Cyfarfodydd a digwyddiadau
- Os byddwn yn gwahodd unigolyn i gyfarfod yng Nghymru, byddwn yn gofyn a ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod. Os mai dyna yw dymuniad yr unigolyn, byddwn yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd a gynhelir yn bersonol yng Nghymru, a chyfarfodydd rhithwir a fyddai fel arall yn cael eu cynnal yng Nghymru.
- Os byddwn yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, byddwn yn gofyn a oes unrhyw un yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod. Os bydd o leiaf 10% o'r gwahoddedigion yn datgan mai dyna yw eu dymuniad, byddwn yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os bydd angen, byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd a gynhelir yn bersonol yng Nghymru, a chyfarfodydd rhithwir a fyddai fel arall yn cael eu cynnal yng Nghymru.
- Os byddwn yn trefnu cyfarfod cyhoeddus yng Nghymru sy'n caniatáu i'r cyhoedd gymryd rhan, byddwn yn anfon gwahoddiadau dwyieithog, a bydd unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud â chyfarfod cyhoeddus yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
- Os byddwn yn trefnu cyfarfod cyhoeddus yng Nghymru sy'n caniatáu i'r cyhoedd gymryd rhan, byddwn yn gofyn i fynychwyr roi gwybod i ni o flaen llaw a ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod.
- Os byddwn yn gwahodd rhywun i siarad mewn cyfarfod cyhoeddus, byddwn yn gofyn iddynt a ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg ac yn darparu cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg os mai dyna yw eu dymuniad.
- Os trefnwn ddigwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, ni fyddwn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth hyrwyddo'r digwyddiad, nac mewn gwasanaethau a gynigir fel rhan o'r digwyddiad.
- Mae safonau ar wahân sy’n berthnasol i gyfarfodydd gyda chofrestryddion, fel rhan o weithdrefnau addasrwydd i ymarfer (FtP) a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Ymarferwyr Meddygol (MPTS).