Mynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Crynodeb
- Cael esboniad o’r hyn a ddigwyddodd gyda’ch gofal, neu ymddiheuriad gan y bobl dan sylw
- Rhoi adborth am eich gofal
- Mynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Mynegi pryder am safon y gofal a gawsoch gan ysbyty, meddygfa neu glinig
Dim ond i bryderon ynghylch meddygon sy’n gweithio yn y DU y gallwn ymchwilio iddynt. Yma, rydym wedi tynnu sylw at sefydliadau a allai fod mewn sefyllfa well i’ch helpu i fynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Mynegi pryder am feddyg
Byddem yn eich annog i siarad â’ch meddyg yn gyntaf os oes gennych bryder a bod y canlyniad rydych yn awyddus i’w gael wedi’i restru isod.
- A hoffech gael esboniad o’r hyn a ddigwyddodd i chi?
- A hoffech gael ymddiheuriad?
- A hoffech drafod triniaeth briodol?
Efallai na fyddwch yn teimlo’n gyfforddus i fynegi eich pryder yn uniongyrchol. Os felly, mae yna bobl eraill sy’n gallu cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol i chi yn y man lle cawsoch eich gofal.
Os nad yw’r canlyniad rydych yn chwilio amdano wedi’i restru uchod a’i fod yn ymddangos yn y rhestr o bethau rydym yn ymchwilio iddynt, gallwch fynegi eich pryder drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ar waelod y dudalen. Fel arall, gallwch siarad ag un o gynghorwyr ein canolfan gyswllt.
Mynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall
Os yw eich pryder yn ymwneud â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, fel nyrs neu fferyllydd, bydd rheoleiddiwr arall mewn sefyllfa well i’ch helpu. Gallwch gael gwybod pwy y mae angen i chi siarad â nhw ar wefan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.
Os ydych yn teimlo y gallwn eich helpu, gallwch fynegi eich pryder drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein isod, neu gallwch siarad â’n canolfan gyswllt.
Uwchgyfeirio pryder gan eich bod yn anhapus â’r ymateb rydych wedi’i gael yn barod
Os ydych yn anhapus â’r ymateb rydych wedi’i gael ar ôl mynegi pryder, mae yna sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw i gael rhagor o gymorth.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i bryderon sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru a gallwch ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniadau a wnaed gan eich meddyg teulu.
Dal yn ansicr:
Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.