Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.
Atodiad 1: Cyflyrau wedi’u categoreiddio yn ôl systemau’r corff
Mae’r cyflyrau wedi’u categoreiddio yn ôl systemau'r corff er mwyn helpu ymgeiswyr i ddeall yn well beth yw’r berthynas rhwng cyflyrau ac i ymgysylltu â'r deunydd yn fwy effeithiol.
Bwriad y categoreiddio yw darparu canllaw ymarferol a dylid ei ddehongli gyda synnwyr cyffredin. Sylwch ar y canlynol:
- Mae pob cyflwr yn ymddangos unwaith ymhob categori. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ei atal rhag cael ei asesu yng nghyd-destun systemau eraill y corff. E.e. mae llosgiadau wedi’u rhestru o dan croen a meinwe meddal, ond gallent gael eu hasesu hefyd yng nghyd-destun iechyd plant.
- Dylai ymgeiswyr nodi hefyd nad yw’r categoreiddio hwn yn adlewyrchu'r arbenigeddau sydd fel arfer yn gysylltiedig â rheoli’r cyflyrau a restrir. Er enghraifft, mae llid madreddol y ffasgell yn effeithio ar y croen ac fel arfer byddai'n cael ei drin gan lawfeddygon neu ddwysegyddion, yn hytrach na dermatolegwyr.
Ein dull gweithredu yw darparu arweiniad a chefnogaeth gyffredinol i ymgeiswyr.
Gwaed a lymff
- Adweithiau i drallwysiad gwaed
- Amlmyeloma
- Anaemia
- Anhwylderau ar y platennau (gan gynnwys thrombocytosis, thrombocytopenia)
- Anhwylderau ceulo (gan gynnwys haemoffilia, clefyd Von Willebrand, a thromboffilia, ac eilaidd i salwch neu feddyginiaeth)
- Anhwylderau myelo-luosogol
- Ceulo gwasgarog mewnfasgwlaidd (DIC)
- Clefyd y crymangelloedd
- Dueg ddiffygiol/ sblenectomi
- Ffilm gwaed annormal
- Haemoglobinopathïau
- Lewcemia
- Lymffoma
- Niwtropenia (gan gynnwys sepsis niwtropenig)
- Pancytopenia
- Polycythaemia
- Pwrpwra thrombocytopenig idiopathig (ITP)
Croen a meinwe meddal
- Acne vulgaris
- Arwyddion o glefyd systemig ar y croen (gan gynnwys acanthosis nigricans, livedo reticularis a petechiae/ pwrpwra)
- Briwiau ar y croen (gan gynnwys briwiau rhydwelïol, gwythiennol a niwropathig)
- Clefyd crafu
- Dafadennau ar y croen
- Dermatitis cyffwrdd
- Dolur gwasgu
- Ecsema/ dermatitis atopig
- Ffolicwlitis a Hidradenitis suppurativa
- Haemangioma
- Haint ffwngaidd ar y croen
- Impetigo
- Lichen planus
- Lipoma
- Llid madreddol y ffasgell
- Llid yr isgroen
- Llosgiadau
- Nam anfalaen ar y croen (gan gynnwys man geni melanosytig, syst epidermaidd, dermatoffeibroma, ceratosis seborhëig, ceratosis actinig)
- Namau malaen/ cyn-falaen ar y croen (gan gynnwys clefyd Bowen, melanoma malaen, carsinoma celloedd gwaelodol, carsinoma celloedd cennog)
- Nodoswm gwritgoch
- Psoriasis
- Rosacea
- Syndrom Stevens-Johnson/ necrolysis epidermaidd gwenwynig (TEN)
- Wrticaria
Llygaid
- Achludiad gwythïen ganolog y retina
- Achludiad rhydweli ganolog y retina
- Anhwylderau anfalaen ar yr amrannau (gan gynnwys bleffaritis, ectropion/ entropion, calasion, hordeolwm)
- Briw/ crafiad ar y gornbilen
- Cataractau
- Ceratitis heintus
- Cyflyrau llidiol ar y llygaid (gan gynnwys sgleritis, episgleritis, wfeitis)
- Datgysylltiad y retina
- Dirywiad macwlar
- Glawcoma acíwt
- Glawcoma cronig
- Gwaedlif islaw’r gyfbilen
- Llid ar y gyfbilen
- Llid yr isgroen creuol ac o amgylch y llygaid
- Namau ar y maes golwg
- Niwritis optig
- Papiloedema
- Retinopathi gorbwysedd
Endocrin a metabolig
- Acromegaledd
- Aldosteronedd sylfaenol
- Cetoasidosis diabetig (DKA)
- Clefyd Graves (gan gynnwys clefyd thyroid y llygaid)
- Cyflwr hyperglycaemig hyperosmolar (HHS)
- Cyn-ddiabetes
- Diabetes mellitus
- Diffyg hormonau adrenal (sylfaenol ac eilaidd)
- Ffaeocromosytoma
- Gorbarathyroidedd/ isbarathyroidedd
- Gorthyroidedd/ thyrotocsicosis
- Haemocromatosis
- Hyperlipidaemia
- Hyperprolactinaemia
- Hypobitwidedd
- Hypoglycaemia
- Isthyroidedd
- Neffropathi diabetig
- Niwropathi diabetig
- Retinopathi diabetig
- Syndrom ailfwydo
- Syndrom Cushing
- Syndrom metabolig
- Syndrom secrediad hormon gwrthddiwretig amhriodol (SIADH)
- Tiwmorau pitwidol
- Ymwrthedd/ diffyg fasobwysydd arginin (diabetes insipidus)
Fasgwlaidd a’r galon
- Anewrysm aortig
- Anewrysmau, achludiadau braich neu goes isgemig
- Annigonoldeb gwythiennol (gan gynnwys gwythiennau faricos)
- Ataliad y galon
- Bradyarhythmias (gan gynnwys rhwystr AV)
- Cardiomyopathi
- Clefyd cynhenid y galon
- Clefyd falfiau ochr dde’r galon
- Clefyd fasgwlaidd perifferol
- Clefyd isgemia’r galon (gan gynnwys angina sefydlog)
- Clefyd pericardiaidd (gan gynnwys pericarditis, allrediad pericardiaidd, tamponâd cardiaidd)
- Clefyd y falf aortig
- Clefyd y falf feitrol
- Difyniad aortig
- Difyniad carotid
- Emboledd ysgyfeiniol
- Emboledd/ thrombosis rhydwelïol
- Endocarditis heintus
- Gorbwysedd (heb reswm neu eilaidd)
- Gorbwysedd ysgyfeiniol
- Llesmair (gan gynnwys un fasofagol, cardiaidd)
- Madredd
- Methiant y galon
- Myocarditis
- Pwysedd gwaed isel ystumiol/ orthostatig
- Rhwystr yn y fena cafa uchaf
- Sioc
- Syndromau coronaidd acíwtTacyarhythmias (gan gynnwys ffibriliad atrïaidd, cryndod atrïaidd, tacycardia uwchfentriglaidd, torsades de pointes, tacycardia fentriglaidd, ffibriliad fentriglaidd)
- Thrombosis gwythiennau dwfn
Yr ysgyfaint, eisbilen a llwybrau anadlu
- Allrediad eisbilennol
- Apnoea cwsg rhwystrol
- Asthma
- Ataliad anadlol
- Bronciectasis
- Broncitis acíwt
- Canser yr ysgyfaint
- Clefyd galwedigaethol ar yr ysgyfaint
- Clefyd interstitaidd ar yr ysgyfaint (gan gynnwys clefyd ffeibrotig ar yr ysgyfaint)
- Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- Crawniad ar yr ysgyfaint
- Empyema
- Gorgyffyrddiad asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- Haint yn rhan isaf y system anadlu
- Methiant anadlol
- Niwmonia
- Niwmothoracs
- Sarcoidosis
- Syndrom diffyg anadlol acíwt (ARDS)
Y llwybr gastroberfeddol
- Camamsugniad
- Canser gastrig
- Canser y colon a'r rhefr
- Canser yr oesoffagws
- Clefyd adlifiad gastro-oesoffageol (gan gynnwys Oesoffagws Barrett)
- Clefyd coeliag
- Clefyd gwythiennau faricos (gan gynnwys gwythiennau faricos oesoffagaidd)
- Clefyd llid y coluddyn (gan gynnwys clefyd Crohn, colitis wlserol)
- Clefyd y cildro a llid y cildro
- Colitis heintus (gan gynnwys Clostridium difficile)
- Cwlwm perfedd
- Dolur rhydd heintus (gan gynnwys gastroenteritis heintus)
- Ffistwla a chrawniad o amgylch yr anws
- Gastritis a chlefyd wlser peptig
- Gwaedu gastroberfeddol (gwaedu yn rhan uchaf ac isaf y llwybr gastroberfeddol)
- Haemoroidau
- Hernia/ torgest
- Hernia/ torgest bylchol
- Ilëws a rhwystr yn y coluddyn
- Isgemia’r coluddyn
- Llid y pendics
- Llithriad y rectwm
- Megacolon gwenwynig
- Peritonitis
- Rhwyg Mallory-Weiss
- Rhwyg yn yr anws
- Rhwymedd
- Syndrom coluddyn llidus (IBS)
- Trydylliad gastroberfeddol
Afu/iau, y pancreas, a system y bustl
- Asgites (gan gynnwys peritonitis bacterol heb reswm)
- Canser y pancreas
- Carsinoma hepatogellog
- Clefyd cronig ar yr afu/ iau (gan gynnwys anghydadferiad a sirosis yr afu/iau)
- Clefyd steatotig yr afu/ iau sy’n gysylltiedig â chamweithrediad metabolig (MASLD)
- Clefyd yr afu/iau sy’n gysylltiedig ag alcohol
- Colangitis acíwt
- Colesystitis
- Colig bustlog a cherrig y bustl
- Crawniad ar yr afu/ iau
- Hepatitis (gan gynnwys hepatitis feirysol, awto-imiwn, ac alcoholaidd)
- Methiant yr afu/ iau
- Pancreatitis acíwt
- Pancreatitis cronig
Genetig a chynhenid
- Clefyd Huntington
- Ffeibrosis systig
- Syndrom Down
- Syndrom Ehlers-Danlos
- Syndrom Klinefelter
- Syndrom Marfan
- Syndrom Turner
Llwybr gynaecolegol
- Canser ceg y groth
- Canser endometriaidd
- Canser y fwlfa
- Canser yr ofarïau
- Clefyd llidus y pelfis
- Dirdro ofarïaidd
- Ectropion serfigol
- Endometriosis
- Faginosis bacterol
- Ffeibroidau
- Lichen sclerosus
- Llithriad y wain
- Menopos/ perimenopos
- Sgrinio serfigol (feirws papiloma dynol)
- Syndrom cenhedlol-wrinol y menopos
- Syndrom ofarïau polysystig (PCOS)
- Systiau ar yr ofarïau
- Terfynu beichiogrwydd
Beichiogrwydd a’r pwerperiwm
- Anghydnawsedd grŵp gwaed yn ystod beichiogrwydd
- Beichiogrwydd ectopig
- Beichiogrwydd lluosog
- Camesgoriad a marwolaeth yn y groth
- Clefyd melyn mewn beichiogrwydd
- Corioamnionitis
- Cymhlethdodau esgor (gan gynnwys camgyflwyniad, dystocia’r ysgwydd, esgor cynamserol, llithriad y llinyn bogail)
- Diabetes yn ystod beichiogrwydd (yn ystod cyfnod y beichiogrwydd ac sy’n bodoli’n barod)
- Gordewdra yn ystod beichiogrwydd
- Gwaedlif antepartwm
- Gwaedlif ar ôl geni
- Hyperemesis gravidarum
- Placenta praevia
- Polyhydramnios/ oligohydramnios
- Pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd (gan gynnwys pwysedd gwaed uchel yn ystod cyfnod y beichiogrwydd, cyneclampsia, eclampsia)
- Thromboemboledd gwythiennol (VTE) yn ystod beichiogrwydd a phwerperiwm
- Vasa praevia
- Ymwahaniad buan y brych
Llwybr cenhedlol-wrinol gwrywod
- Canser y ceilliau
- Canser y pidyn
- Canser y prostad
- Dirdro’r ceilliau
- Ffimosis/paraffimosis
- Hydrosel/faricosel/syst epididymol
- Hyperplasia prostatig anfalaen
- Prostatitis, epididymitis ac orcitis
Ymennydd a madruddyn y cefn
- Anaf i fadruddyn y cefn
- Anhwylderau cur pen sylfaenol (gan gynnwys meigryn, cur pen clwstwr, cur pen oherwydd tyndra)
- Clefyd niwronau motor
- Crawniad yn yr ymennydd
- Cryndod
- Cyflwr epileptig
- Cywasgiad madruddyn y cefn
- Deliriwm
- Dementia (gan gynnwys dementia Alzheimer, dementia cyrff Lewy, dementia blaen-arleisiol, dementia fasgwlaidd)
- Enseffalitis
- Enseffalopathi Wernicke/ syndrom Wernicke-Korsakoff
- Epilepsi
- Gorbwysedd idiopathig mewngreuanol
- Gwaedlif allddwral
- Gwaedlif islaw’r dwra
- Gwaedlif islaw'r aracnoid
- Gwasgedd mewngreuanol uwch
- Llid yr Ymennydd
- Parkinsoniaeth (gan gynnwys clefyd Parkinson)
- Parlys yr ymennydd ac enseffalopathi isgemig hypocsig
- Pyliau isgemig byrhoedlog (TIA)
- Sglerosis ymledol (MS)
- Strôc
- Swanoma festibwlar (niwroma acwstig)
- Tiwmorau ar yr ymennydd (cynradd ac eilaidd)
- Thrombosis sinws gwythiennol yr ymennydd (CVST)
Y system nerfol berifferol a’r cysylltle niwrogyhyrol
- Guillain Barré/ polyniwropathi llidiol sy'n dadfyelineiddio
- Myasthenia gravis
- Niwralgia trigeminal
- Niwropathi awtonomig
- Niwropathi perifferol
- Nychdod cyhyrol
- Parlys Bell
- Parlys/ anafiadau yn y nerfau perifferol
- Radicwlopathïau
Iechyd meddwl
- Adwaith acíwt i straen
- Anhwylder affeithiol deubegynol (gan gynnwys mania/ hypomania)
- Anhwylder defnyddio sylweddau
- Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
- Anhwylder gamblo
- Anhwylder gorbryder cyffredinol
- Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD)
- Anhwylder panig
- Anhwylder personoliaeth
- Anhwylder rhithdybiol
- Anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD)
- Anhwylder seicotig
- Anhwylder sgitsoaffeithiol
- Anhwylder straen ôl-drawmati
- Anhwylder symptomau somatig
- Anhwylderau bwyta
- Dysfforia a/ neu anghyfathiant rhywedd
- Ffobiâu (gan gynnwys agoraffobia)
- Hunan-niweidio
- Iselder
- Iselder ar ôl geni
- Rhoi’r gorau i yfed alcohol, a rhoi’r gorau i gymryd opioidau
- Seicosis ar ôl geni
- Sgitsoffrenia
Clust, trwyn a gwddf (ENT)
- Canser y pen a’r gwddf (gan gynnwys chwarennau poer, breuannol a geneuol)
- Canser y thyroid
- Clefyd Ménière
- Colesteatoma
- Crawniad ar yr ysbinagl/ o amgylch y tonsiliau
- Epiglotitis
- Fertigo lleoliadol ysbeidiol anfalaen (BPPV)
- Gwaedlif o’r trwyn
- Haint yn rhan uchaf y system anadlu
- Llid y droellfa/ niwritis festibwlar
- Llid y ffaryncs/ tonsilitis
- Llid y mastoid
- Llid y sinysau
- Llid yn rhan allanol y glust
- Llid yn rhan ganol y glust
- Nodylau’r thyroid
- Polypau'r trwyn
- Rheoli/ perygl i’r llwybr anadlu
- Rhwyg yn nhympan y glust
Iechyd Plant
- Adenitis mesenterig
- Alergedd i brotein llaeth buwch
- Anhwylderau clun/ coes yn ystod plentyndod (gan gynnwys clefyd Perthes, llithriad epiffysis rhan uchaf y forddwyd, dysplasia datblygiadol y glun)
- Argyfyngau llawfeddygol y newydd-anedig (gan gynnwys Stenosis pylorig, Llawesiad)
- Atresia’r bustl
- Brechau feirysol (gan gynnwys y frech goch, rwbela, farisela)
- Bronciolitis
- Canser yn ystod plentyndod (gan gynnwys retinoblastoma)
- Ceilliau heb ddisgyn
- Clefyd Kawasaki
- Clefyd melyn y newydd-anedig (gan gynnwys clefyd melyn patholegol a ffisiolegol)
- Dysplasia broncoysgyfeiniol (clefyd newyddenedigol cronig ar yr ysgyfaint)
- Crŵp
- Diffyg twf
- Enterocolitis madru
- Ffitiau gwres
- Genedigaeth gynamserol
- Y dwymyn goch
- Y pas
Heintiau
- Candidiasis
- Clamydia
- Clwy’r pennau
- COVID-19
- Crawniad
- Faginalis tricomonadaidd
- Feirws farisela soster
- Feirws herpes simplecs
- Feirws imiwnoddiffyg dynol (HIV)
- Ffliw
- Gonorea
- Gwres uchel heb reswm
- Haint clwyf llawfeddygol
- Haint feirws papiloma dynol
- Heintiau a gafwyd yn yr ysbyty
- Heintiau milheintiol (gan gynnwys clefyd Lyme)
- Helicobacter pylori
- Malaria
- Mononiwcleosis heintus (gan gynnwys feirws Epstein-Barr, cytomegalofeirws)
- Rwbela
- Sepsis (gan gynnwys sepsis niwtropenig)
- Syffilis
- Syndrom sioc wenwynig
- Teiffoid
- Tetanws
- Tiwberciwlosis
- Tocsoplasmosis
- Y frech goch
Bron
- Canser y fron
- Ffeibroadenoma
- Mastitis/ crawniad ar y fron
- Systiau ar y fron
Arennau a’r llwybr wrinol
- Anaf acíwt i’r arennau
- Annormaledd yn y cydbwysedd asid-bas
- Anymataliaeth wrinol
- Canser arennol
- Canser y bledren
- Cerrig yn y llwybr wrinol
- Clefyd arennau polysystig
- Clefyd arennol camau terfynol (gan gynnwys trawsblaniad a therapi adfer arennol)
- Clefyd cronig ar yr arennau
- Fasgwilitis IgA
- Glomerwloneffritis
- Haint ar y llwybr wrinol
- Hydroneffrosis
- Hypercalaemia/ hypocalaemia
- Hypercalcaemia/ hypocalcaemia
- Hyponatraemia/ hypernatraemia
- Methu gwagio'r bledren/ wropathi rhwystrol
- Pyeloneffritis
- Rhabdomyolysis
- Syndrom neffrotig
Cyhyrysgerbydol
- Anaf i feinwe feddal
- Arteritis celloedd mawr
- Arthritis gwynegol
- Arthritis idiopathig yr ifanc
- Arthritis septig
- Arthropathi crisialau
- Bwrsitis
- Cymhlethdodau’n ymwneud â thorri esgyrn (gan gynnwys syndrom adrannol, diffyg asiad, asiad gwael, necrosis difasgwlaidd)
- Datgymaliad neu isddatgymaliad cymal
- Erythematosus lwpws systemig
- Fasgwlitis/ fasgwlitidau
- Ffeibromyalgia
- Ffenomenon Raynaud
- Llithriad y ddisg ryngfertebrol
- Osteoarthritis
- Osteomalacia
- Osteomyelitis
- Osteoporosis a thorasgwrn breuder
- Poen yng ngwaelod y cefn a seiatica
- Polymyalgia rhiwmatig
- Polymyositis a dermatomyositis
- Sbondyloarthropathïau seronegyddol (gan gynnwys spondylitis ymasiol, arthritis adweithiol, arthritis enteropathig, arthritis psoriatig)
- Sgleroderma a chlefyd meinweoedd cysylltiol cymysg
- Syndrom Cauda equina
- Syndrom Sjogren
- Tiwmorau esgyrn (cynradd ac eilaidd, gan gynnwys osteosarcoma, sarcoma Ewing)
- Torasgwrn neu esgyrn (gan gynnwys torasgwrn patholegol)
Cyffuriau ac effeithiau cyffuriau
- Effeithiau niweidiol i gyffuriau
- Gorddos o gyffuriau
- Syndrom malaen niwroleptig
- Syndrom serotonin
Clefydau aml-system
- Anaffylacsis
- Anffrwythlondeb/ tanffrwythlondeb
- Anhwylder alergaidd (gan gynnwys alergedd bwyd)
- Canfyddiad damweiniol
- Canser metastatig
- Diffyg fitamin B12 a/ neu ffolad
- Diffyg fitamin D
- Diffyg maeth
- Enseffalomyelitis myalgig (ME)/ syndrom blinder cronig (CFS) (ymwybyddiaeth a thriniaeth)
- Gordewdra
- Gwenwyno yn sgil carbon monocsid
- Hyperthermia a hypothermia
- Hypofolemia/ disbyddiad cyfaint
- Sarcopenia/ eiddilwch
- Symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol
- Syndrom camweithrediad mewn sawl organ
- Trawsblaniad (gan gynnwys gwrthod impiad ac imiwnoataliedd)
Gwybodaeth arall
- Atal clefydau/ sgrinio rhag clefydau
- Anaf nad yw’n ddamweiniol
- Clefydau hysbysadwy
- Cyflwr ïatrogenig