Rhoi adborth am eich gofal
Gallai rhoi adborth am eich profiadau helpu i wella pethau i gleifion eraill yn y dyfodol. Gall nifer o sefydliadau eich helpu i drosglwyddo eich adborth, er mwyn iddo gyrraedd y bobl sy’n gallu helpu i wneud newidiadau.
Care Opinion
Sefydliad annibynnol yw Care Opinion sy’n helpu cleifion a’u teuluoedd i drosglwyddo adborth da a gwael i’r rheini sy’n gyfrifol am eu gofal.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Cyfranogiad Cleifion
Mae grwpiau cyfranogiad cleifion yn helpu i greu deialog ystyrlon rhwng cleifion a meddygfeydd, ac maent yn ffordd dda i chi helpu i ddylanwadu ar ofal yn eich ardal. Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol er Cyfranogiad Cleifion ragor o wybodaeth am sut y gallwch ymuno â grŵp cyfranogiad cleifion neu sefydlu grŵp o’r fath.
Dal yn ansicr:
Gallwch ddefnyddio ein teclyn pryderon i weld ai ni yw’r bobl iawn i ddelio â’ch pryder.