Mynegi pryder am safon y gofal a gawsoch gan ysbyty, meddygfa neu glinig
- Crynodeb
- Cael esboniad o’r hyn a ddigwyddodd gyda’ch gofal, neu ymddiheuriad gan y bobl dan sylw
- Rhoi adborth am eich gofal
- Mynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Mynegi pryder am safon y gofal a gawsoch gan ysbyty, meddygfa neu glinig
Mae amrywiaeth o sefydliadau ar gael i’ch helpu wrth fynegi pryder am safon y gofal a gawsoch gan ysbyty, meddygfa neu glinig. Byddant mewn sefyllfa well na ni i ymchwilio i’ch pryderon a rhoi adborth i chi.
Rhaid i bob sefydliad gofal iechyd yng Nghymru – boed yn rhan o’r GIG neu’n breifat – fodloni’r safonau ansawdd a diogelwch a bennir gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Er nad ydynt yn ymdrin â phryderon unigol, gall unigolion roi adborth ar eu profiad.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Mae gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyfrifoldeb i arolygu, ymchwilio a monitro pob sefydliad gofal iechyd yn erbyn safonau ansawdd a diogelwch.
Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ddiogel i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Dal yn ansicr:
Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.