Pryderon ynghylch cael eich cadw’n gaeth (eich anfon i’r ysbyty meddwl) neu gael eich trin o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- Cael gafael ar gyngor, cefnogaeth neu eiriolaeth i’ch helpu i fynegi eich pryder
- Pryderon ynghylch cael eich cadw’n gaeth (eich anfon i’r ysbyty meddwl) neu gael eich trin o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
- Newid cofnodion meddygol neu gael mynediad atynt
- Datrys problem gyda phresgripsiwn
Os ydych yn poeni am eich cynllun gofal a thriniaeth, gan gynnwys yr hyn a roddwyd ar waith o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd y sefydliadau canlynol yn gallu cynnig cyngor ar eich hawliau a’r cymorth sydd ar gael i chi.
Mind
Mae Mind yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Mae manylion cyswllt ar gyfer ei linell cyngor cyfreithiol ar gael ar eu gwefan.
Cyngor ar Bopeth
Gall Cyngor ar Bopeth ddarparu cyngor annibynnol a chyfrinachol ar ystod eang o faterion gofal iechyd, gan gynnwys anfon pobl i’r ysbyty meddwl.
Dal yn ansicr:
Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.