Gwasanaethau cymorth yng Nghymru
Ar y tudalennau canlynol, fe welwch wybodaeth a chyngor i'ch helpu i atgyfeirio'ch pryder i'r lle iawn. Weithiau, ni sy’n eich helpu. Ond mewn achosion eraill, mae’n bosibl mai sefydliad arall sy’n eich helpu.
Mae nifer o sefydliadau’n gyfrifol am iechyd, diogelwch a llesiant cleifion yng Nghymru. Rydym yn delio â phryderon a fynegir am feddygon yn y DU ac yn gweithredu pan nad yw eu hymddygiad neu’r ffordd y maent yn gwneud eu gwaith yn bodloni ein safonau.
Os na allwn eich helpu gyda’ch pryder, byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd.