Map cynnwys yr MLA
Mae dwy gydran i'r MLA: prawf gwybodaeth gymhwysol (AKT) ac asesiad sgiliau clinigol a phroffesiynol (CPSA). Drwy'r rhain, gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn barod i ymarfer yn ddiogel a'u bod yn gallu rheoli ansicrwydd a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae map cynnwys yr MLA yn nodi'r wybodaeth, yr ymddygiad a'r sgiliau craidd sydd eu hangen i ymarfer fel meddyg yn y DU.
Mae'r map cynnwys yn darparu'r fframwaith ar gyfer cynnwys yr AKT a'r CPSA. Mae'n rhan o'r ddogfen ganlynol ac wedi'i hatodi iddi - Assuring readiness for practice: a framework for the MLA.
Mae'r fersiwn hwn o'r map cynnwys yn berthnasol i holl arholiadau ac asesiadau'r MLA a gynhelir o fis Medi 2026 ymlaen. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Hydref 2025 yn dilyn adolygiad o gynnwys y map (ac ym mis Medi 2026 fe wnaethom newid Syndrom Ofarïau Polysystig (PCOS) am Syndrom Polyendocrin Metabolaidd Ofarïaidd (PMOS)). Mae'n ddogfen fyw a byddwn yn ei diweddaru gyda diwygiadau amserol i sicrhau ei bod yn adlewyrchu ymarfer meddygol o ddydd i ddydd.