Pa feysydd o’n gwaith sy’n cael eu cynnwys yn y safonau?

Rhestrir y safonau sy'n berthnasol i'n gwaith yn yr hysbysiad cydymffurfio gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Maent yn cynnwys safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion.

Yn unol â'r diffiniadau a gynhwysir yn y Rheoliadau, mae'r rhan fwyaf o'r safonau y mae ein gwaith yn ddarostyngedig iddynt wedi'u hanelu at ‘unigolion’ – aelod o'r cyhoedd sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy’n gweithredu yn rhinwedd eu gallu personol, ac eithrio unigolion sy'n gweithredu yn rhinwedd eu swydd fel cofrestreion. Wrth gymhwyso'r safonau i'n gwaith, rydym yn deall bod ‘unigolion’ yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd, myfyrwyr meddygol myfyrwyr cydymaith meddygol a myfyrwyr cydymaith anaesthesia yng Nghymru. 

Anelir rhai o’r safonau at gynulleidfaoedd gwahanol, sy’n cael eu diffinio mewn perthynas â’n gwaith isod:

  • Person: Grŵp cyffredinol sy’n cynnwys aelodau o'r cyhoedd, meddygon a myfyrwyr. 
  • Cofrestreion: unigolyn sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru gyda ni, neu sydd wrthi'n gwneud cais i gofrestru gyda ni. 
  • Aelodau staff: gweithiwr GMC neu unigolyn naturiol sy’n gweithio i ni, ac eithrio aelodau’r cyngor. 

Mae’r safonau yn berthnasol i’r meysydd gwaith canlynol: 

  • Anfon ac ymateb i ohebiaeth 
  • Ateb galwadau ffôn 
  • Cyfarfodydd a digwyddiadau 
  • Deunyddiau cyhoeddusrwydd, hysbysebu ac arddangos 
  • Ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol 
  • Ffurflenni a dogfennau 
  • Galwadau a drefnwyd i gofrestreion fel rhan o weithdrefnau addasrwydd i ymarfer (FtP) 
  • Achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â gweithdrefnau’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Ymarferwyr Meddygol (MPTS) 
  • Llunio polisïau, gan gynnwys penderfyniadau gweithredol, gwaith ymchwil ac ymgynghoriadau   
  • Recriwtio a hyfforddi staff  
  • Cadw cofnodion a rheoli cwynion