Ein gwefannau, deunyddiau hyrwyddo, a chyfryngau cymdeithasol

  • Mae gwybodaeth amdanom ni a'r gwasanaethau a ddarparwn, gan gynnwys ein cynnig Cymraeg a sut y gellir ei gyrchu, i gyd ar gael yn ddwyieithog ar ein gwefan. 
  • Byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe Cymraeg ar yr un pryd ag y byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe Saesneg cyfatebol.  
  • Mae rhai o'n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod y rhain mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys drwy hyrwyddo'r fersiynau Cymraeg o fewn cyhoeddiadau Saesneg.  
  • Rydym yn croesawu ffurflenni cais Cymraeg gan fyfyrwyr sy’n dymuno ymuno â’n cofrestr.  
  • Pan fyddwn yn rhannu cynnwys sy’n berthnasol i Gymru yn unig trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol y GMC neu MPTS, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog.  
  • Pan fyddwn yn derbyn ymholiadau uniaith Gymraeg ar ffurf negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, os oes angen ateb, byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi ychwanegol.  
  • Byddwn yn arddangos unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo, cyhoeddusrwydd neu hysbysebu sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd sy'n targedu'r cyhoedd, myfyrwyr meddygol a/neu fyfyrwyr cydymaith meddygol neu fyfyrwyr cydymaith anaesthesia yn Gymraeg. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn darparu cynnwys ffisegol a digidol yn ddwyieithog.  
  • Pan fyddwn yn arddangos deunydd â brand GMC yn gyhoeddus yng Nghymru, byddwn yn ei arddangos yn ddwyieithog.