Codi pryder am gofrestreion, neu gŵyn am ein gwaith

  • Os dymunwch godi pryder am gofrestreion yn Gymraeg, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio ein ffurflen ‘Codi pryder’ ar-lein. Mae ffurflenni eraill sydd wedi’u hanelu at aelodau’r cyhoedd hefyd ar gael yn ddwyieithog.
  • Yn ogystal, rydym yn darparu canllaw ar sut i godi pryder am weithiwr meddygol proffesiynol yn Gymraeg.
  • Gallwch hefyd wneud cŵyn, neu anfon canmoliaeth neu sylw am ein gwaith, gan gynnwys ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, trwy ein tudalen we Cwynion ac adborth.