Cael esboniad o’r hyn a ddigwyddodd gyda’ch gofal, neu ymddiheuriad gan y bobl dan sylw
- Crynodeb
- Cael esboniad o’r hyn a ddigwyddodd gyda’ch gofal, neu ymddiheuriad gan y bobl dan sylw
- Rhoi adborth am eich gofal
- Mynegi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Mynegi pryder am safon y gofal a gawsoch gan ysbyty, meddygfa neu glinig
Os oes gennych bryder am ddiogelwch cleifion neu ansawdd gofal yng Nghymru, gall nifer o sefydliadau eich helpu. Yn y rhan fwyaf o achosion, y lle gorau i ddechrau yw mynegi eich pryder yn lleol, lle cawsoch eich gofal.
Byddem yn eich annog i siarad â’ch meddyg am eich pryderon os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Byddant yn gallu trafod eich gofal a rhoi esboniad am yr hyn a ddigwyddodd i chi.
Gallant hefyd ymddiheuro ac amlinellu’r camau y byddant yn eu cymryd i wella eu gwasanaeth.
Mynegi pryder am eich meddyg teulu
Os oes gennych bryder am eich meddyg teulu, mae’n well mynegi’r pryder hwn wrth y practis lle mae’r meddyg yn gweithio. Byddant yn gallu trafod eich gofal a rhoi esboniad am yr hyn a ddigwyddodd i chi.
Gallant hefyd ymddiheuro ac amlinellu’r camau y byddant yn eu cymryd i wella eu gwasanaeth.
Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn mynegi eich pryder yn uniongyrchol neu wrth bractis y meddyg teulu, gallwch siarad â’ch bwrdd iechyd lleol. Gweithio i Wella yw enw’r broses ar gyfer delio â phryderon yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth iechyd ar gael ar y wefan y GIG yng Nghymru, gan gynnwys manylion am fyrddau iechyd lleol a’r broses Gweithio i Wella ar gyfer delio â phryderon ar wefan Iechyd yng Nghymru.
Mynegi pryder am eich triniaeth mewn ysbyty neu wasanaeth lleol
Y lle gorau i ddechrau arni yw siarad â’r staff a gyfrannodd at eich gofal a’ch triniaeth, os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. Gallant geisio datrys eich pryder ar unwaith.
Os nad yw hyn yn helpu neu os nad ydych chi eisiau siarad â’r staff a ddarparodd y gwasanaeth, gallwch gysylltu ag aelod o’r tîm pryderon yn eich Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol.
Pryder am eich gofal preifat
Os mai’r GIG ariannodd eich triniaeth, dylech droi at ‘Mynegi pryder am eich triniaeth mewn ysbyty neu wasanaeth lleol’ fel yr amlinellir uchod.
Os mai darparwr preifat oedd yn gofalu amdanoch, gallwch ddilyn eu proses gwyno unigol nhw. Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny, byddem yn eich annog i fynegi eich pryder wrth y rheolwr ymarfer yn yr ysbyty neu’r clinig.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd yr ysbyty, y feddygfa neu’r clinig yn rhan o grŵp gofal iechyd ehangach, felly mae’n bosibl y byddwch yn dymuno mynegi eich pryder wrthyn¬ nhw.
Dal yn ansicr:
Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.