol
- Symptomau o amgylch yr anws
- Symptomau wrinol
- Symudiadau anwirfoddol
- Syrthio
T
- Tagu
- Teimlo’n orbryderus
- Tinitws
- Trafferthion rhywiol
- Trawma bach
- Trawma i’r llygaid
- Trawma mawr
- Twymyn
Y
- Y bendro
- Ymddygiad annormal o ran bwyta neu ymarfer corff
- Yn fach/ mawr wrth ystyried oed y ffetws