Yn berthnasol i bob arholiad ac asesiad yn yr MLA a gaiff eu sefyll o fis Medi 2026 ymlaen.
Maes 6: Cyflyrau
Mae'r maes hwn yn amlinellu'r clefydau pathoffisiolegol a'r diagnosiau clinigol y disgwylir i ymgeiswyr eu deall. Rhaid cymhwyso’r wybodaeth hon ar y lefel a ddisgwylir gan feddyg dan hyfforddiant yn Rhaglen Sylfaen y DU.
Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ond mae’n nodi cyflyrau craidd. Mae rhai yn gyffredin ac yn sail i ymarfer meddygol bob dydd, tra bo eraill yn brin ond yn ddifrifol ac angen eu hadnabod ac ymyrryd ar frys er mwyn atal niwed i gleifion.
Rhaid i ymgeiswyr gydnabod y gall cyflyrau esblygu dros amser, ac y gallai ymgyflwyniadau yn y camau cynnar fod yn wahanol iawn i ymgyflwyniadau mewn camau diweddarach neu gymhlethdodau. Dylent allu adnabod nodweddion clinigol allweddol, gan gynnwys arwyddion rhybudd, er mwyn sicrhau bod salwch difrifol yn cael ei adnabod yn brydlon a bod gofal yn cael ei uwchgyfeirio’n briodol.
Mae deall cyd-destun y claf – gan gynnwys epidemioleg, ffactorau risg, a chydforbidrwydd – yn hanfodol er mwyn asesu risg glinigol ac arwain y broses o wneud penderfyniadau.
A–Y rhestr o gyflyrau
A
- Acne vulgaris
- Acromegaledd
- Achludiad gwythïen ganolog y retina
- Achludiad rhydweli ganolog y retina
- Adenitis mesenterig
- Adwaith acíwt i straen
- Adweithiau i drallwysiad gwaed
- Anghydnawsedd grŵp gwaed yn ystod beichiogrwydd
- Aldosteronedd sylfaenol
- Alergedd i brotein llaeth buwch
- Allrediad eisbilennol
- Amlmyeloma
- Anaemia
- Anaf acíwt i’r arennau
- Anaf i fadruddyn y cefn
- Anaf i feinwe feddal
- Anaf nad yw’n ddamweiniol
- Anaffylacsis
- Anewrysm aortig
- Anewrysmau, achludiadau braich neu goes isgemig
- Anffrwythlondeb/ tanffrwythlondeb
- Anhwylder affeithiol deubegynol (gan gynnwys mania/ hypomania)
- Anhwylder alergaidd (gan gynnwys alergedd bwyd)
- Anhwylder defnyddio sylweddau
- Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
- Anhwylder gamblo
- Anhwylder gorbryder cyffredinol
- Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD)
- Anhwylder panig
- Anhwylder personoliaeth
- Anhwylder rhithdybiol
- Anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD)
- Anhwylder seicotig
- Anhwylder sgitsoaffeithiol
- Anhwylder straen ôl-drawmatig
- Anhwylder symptomau somatig
- Anhwylderau anfalaen ar yr amrannau (gan gynnwys bleffaritis, ectropion/ entropion, calasion, hordeolwm)
- Anhwylderau ar y platennau (gan gynnwys thrombocytosis, thrombocytopenia)
- Anhwylderau bwyta
- Anhwylderau ceulo (gan gynnwys haemoffilia, clefyd Von Willebrand, a thromboffilia, ac eilaidd i salwch neu feddyginiaeth)
- Anhwylderau clun/coes yn ystod plentyndod (gan gynnwys clefyd Perthes, sleid epiffysis rhan uchaf y porthiant, dysplasia datblygiadol y glun)
- Anhwylderau cur pen sylfaenol (gan gynnwys meigryn, cur pen clwstwr, cur pen oherwydd tyndra)
- Anhwylderau myelo-luosogol
- Annigonoldeb gwythiennol (gan gynnwys gwythiennau faricos)
- Annormaledd yn y cydbwysedd asid-bas
- Anymataliaeth wrinol
- Apnoea cwsg rhwystrol
- Argyfyngau llawfeddygol y newydd-anedig (gan gynnwys stenosis pylorig, llawesiad)
- Arteritis celloedd mawr
- Arthritis gwynegol
- Arthritis idiopathig yr ifanc
- Arthritis septig
- Arthropathi crisialau
- Arwyddion o glefyd systemig ar y croen (gan gynnwys acanthosis nigricans, livedo reticularis a petechiae/ pwrpwra)
- Asgites (gan gynnwys peritonitis bacterol heb reswm)
- Asthma
- Atal clefydau/ sgrinio rhag clefydau
- Ataliad anadlol
- Ataliad y galon
- Atresia’r bustl
B
- Beichiogrwydd ectopig
- Beichiogrwydd lluosog
- Bradyarhythmias (gan gynnwys rhwystr AV)
- Brechau feirysol (gan gynnwys y frech goch, rwbela, farisela)
- Briw/ crafiad ar y gornbilen
- Briwiau ar y croen (gan gynnwys briwiau rhydwelïol, gwythiennol a niwropathig)
- Bronciectasis
- Bronciolitis
- Broncitis acíwt
- Bwrsitis
C
- Camamsugniad
- Camesgoriad a marwolaeth yn y groth
- Candidiasis
- Canfyddiad damweiniol
- Canser arennol
- Canser ceg y groth
- Canser endometriaidd
- Canser gastrig
- Canser metastatig
- Canser y bledren
- Canser y ceilliau
- Canser y colon a'r rhefr
- Canser y fron
- Canser y fwlfa
- Canser y pancreas
- Canser y pen a’r gwddf (gan gynnwys chwarennau poer, breuannol a geneuol)
- Canser y pidyn
- Canser y prostad
- Canser y thyroid
- Canser yn ystod plentyndod (gan gynnwys retinoblastoma)
- Canser yr oesoffagws
- Canser yr ofarïau
- Canser yr ysgyfaint
- Cardiomyopathi
- Carsinoma hepatogellog
- Cataractau
- Ceilliau heb ddisgyn
- Ceratitis heintus
- Cerrig yn y llwybr wrinol
- Cetoasidosis diabetig (DKA)
- Ceulo gwasgarog mewnfasgwlaidd (DIC)
- Clamydia
- Clefyd adlifiad gastro-oesoffageol (gan gynnwys Oesoffagws Barrett)
- Clefyd arennau polysystig
- Clefyd arennol camau terfynol (gan gynnwys trawsblaniad a therapi adfer arennol)
- Clefyd coeliag
- Clefyd crafu
- Clefyd cronig ar yr afu/iau (gan gynnwys anghydadferiad a sirosis yr afu/ iau)
- Clefyd cronig ar yr arennau
- Clefyd cynhenid y galon
- Clefyd falfiau ochr dde’r galon
- Clefyd fasgwlaidd perifferol
- Clefyd galwedigaethol ar yr ysgyfaint
- Clefyd Graves (gan gynnwys clefyd thyroid y llygaid)
- Clefyd gwythiennau faricos (gan gynnwys gwythiennau faricos oesoffagaidd)
- Clefyd Huntington
- Clefyd interstitaidd ar yr ysgyfaint (gan gynnwys clefyd ffeibrotig ar yr ysgyfaint)
- Clefyd isgemia’r galon (gan gynnwys angina sefydlog)
- Clefyd Kawasaki
- Clefyd llid y coluddyn (gan gynnwys clefyd Crohn, colitis wlserol)
- Clefyd llidus y pelfis
- Clefyd melyn mewn beichiogrwydd
- Clefyd melyn y newydd-anedig (gan gynnwys clefyd melyn patholegol a ffisiolegol)
- Clefyd Ménière
- Clefyd niwronau motor
- Clefyd pericardiaidd (gan gynnwys pericarditis, allrediad pericardiaidd, tamponâd cardiaidd)
- Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- Clefyd steatotig yr afu/iau sy’n gysylltiedig â chamweithrediad metabolig (MASLD)
- Clefyd y cildro a llid y cildro
- Clefyd y crymangelloedd
- Clefyd y falf aortig
- Clefyd y falf feitrol
- Clefyd yr afu/iau sy’n gysylltiedig ag alcohol
- Clefydau hysbysadwy
- Clwy'r pennau
- Colangitis acíwt
- Colesteatoma
- Colesystitis
- Colig bustlog a cherrig y bustl
- Colitis heintus (gan gynnwys Clostridium difficile)
- Corioamnionitis
- COVID-19
- Crawniad
- Crawniad ar yr afu/ iau
- Crawniad ar yr ysbinagl/o amgylch y tonsiliau
- Crawniad ar yr ysgyfaint
- Crawniad yn yr ymennydd
- Crŵp
- Cryndod
- Cwlwm perfedd
- Cyflwr epileptig
- Cyflwr hyperglycaemig hyperosmolar (HHS)
- Cyflwr ïatrogenig
- Cyflyrau llidiol ar y llygaid (gan gynnwys sgleritis, episgleritis, wfeitis)
- Cymhlethdodau esgor (gan gynnwys camgyflwyniad, dystocia’r ysgwydd, esgor cynamserol, llithriad y llinyn bogail)
- Cymhlethdodau’n ymwneud â thorri esgyrn (gan gynnwys syndrom adrannol, diffyg asiad, asiad gwael, necrosis difasgwlaidd)
- Cyn-ddiabetes
- Cywasgiad madruddyn y cefn
D
- Dafadennau ar y croen
- Datgymaliad neu isddatgymaliad cymal
- Datgysylltiad y retina
- Deliriwm
- Dementia (gan gynnwys dementia Alzheimer, dementia cyrff Lewy, dementia blaen-arleisiol, dementia fasgwlaidd)
- Dermatitis cyffwrdd
- Diabetes mellitus
- Diabetes yn ystod beichiogrwydd (yn ystod cyfnod y beichiogrwydd ac sy’n bodoli’n barod)
- Difyniad aortig
- Difyniad carotid
- Diffyg fitamin B12 a/neu ffolad
- Diffyg Fitamin D
- Diffyg hormonau adrenal (sylfaenol ac eilaidd)
- Diffyg maeth
- Diffyg twf
- Dirdro ofarïaidd
- Dirdro'r ceilliau
- Dirywiad macwlar
- Dolur gwasgu
- Dolur rhydd heintus (gan gynnwys gastroenteritis heintus)
- Dueg ddiffygiol/sblenectomi
- Dysfforia a/neu anghyfathiant rhywedd
- Dysplasia broncoysgyfeiniol (clefyd newyddenedigol cronig ar yr ysgyfaint)
E
- Ecsema/dermatitis atopig
- Ectropion serfigol
- Effeithiau niweidiol i gyffuriau
- Emboledd ysgyfeiniol
- Emboledd/thrombosis rhydwelïol
- Empyema
- Endocarditis heintus
- Endometriosis
- Enseffalitis
- Enseffalomyelitis myalgig (ME)/syndrom blinder cronig (CFS) (ymwybyddiaeth a thriniaeth)
- Enseffalopathi Wernicke/syndrom Wernicke-Korsakoff
- Enterocolitis madru
- Epiglotitis
- Epilepsi
- Erythematosus lwpws systemig
F
- Faginalis tricomonadaidd
- Faginosis bacterol
- Fasgwilitis IgA
- Fasgwlitis/fasgwlitidau
- Feirws farisela soster
- Feirws herpes simplecs
- Feirws imiwnoddiffyg dynol (HIV)
- Fertigo lleoliadol ysbeidiol anfalaen (BPPV)
Ff
- Ffaeocromosytoma
- Ffeibroadenoma
- Ffeibroidau
- Ffeibromyalgia
- Ffeibrosis systig
- Ffenomenon Raynaud
- Ffilm gwaed annormal
- Ffimosis/paraffimosis
- Ffistwla a chrawniad o amgylch yr anws
- Ffitiau gwres
- Ffliw
- Ffobiâu (gan gynnwys agoraffobia)
- Ffolicwlitis a Hidradenitis suppurativa
G
- Gastritis a chlefyd wlser peptig
- Genedigaeth gynamserol
- Glawcoma acíwt
- Glawcoma cronig
- Glomerwloneffritis
- Gonorea
- Gorbarathyroidedd/ isbarathyroidedd
- Gorbwysedd (heb reswm neu eilaidd)
- Gorbwysedd idiopathig mewngreuanol
- Gorbwysedd ysgyfeiniol
- Gordewdra
- Gordewdra yn ystod beichiogrwydd
- Gorddos o gyffuriau
- Gorgyffyrddiad Asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- Gorthyroidedd/ thyrotocsicosis
- Guillain- Barré/ polyniwropathi llidiol sy'n dadfyelineiddio
- Gwaedlif allddwral
- Gwaedlif antepartwm
- Gwaedlif ar ôl geni
- Gwaedlif islaw’r dwra
- Gwaedlif islaw’r gyfbilen
- Gwaedlif islaw'r aracnoid
- Gwaedlif o’r trwyn
- Gwaedu gastroberfeddol (gwaedu yn rhan uchaf ac isaf y llwybr gastroberfeddol)
- Gwasgedd mewngreuanol uwch
- Gwenwyno yn sgil carbon monocsid
- Gwres uchel heb reswm
H
- Haemangioma
- Haemocromatosis
- Haemoglobinopathïau
- Haemoroidau
- Haint ar y llwybr wrinol
- Haint clwyf llawfeddygol
- Haint feirws papiloma dynol
- Haint ffwngaidd ar y croen
- Haint yn rhan isaf y system anadlu
- Haint yn rhan uchaf y system anadlu
- Heintiau a gafwyd yn yr ysbyty
- Heintiau milheintiol (gan gynnwys clefyd Lyme)
- Helicobacter pylori
- Hepatitis (gan gynnwys hepatitis feirysol, awto-imiwn, ac alcoholaidd)
- Hernia/torgest
- Hernia/torgest bylchol
- Hunan-niweidio
- Hydroneffrosis
- Hydrosel/ faricosel/syst Epididymol
- Hypercalaemia/hypocalaemia
- Hypercalcaemia/hypocalcaemia
- Hyperemesis gravidarum
- Hyperlipidaemia
- Hyperplasia prostatig anfalaen
- Hyperprolactinaemia
- Hyperthermia a hypothermia
- Hypobitwidedd
- Hypofolemia/disbyddiad cyfaint
- Hypoglycaemia
- Hyponatraemia/hypernatraemia
I
- Ilëws a rhwystr yn y coluddyn
- Impetigo
- Iselder
- Iselder ar ôl geni
- Isgemia’r coluddyn
- Isthyroidedd
L
- Lewcemia
- Lichen planus
- Lichen sclerosus
- Lipoma
- Lymffoma
Ll
- Llesmair (gan gynnwys un fasofagol, cardiaidd)
- Llid ar y gyfbilen
- Llid madreddol y ffasgell
- Llid y droellfa/niwritis festibwlar
- Llid y ffaryncs/tonsilitis
- Llid y mastoid
- Llid y pendics
- Llid y sinysau
- Llid yn rhan allanol y glust
- Llid yn rhan ganol y glust
- Llid yr isgroen
- Llid yr isgroen creuol ac o amgylch y llygaid
- Llid yr Ymennydd
- Llithriad y ddisg ryngfertebrol
- Llithriad y rectwm
- Llithriad y wain
- Llosgiadau
M
- Madredd
- Malaria
- Mastitis/crawniad ar y fron
- Megacolon gwenwynig
- Menopos/perimenopos
- Methiant anadlol
- Methiant y galon
- Methiant yr afu/iau
- Methu gwagio'r bledren/ wropathi rhwystrol
- Mononiwcleosis heintus (gan gynnwys feirws Epstein-Barr, cytomegalofeirws)
- Myasthenia gravis
- Myocarditis
N
- Nam anfalaen ar y croen (gan gynnwys man geni melanosytig, syst epidermaidd, dermatoffeibroma, ceratosis seborhëig, ceratosis actinig)
- Namau ar y maes golwg
- Namau malaen/ cyn-falaen ar y croen (gan gynnwys clefyd Bowen, melanoma malaen, carsinoma celloedd gwaelodol, carsinoma celloedd cennog)
- Neffropathi diabetig
- Niwmonia
- Niwmothoracs
- Niwralgia trigeminal
- Niwritis optig
- Niwropathi awtonomig
- Niwropathi diabetig
- Niwropathi perifferol
- Niwtropenia (gan gynnwys sepsis niwtropenig)
- Nodoswm gwritgoch
- Nodylau’r thyroid
- Nychdod cyhyrol
O
- Osteoarthritis
- Osteomalacia
- Osteomyelitis
- Osteoporosis a thorasgwrn breuder
P
- Pancreatitis acíwt
- Pancreatitis cronig
- Pancytopenia
- Papiloedema
- Parkinsoniaeth (gan gynnwys clefyd Parkinson)
- Parlys Bell
- Parlys yr ymennydd ac enseffalopathi isgemig hypocsig
- Parlys/ anafiadau yn y nerfau perifferol
- Peritonitis
- Placenta praevia
- Poen yng ngwaelod y cefn a seiatica
- Polycythaemia
- Polyhydramnios/ oligohydramnios
- Polymyalgia rhiwmatig
- Polymyositis a dermatomyositis
- Polypau'r trwyn
- Prostatitis, epididymitis ac orcitis
- Psoriasis
- Pwrpwra thrombocytopenig idiopathig (ITP)
- Pwysedd gwaed isel ystumiol/ orthostatig
- Pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd (gan gynnwys pwysedd gwaed uchel yn ystod cyfnod y beichiogrwydd, cyneclampsia, eclampsia)
- Pyeloneffritis
- Pyliau isgemig byrhoedlog (TIA)
R
- Radicwlopathïau
- Retinopathi diabetig
- Retinopathi gorbwysedd
- Rosacea
- Rwbela
Rh
- Rhabdomyolysis
- Rheoli/perygl i’r llwybr anadlu
- Rhoi’r gorau i yfed alcohol, a rhoi’r gorau i gymryd opioidau
- Rhwyg Mallory-Weiss
- Rhwyg yn nhympan y glust
- Rhwyg yn yr anws
- Rhwymedd
- Rhwystr yn y fena cafa uchaf
S
- Sarcoidosis
- Sarcopenia/ eiddilwch
- Sbondyloarthropathïau seronegyddol (gan gynnwys spondylitis ymasiol, arthritis adweithiol, arthritis enteropathig, arthritis psoriatig)
- Seicosis ar ôl geni
- Sepsis (gan gynnwys sepsis niwtropenig)
- Sgitsoffrenia
- Sgleroderma a chlefyd meinweoedd cysylltiol cymysg
- Sglerosis ymledol (MS)
- Sgrinio serfigol (feirws papiloma dynol)
- Sioc
- Strôc
- Swanoma festibwlar (niwroma acwstig)
- Syffilis
- Symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol
- Syndrom ailfwydo
- Syndrom camweithrediad mewn sawl organ
- Syndrom cauda equina
- Syndrom cenhedlol-wrinol y menopos
- Syndrom coluddyn llidus (IBS)
- Syndrom Cushing
- Syndrom diffyg anadlol acíwt (ARDS)
- Syndrom Down
- Syndrom Ehlers-Danlos
- Syndrom Klinefelter
- Syndrom malaen niwroleptig
- Syndrom Marfan
- Syndrom metabolig
- Syndrom neffrotig
- Syndrom ofarïau polysystig (PCOS)
- Syndrom secrediad hormon gwrthddiwretig amhriodol (SIADH)
- Syndrom serotonin
- Syndrom sioc wenwynig
- Syndrom Sjogren
- Syndrom Stevens-Johnson/ necrolysis epidermaidd gwenwynig (TEN)
- Syndrom Turner
- Syndromau coronaidd acíwt
- Systiau ar y fron
- Systiau ar yr ofarïau
T
- Tacyarhythmias (gan gynnwys ffibriliad atrïaidd, cryndod atrïaidd, tacycardia uwchfentriglaidd, torsades de pointes, tacycardia fentriglaidd, ffibriliad fentriglaidd)
- Teiffoid
- Terfynu beichiogrwydd
- Tetanws
- Tiwberciwlosis
- Tiwmorau ar yr ymennydd (cynradd ac eilaidd)
- Tiwmorau esgyrn (cynradd ac eilaidd, gan gynnwys osteosarcoma, sarcoma Ewing)
- Tiwmorau pitwidol
- Tocsoplasmosis
- Torasgwrn neu esgyrn (gan gynnwys torasgwrn patholegol)
- Trawsblaniad (gan gynnwys gwrthod impiad ac imiwnoataliedd)
- Trydylliad gastroberfeddol
Th
- Thromboemboledd gwythiennol (VTE) yn ystod beichiogrwydd a phwerperiwm
- Thrombosis gwythiennau dwfn
- Thrombosis sinws gwythiennol yr ymennydd (CVST)
V
- Vasa praevia
W
- Wrticaria
Y
- Y dwymyn goch
- Y frech goch
- Ymwahaniad buan y brych
- Y pas
- Ymwrthedd/ diffyg fasobwysydd arginin (diabetes insipidus)