Monitro ac adrodd
- Mae cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn gyfrifoldeb traws-sefydliadol a gefnogir gan ein Uwch Dîm Rheoli a Noddwr y Gymraeg, sef y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol ar hyn o bryd.
- Mae monitro, adrodd a sicrhau ansawdd yn gyfrifoldebau traws-sefydliadol.
- Byddwn yn goruchwylio ac yn monitro cydymffurfiaeth drwy archwiliadau, adolygiadau, adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid, gwiriadau sicrhau ansawdd, a chanlyniadau unrhyw gwynion neu sylwadau a gyflwynir i ni neu Gomisiynydd y Gymraeg.
- Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein gwefan, a fydd yn cynnwys mewnbwn gan dimau perthnasol.