Achosion cyfreithiol

  • Cydnabyddwn hawl cofrestreion i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod prosesau addasrwydd i ymarfer (FtP). 
  • Yn unol â’r safonau, pan fyddwn yn cysylltu â chofrestrydd am y tro cyntaf mewn perthynas ag ymchwiliad a allai arwain at achos cyfreithiol, byddwn yn mynd ati i gynnig hwyluso eu dewis iaith mewn cyfarfodydd a galwadau ffôn wedi'u hamserlennu sy'n ymwneud â'r ymchwiliad. Pan fydd y cynnig hwn yn cael ei dderbyn, byddwn yn cynnal unrhyw gyfarfodydd neu alwadau ffôn a drefnwyd yn Gymraeg, neu'n darparu cyfieithu ar y pryd os bydd angen.  
  • Byddwn hefyd yn cynnig darparu unrhyw gopïau o ffurflenni a dogfennau a gynhyrchwn mewn perthynas â'r ymchwiliad yn Gymraeg. Ni fyddwn yn trin cynhyrchu'r ffurflenni neu'r dogfennau hyn yn llai ffafriol na'r rhai a gynhyrchwn yn Saesneg. Ni fyddwn ychwaith yn trin unrhyw ffurflenni neu ddogfennau sy'n ymwneud â'r ymchwiliad a gyflwynwyd gan gofrestrydd yn y Gymraeg yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynwyd yn Saesneg.  
  • Byddwn yn mynd ati i gynnig hwyluso dewisiadau iaith yn ystod achosion cyfreithiol, er enghraifft drwy sicrhau bod cyfieithu ar y pryd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.  
  • Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut mae'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Ymarferwyr Meddygol (MPTS) yn cydymffurfio â'r safonau ar dudalen Safonau’r Gymraeg ar wefan yr MPTS.