GMC Logo

Mynegi pryder

Manylion y sefydliad

Manylion y meddyg

Manylion y claf

Manylion y digwyddiad

Datganiadau

Eich pryder

Diolch yn fawr am fynegi eich pryder. Gallwch ddod o hyd i gopi isod ar gyfer eich cofnodion.

Byddwn yn adolygu eich pryder ac yn rhoi gwybod i chi os gallwn ymchwilio. Ein nod yw gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen mwy o amser arnom.

Rhowch wybod i ni sut oedd y broses o fynegi pryder. Bydd eich adborth yn ein helpu i wneud gwelliannau.

Gallwch hefyd ddarllen am ein proses ymchwilio a’r cymorth y gallwn ei gynnig os byddwn yn penderfynu ymchwilio;

* Yn dynodi meysydd gofynnol

Cyn dechrau

Mae’r adnodd hwn ar gyfer pobl sydd eisiau mynegi pryder am feddyg. Mae ein ffurflen pryder ar gael yn Saesneg (English).
Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Dywedwch wrthym bwy ydych chi

Yn dibynnu ar bwy ydych chi, bydd angen gwybodaeth wahanol arnom i asesu eich pryder.

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Pryd dylech chi fynegi pryder wrthym

Ein gwaith ni yw sicrhau bod meddygon ar y gofrestr feddygol yn addas i ymarfer. Nid ydym yn ymchwilio i feddygon am wneud camgymeriadau oni bai ein bod yn credu bod y camgymeriadau hyn yn rhan o batrwm o ymddygiad anniogel.

Ni allwn:

  • esbonio triniaeth i chi
  • gwneud i feddyg roi triniaeth wahanol i chi
  • rhoi dirwy i feddyg neu wneud i feddyg ymddiheuro
  • ymyrryd mewn anghydfodau ynghylch ffioedd neu gofnodion meddygol.

Os ydych chi eisiau cwyno am eich triniaeth neu safon y gwasanaeth a gawsoch, dylech drafod hyn yn gyntaf gyda'r sefydliad a ddarparodd y driniaeth. Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y sefydliad, dylech ddilyn y drefn gwyno genedlaethol.

Os ydych chi’n meddwl bod meddyg wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n golygu ei fod yn peri risg i ddiogelwch cleifion, dylech fynegi eich pryder wrthym.

Gallai’r pryderon gynnwys:

  • trais, ymosodiad rhywiol neu anwedduster
  • trosedd ddifrifol
  • camddefnyddio statws proffesiynol (ee perthynas rywiol amhriodol gyda chlaf)
  • gwahaniaethu yn erbyn cleifion, cydweithwyr a phobl eraill
  • safon o driniaeth sy’n awgrymu y gallai’r meddyg fod yn risg i ddiogelwch cleifion.

Atgyfeirio meddyg atom

Fel swyddog cyfrifol

Os ydych chi’n swyddog cyfrifol, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif GMC Connect i atgyfeirio meddyg atom ni.

Os na allwch chi, dylech gymryd y camau canlynol cyn cyflwyno atgyfeiriad yn y fan yma.

1. Darllenwch ein canllawiau atgyfeirio.
2 ymlaen. Siaradwch â’ch Cynghorydd Cyswllt Cyflogwyr i gael cyngor am wneud yr atgyfeiriad hwn.
3 ymlaen. Darllenwch ein canllawiau ar yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch chi’n atgyfeirio meddyg atom ni.

Fel cyflogwr meddygol

Os ydych chi’n gyflogwr meddygol nad yw’n swyddog cyfrifol, dylech ddarllen ein canllawiau atgyfeirio i benderfynu a ydych am atgyfeirio ai peidio. Yn benodol, yr adrannau ar ein trothwy ar gyfer atgyfeirio a phenderfynu a ddylid gwneud atgyfeiriad.

Pryd dylech chi fynegi pryder wrthym

Os ydych chi’n gweithredu’n swyddogol i godi’r pryder hwn, dylai hyn fod oherwydd bod ymddygiad y meddyg yn golygu y gallai beri risg i ddiogelwch cleifion neu hyder y cyhoedd yn y proffesiwn meddygol.

Gallai hyn fod oherwydd:

  • trais, ymosodiad rhywiol neu anwedduster
  • trosedd ddifrifol
  • camddefnyddio statws proffesiynol (ee perthynas rywiol amhriodol gyda chlaf)
  • gwahaniaethu yn erbyn cleifion, cydweithwyr a phobl eraill
  • safon o driniaeth sy’n awgrymu y gallai’r meddyg fod yn risg i ddiogelwch cleifion
  • twyll neu anonestrwydd
  • pryderon iechyd sy’n effeithio ar berfformiad meddyg, gan gynnwys camddefnyddio alcohol neu gyffuriau, ac nad ydynt yn cael eu rheoli
  • gweithio heb drwydded.

Pryd dylech chi atgyfeirio eich hun atom ni

Mae’n bosibl y byddwch eisiau siarad â sefydliad amddiffyn meddygol i gael eu cyngor ynghylch a ddylech chi atgyfeirio eich hun atom ni ai peidio.

Mae angen i chi atgyfeirio eich hun atom:

• os gallech beri risg i gleifion am nad ydych yn derbyn neu’n cydymffurfio â’r driniaeth angenrheidiol ar gyfer cyflwr iechyd (gan gynnwys dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau) neu os nad oes gennych drefniadau ar waith i reoli eich ymarfer yn ddiogel tra byddwch yn gwella.

• os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd neu wedi cael eich dyfarnu’n euog o drosedd neu wedi derbyn rhybuddiad.

• os ydych wedi cael eu cosbi neu eich beirniadu gan gorff rheoleiddio arall, yn y DU neu dramor.

Os hoffech chi drafod a ddylech chi atgyfeirio eich hun atom ni ai peidio, gallwch chi gysylltu â ni.

Atgyfeirio meddyg arall atom

Mae gan bob meddyg ddyletswydd i fynegi pryderon pan fydd diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Gallai hyn fod oherwydd ymarfer cydweithwyr neu’r systemau, y polisïau a’r gweithdrefnau yn y sefydliadau y maent yn gweithio ynddynt.

Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi gyfeirio meddyg atom ni ai peidio, darllenwch ein canllawiau ar godi pryderon a gweithredu arnynt. Neu gallwch ein ffonio ar 0161 923 6602 i drafod eich pryder.

Diogelu’r rhai sy’n chwythu’r chwiban

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r rhai sy’n chwythu’r chwiban. Mae gennym sawl ffordd o gefnogi’r rheini sy’n mynegi pryderon am gydweithwyr neu’r systemau y maent yn gweithio ynddynt.

Os ydych chi eisiau mynegi pryder yn gyfrinachol, gallwch ffonio ein llinell gymorth gyfrinachol ar 0161 923 6399, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5 pm.

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Eich enwau a manylion cyswllt

Rhowch eich manylion cyswllt er mwyn i ni allu cysylltu â chi am eich pryder.

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Eich cyfeiriad

Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun
Does dim modd dychwelyd cyfeiriadau, rhowch y cyfeiriad eich hun
Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun
Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Nodweddion gwarchodedig

Sut rydym yn defnyddio eich data amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i drin pawb yn deg. Rydym yn holi am oedran, ethnigrwydd, anabledd a rhywedd. Pwrpas hyn yw er mwyn i ni allu deall sut mae ein prosesau’n effeithio ar wahanol grwpiau o bobl. Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill nac yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Yr unig eithriad yw eich dyddiad geni, ac efallai y bydd angen i ni ei rannu â sefydliad arall os ydych chi’n glaf ac mae angen eich cofnodion meddygol arnom i ymchwilio i’ch pryder.

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Ydych chi wedi mynegi eich pryder wrth unrhyw sefydliad arall? *

A yw sefydliadau eraill yn ymwybodol o’r atgyfeiriad hwn? *

Ydych chi wedi atgyfeirio’r meddyg hwn at sefydliadau eraill? *

A yw sefydliadau eraill yn ymwybodol o’r rheswm dros eich hunan-atgyfeiriad? *

Ydych chi wedi mynegi eich pryderon wrth sefydliadau eraill? *

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Sefydliadau eraill

Dywedwch wrthym ba sefydliadau rydych chi wedi mynegi eich pryderon wrthynt yn barod.

Sefydliadau eraill

Dywedwch wrthym ba sefydliadau sy’n ymwybodol o’r atgyfeiriad hwn.

Sefydliadau eraill

Dywedwch wrthym ba sefydliadau rydych chi wedi atgyfeirio’r meddyg atynt yn barod.

Sefydliadau eraill

Dywedwch wrthym ba sefydliadau sy’n ymwybodol o’r rheswm dros eich hunan-atgyfeiriad.

Sefydliadau eraill

Dywedwch wrthym ba sefydliadau rydych chi wedi mynegi eich pryderon wrthynt yn barod.

Sefydliad(au) a ychwanegwyd

Gohebiaeth

Os oes gennych gopïau electronig o ohebiaeth gyda’r sefydliadau hyn, atodwch nhw isod. Bydd hyn yn ein helpu i weithredu’n gyflym.

Sefydliadau Eraill

Rhowch fanylion y sefydliad a’i ymateb i ni.

Cyfeiriad

Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun
Does dim modd dychwelyd cyfeiriadau, rhowch y cyfeiriad eich hun
Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun

Ffeil(iau) a ychwanegwyd

Ychwanegu meddyg

Nodwch y meddyg(on) y mae gennych bryderon amdano/amdanynt. Dim ond pan fyddwn yn gallu adnabod y meddyg(on) y gallwn ymchwilio i bryderon.

Sut i adnabod eich meddyg

  • Defnyddiwch ei gyfeirnod GMC unigryw. Mae gan bob meddyg rif GMC ac mae’n rhaid iddo roi’r rhif hwn i chi os byddwch yn gofyn amdano.
  • Gallwch chwilio drwy ein cofrestr ar-lein gan ddefnyddio enw’r meddyg, gan hidlo yn ôl Meddyg Teulu neu Arbenigwr lle bo angen.
  • Os na allwch weld y meddyg ar ein cofrestr ar-lein, ceisiwch chwilio drwy wefan y sefydliad lle mae'r meddyg yn gweithio.

Meddyg(on) a ychwanegwyd

Heb ddod o hyd i'r meddyg. Defnyddiwch y Gofrestr Feddygol i ddod o hyd i rif meddyg.
Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Ychwanegu meddyg

Gwybodaeth am y meddyg
Dywedwch wrthym beth yw enw’r meddyg

Ychwanegu meddyg

Gwybodaeth am y meddyg
Man gwaith y meddyg
Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun
Does dim modd dychwelyd cyfeiriadau, rhowch y cyfeiriad eich hun
Mireiniwch eich chwiliad cyfeiriad neu ddewis rhoi cyfeiriad eich hun
Rhagor o fanylion am y meddyg
Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Ar ran pwy ydych chi’n mynegi hyn?

Rydych chi wedi dweud wrthym eich bod yn mynegi’r pryder hwn ar ran rhywun arall. Dywedwch wrthym bwy yw’r person arall.

Enw’r claf
Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Manylion eich pryder

Eich atgyfeiriad

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Manylion eich pryder

Os ydych chi eisiau ychwanegu atodiadau i ategu eich pryderon, gallwch wneud hynny yma. Gallai enghreifftiau gynnwys dogfennau meddygol, sgrinluniau, recordiadau ac ati.

Eich atgyfeiriad

Cofiwch gynnwys unrhyw ddogfennau i ategu eich atgyfeiriad hefyd. Gallai hyn gynnwys:

  • dogfennau o ymchwiliadau mewnol neu gamau disgyblu
  • llythyrau cwyno
  • cofnodion meddygol dienw gydag unrhyw ffurflenni cydsyniad perthnasol gan gleifion
  • unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud ag unrhyw bryderon ynghylch diogelwch cleifion y mae’r meddyg wedi’u mynegi (os yw’n berthnasol).

Eich hunan-atgyfeiriad

Os ydych chi eisiau ychwanegu atodiadau i ategu eich pryderon, gallwch wneud hynny yma.

Ffeil(iau) a ychwanegwyd

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Manylion eich pryder

Eich hunan-atgyfeiriad

Eich atgyfeiriad

Datryswch y materion sydd wedi’u hamlygu

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwn yn penderfynu ymchwilio, byddwn fel arfer yn rhannu manylion eich pryder â’r canlynol:

  • y meddyg(on) dan sylw
  • ei gyflogwyr ac eraill sy’n gyfrifol am ei berfformiad o ddydd i ddydd
  • rheoleiddwyr neu sefydliadau gofal iechyd eraill a allai helpu ein hymchwiliad
  • arbenigwyr annibynnol y gallwn eu defnyddio i roi barn feddygol.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i sefydliadau eraill am eich cofnodion meddygol er mwyn gallu ymchwilio i’ch pryder. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhannu enw a dyddiad geni’r claf â nhw er mwyn iddynt allu darparu’r cofnodion hyn i ni.

Mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth fel hyn er mwyn ymchwilio, ond os nad ydych chi eisiau i ni wneud hynny, rhowch wybod i ni pam. Mae’n bosibl y byddwn yn dal i ddefnyddio eich gwybodaeth er mwyn diogelu’r cyhoedd, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen hon, bydd eich pryder yn cael ei anfon atom.

Byddwn yn adolygu eich pryder ac yn cysylltu â chi o fewn pythefnos. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn ymchwilio ymhellach neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Os na allwn ymchwilio, byddwn yn esbonio pam.

Diolch yn fawr am roi o'ch amser i lenwi'r ffurflen hon.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwn yn penderfynu ymchwilio, byddwn fel arfer yn rhannu manylion eich pryder â’r canlynol:

  • y meddyg(on) dan sylw
  • ei gyflogwyr ac eraill sy’n gyfrifol am ei berfformiad o ddydd i ddydd
  • rheoleiddwyr neu sefydliadau gofal iechyd eraill a allai helpu ein hymchwiliad
  • arbenigwyr annibynnol y gallwn eu defnyddio i roi barn feddygol.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i sefydliadau eraill am eich cofnodion meddygol er mwyn gallu ymchwilio i’ch pryder.

Mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth fel hyn er mwyn ymchwilio, ond os nad ydych chi eisiau i ni wneud hynny, rhowch wybod i ni pam. Mae’n bosibl y byddwn yn dal i ddefnyddio eich gwybodaeth er mwyn diogelu’r cyhoedd, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen hon, bydd eich pryder yn cael ei anfon atom.

Byddwn yn adolygu eich pryder ac yn cysylltu â chi o fewn pythefnos. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn ymchwilio ymhellach neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Os na allwn ymchwilio, byddwn yn esbonio pam.

Diolch yn fawr am roi o'ch amser i lenwi'r ffurflen hon.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwn yn penderfynu ymchwilio, byddwn fel arfer yn rhannu eich manylion â sawl person:

  • eich cyflogwyr ac eraill sy’n gyfrifol am eich perfformiad o ddydd i ddydd
  • rheoleiddwyr neu sefydliadau gofal iechyd eraill a allai helpu ein hymchwiliad.

Os ydych chi wedi atgyfeirio eich hun oherwydd risg i gleifion sy’n deillio o bryder iechyd, mae'n bosibl y bydd angen i ni ofyn am fanylion eraill, fel eich cofnodion meddygol. Mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth fel hyn er mwyn ymchwilio. Ond os nad ydych chi eisiau i ni wneud hynny, rhowch wybod i ni pam.

Mae’n bosibl y byddwn yn dal i ddefnyddio eich gwybodaeth er mwyn diogelu’r cyhoedd, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen hon, bydd eich pryder yn cael ei anfon atom.

Byddwn yn adolygu eich atgyfeiriad ac yn cysylltu â chi o fewn pythefnos. Byddwn yn dweud wrthych os byddwn yn ymchwilio ymhellach neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Diolch yn fawr am roi o'ch amser i lenwi'r ffurflen hon.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Os byddwn yn penderfynu ymchwilio, byddwn fel arfer yn rhannu manylion eich atgyfeiriad â’r canlynol:

  • y meddyg(on) dan sylw
  • ei gyflogwyr ac eraill sy’n gyfrifol am ei berfformiad o ddydd i ddydd
  • rheoleiddwyr neu sefydliadau gofal iechyd eraill a allai helpu ein hymchwiliad
  • arbenigwyr annibynnol y gallwn eu defnyddio i roi barn feddygol
  • cleifion/aelodau perthnasol o’r cyhoedd a allai fod yn gysylltiedig.

Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymchwilio os na allwn rannu eich gwybodaeth. Ond os nad ydych chi eisiau i ni wneud hynny, rhowch wybod i ni pam. Mae’n bosibl y byddwn yn dal i ddefnyddio eich gwybodaeth er mwyn diogelu’r cyhoedd, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen hon, bydd eich pryder yn cael ei anfon atom.

Byddwn yn adolygu eich pryder ac yn cysylltu â chi o fewn pythefnos. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn ymchwilio ymhellach neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Os na allwn ymchwilio, byddwn yn esbonio pam.

Diolch yn fawr am roi o'ch amser i lenwi'r ffurflen hon.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.