Ein hymrwymiad i siaradwyr Cymraeg
O 6 Rhagfyr 2023, mae ein gwaith yn destun Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 i reoleiddwyr gofal iechyd, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022.
Rydym wedi ymrwymo i wella ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn unol â’r safonau.
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r ffordd rydym ni’n bwriadu cydymffurfio â’r safonau, a sut y gallwch chi gael mynediad at ein gwasanaethau Cymraeg.