Ymwadiad

Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.

Map cynnwys yr MLA

Maes 1: Meysydd ymarfer clinigol

Mae’r maes hwn yn canolbwyntio ar gyd-destun darparu gofal gan gwmpasu cymysgedd o arbenigeddau, systemau'r corff a mathau o gleifion. Mae’n adlewyrchu cymhlethdod ymarfer meddygol a'r gwahanol leoliadau gofal a senarios cleifion y mae meddygon yn debygol o ddod ar eu traws yn ystod Rhaglen Sylfaen y DU.

Mae gofal holistaidd i gleifion yn gofyn am reolaeth gydweithredol, amlbroffesiwn ac amlddisgyblaethol. Yn hytrach na chategoreiddio arbenigeddau'n llym, mae’r maes hwn yn darparu canllawiau i ddeall cyd-destun ehangach gofal meddygol.

Mae rhannau o’r maes hwn yn cynnwys disgrifyddion sy’n cynnig cyd-destun ychwanegol ar gyfer pob pennawd. Bwriad y disgrifyddion yw arwain dealltwriaeth ac ni ddylid eu hystyried yn gynhwysfawr nac yn gyfyngedig o ran cwmpas.

Meysydd ymarfer clinigol

Acíwt ac argyfwng

  • Mae’n cynnwys tocsicoleg glinigol a meddygaeth gofal dwys

Anadlol

  • Mae’n cynnwys llawdriniaethau thorasig

Anaesthesia a meddygaeth amlawdriniaethol

  • Mae’n cynnwys rheoli poen

Arennol ac wroleg

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Canser

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Cardiofasgwlaidd

  • Mae’n cynnwys llawdriniaethau fasgwlaidd a chardiaidd

Cyhyrysgerbydol

  • Mae’n cynnwys trawma, orthopaedeg a rhiwmatoleg

Delweddu clinigol

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Dermatoleg

  • Mae’n cynnwys llosgiadau

Endocrin, diabetes a metaboleg

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Gastroberfeddol

  • Mae'n cynnwys hepatoleg, llawdriniaethau rhan uchaf ac isaf y llwybr gastroberfeddol, llawdriniaethau hepatofustlaidd a phancreatig.

Gofal lliniarol a gofal diwedd oes

  • Mae’n cynnwys rheoli poen

Haematoleg glinigol

  • Mae’n cynnwys trallwysiadau gwaed a chynnyrch gwaed

Haint

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Iechyd meddwl

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Iechyd plant

  • Mae'n cynnwys babanod, plant, pobl ifanc a phontio i ofal oedolion

Iechyd rhyw

  • Mae’n cynnwys iechyd atgenhedlol, atal a thrin heintiau, a llesiant rhywiol

Llawfeddygaeth

  • Mae’n cynnwys trawsblannu a llawfeddygaeth gyffredinol, llawfeddygaeth blastig, llawfeddygaeth y fron, a llawfeddygaeth yr ên, yr wyneb a’r geg

Meddygaeth deulu a gofal iechyd sylfaenol

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Meddygaeth oedolion hŷn

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Niwrowyddorau

  • Mae’n cynnwys niwrolawfeddygaeth

Obstetreg a gynaecoleg

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Offthalmoleg

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.

Y glust, y trwyn a’r gwddf

Ardal ymarfer clinigol gydnabyddedig.