Newid cofnodion meddygol neu gael mynediad atynt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cofnodion meddygol, mae'n well cysylltu â'ch meddygfa, ysbyty neu glinig.

Os ydych eisoes wedi cysylltu â’r ysbyty, y feddygfa neu’r clinig ac yn methu datrys y broblem, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallant gofnodi eich pryder a’i baru â materion tebyg a brofwyd gyda’r un sefydliad cyn mynd ati i wneud cyswllt er mwyn sicrhau bod pryderon a fynegwyd yn cael sylw.

Dal yn ansicr: 

Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.

Mynegi fy mhryder gyda chi