Ystyriaethau cyffredinol
Fel corff cyhoeddus a rheolydd proffesiynol meddygon, mae gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol sawl dyletswydd ac ystyriaeth yn y maes hwn. Rydym yn esbonio ein hystyriaethau dros yr adrannau nesaf, gan gychwyn gyda'n hystyriaethau cyffredinol ac yna, gan ddilyn y cyfnodau addysg a hyfforddiant meddygol gwahanol.
Ystyriaeth 1
Fel sefydliad cyhoeddus, rydym yn rhwym wrth y Ddyletswydd Cydraddoldeb ar gyfer y Sector Cyhoeddus. Mae hon yn mynnu ein bod yn ystyried yr angen i waredu gwahaniaethu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn rhannu hon gyda phrifysgolion a'u hysgolion meddygol, sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig a chyflogwyr.
Nodyn: Mae Adran 49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yn diffinio'r ddyletswydd fel rhoi ystyriaeth briodol i'r angen i: (a) hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at unigolion anabl, a (b) yr angen i annog cyfranogiad unigolion anabl mewn bywyd cyhoeddus.
Ystyriaeth 2
Yn ogystal, mae'n safonau ar gyfer pob cam o addysg a hyfforddiant meddygol, Hyrwyddo rhagoriaeth, yn pennu gofynion penodol ar gyfer darparwyr addysg mewn perthynas â chynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau.
Un o'r safonau sylfaenol o fewn Hyrwyddo rhagoriaeth yw bod yn rhaid i sefydliadau gynorthwyo dysgwyr i ddangos yr hyn a ddisgwylir ynArfer meddygol da a chyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n ofynnol yn ôl eu cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys: gwneud addasiadau rhesymol i ddysgwyr; bod dysgwyr yn gallu troi at wybodaeth am addasiadau rhesymol gyda chysylltiadau a enwir; a bod dysgwyr yn gallu troi at gymorth addysgol ac adnoddau er mwyn cynorthwyo'u hiechyd a'u llesiant.
Rydym yn sicrhau ansawdd sefydliadau yn erbyn ein safonau Hyrwyddo rhagoriaeth , fel rhan o'n rôl o oruchwylio'r holl gamau o fewn addysg a hyfforddiant meddygol. Felly, os byddwn yn dod yn ymwybodol o sefydliadau nad ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau tuag at ddysgwyr trwy gyfrwng y gofynion hyn, byddwn yn cymryd camau cymesur.
Panel 2: Beth fyddwn yn ei wneud os byddwn yn pryderu nad yw sefydliadau yn bodloni ein safonau?
Rydym yn ymweld ag ysgolion meddygol, sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig, a darparwyr addysg lleol. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni ein safonau ar gyfer addysg feddygol israddedig ac ôl-raddedig. Rydym yn canolbwyntio ein hymweliadau ar feysydd risg, sy'n golygu ein bod yn ystyried ein tystiolaeth ac yn penderfynu pa feysydd addysg yw'r rhai y maent fwyaf tebygol o beri pryder. Rydym yn hyrwyddo meysydd o ragoriaeth hefyd.
Rydym wedi mapio cwestiynau archwiliol i'n safonau, y byddwn yn eu haddasu ar gyfer pob ymweliad ar sail y dystiolaeth sydd gennym am y sefydliad (gweler tudalennau 37-38 am y cwestiynau ynghylch cynorthwyo dysgwyr anabl).
Ni allwn ymyrryd mewn achosion unigol, ond os byddwn yn cael pryderon gan ddygwyr anabl, byddwn yn gofyn am ddogfennaeth fel y gallwn ystyried hyn gyda thystiolaeth arall sydd gennym am sefydliad.
Am ragor o wybodaeth, gallwch ddarllen am y ffordd yr ydym yn sicrhau ansawdd addysg feddygol sefydliadau.
Ystyriaeth 3
Mae’r cyfrifoldeb am lesiant yn cael ei rannu rhwng y sefydliad addysg feddygol a'r dysgwr. Mae gan sefydliadau rôl arwyddocaol i'w gyflawni wrth gynnig cymorth cynhwysfawr. Yn yr un modd, rhaid i ddysgwyr ymgymryd â'r cyfrifoldeb dros ofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.
Mae'n anochel y bydd rhai myfyrwyr meddygol a meddygon yn wynebu afiechyd ar wahanol adegau yn ystod eu hastudiaethau a'u gyrfa. Mae'n anochel hefyd y bydd rhai pobl yn ymuno â'r proffesiwn gydag anabledd, neu'n cael anabledd ar ryw adeg yn ystod eu hastudiaethau a'u gyrfa. Fel y mae'r canllawiau hyn yn ei nodi mewn ffordd hollol glir, croesawir dysgwyr anabl i'r proffesiwn, a dylid eu gwerthfawrogi am eu cyfraniadau. Nid yw'r agwedd o gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain yn ymwneud â chael cyflwr iechyd neu anabledd, mae'n ymwneud â'r disgwyliadau a bennir yn y safonau ar gyfer pob meddyg cofrestredig yn y DU, Arfer meddygol da (paragraffau 28-30), a'r ddogfen gyfatebol ar gyfer myfyrwyr meddygol, Sicrhau arfer meddygol da (paragraffau 31, 35, 38 a 40).
Ystyriaeth 4
Bodloni safonau cymhwysedd
Rhaid i bob myfyriwr meddygol a meddyg, os oes ganddynt gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, fodloni'r cymwyseddau a bennwyd ar gyfer gwahanol gamau o'u haddysg a'u hyfforddiant. Y rhain yw'r gofynion absoliwt ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant er mwyn iddynt sicrhau cynnydd gyda'u hastudiaethau a'u gwaith. Maent yn cynnwys:
Canlyniadau ar gyfer graddedigion i fyfyrwyr meddygol, sy'n nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad y mae'n rhaid bod graddedigion meddygol newydd yn y DU yn gallu eu dangos. Erbyn diwedd eu cwrs, rhaid i fyfyrwyr meddygol fodloni'r holl ganlyniadau er mwyn graddio.
- Gall ysgolion meddygol wneud addasiadau rhesymol i'r moddau asesu ar gyfer y canlyniadau hynny, ac eithrio pan fo'r dull yn rhan o'r cymhwysedd y mae angen ei sicrhau.
- Byddai myfyriwr sydd â nam ar ei glyw yn defnyddio stethosgop electronig er mwyn cyflawni rhan o arholiad corfforol, yn enghraifft o addasu'r dulliau asesu. Mae angen i'r myfyriwr gyflawni'r canlyniad o berfformio arholiad corfforol llawn o hyd, ond gyda dull ychydig yn wahanol na'r un ar gyfer myfyriwr arall.
- Mae cynnal triniaethau sy'n gofyn am ddull penodol, er enghraifft gwythïen-bigiad, pibellu mewnwythiennol neu ECG, yn enghraifft o achos lle y mae'r dull yn rhan o'r cymhwysedd y mae angen ei sicrhau. Rhaid i'r myfyriwr gyflawni'r dull penodol er mwyn bodloni'r canlyniad, ond byddai modd gwneud addasiadau rhesymol i agweddau eraill. Er enghraifft, cadair wedi'i haddasu os oes angen i'r myfyriwr eistedd wrth gynnal y driniaeth.
- Dylai ysgolion meddygol gytuno ar yr addasiadau rhesymol ar y cyd â'r myfyriwr, gan weithredu'r rhain. (gweler Pennod 4: 'Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?').
- Canlyniadau ar gyfer meddygon sy'n meddu ar gofrestriad amodol ar gyfer meddygon newydd gymhwyso yn ystod eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant..
- Rhaid i feddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol a thrwydded i wneud gwaith meddygol yn ystod blwyddyn gyntaf y Rhaglen Sylfaen (meddygon F1), ddangos y Canlyniadau ar gyfer meddygon sy'n meddu ar gofrestriad amodol er mwyn iddynt fod yn gymwys i wneud cais am gofrestriad llawn. Mae hyn yn cynnwys triniaethau a sgiliau clinigol craidd, y mae gofyn i feddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol eu cynnal.
Mae'r Canlyniadau ar gyfer meddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol yn safonau cymhwysedd at ddibenion y Ddeddf. Felly, rhaid i feddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol gyflawni'r holl ganlyniadau hyn er mwyn symud ymlaen i ail flwyddyn y Rhaglen Sylfaen (F2). Gellir gwneud addasiadau rhesymol i ddulliau asesu y canlyniadau hyn.
- Rhaid dangos y canlyniadau hyn ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoliadau clinigol fel gweithiwr proffesiynol yn y gweithle sy'n dangos dilyniant o'r cymhwysedd sy'n ofynnol gan fyfyriwr meddygol.
- Mae'r Canlyniadau ar gyfer meddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol yn cynnwys adran am iechyd meddyg.
Y canlyniadau dysgu yng nghwricwlwm y Rhaglen Sylfaen a ddatblygir gan Academi y Colegau Brenhinol Meddygol a'r cwricwla arbenigol ar gyfer gwahanol raglenni hyfforddiant ddatblygir gan gyfadrannau a cholegau brenhinol.
- Rydym yn cymeradwyo'r holl gwricwla ôl-raddedig yn unol â'n safonau ar gyfer cwricwla ac asesiadau ôl-raddedig (Rhagoriaeth trwy ddyluniad).
- Gellir gwneud addasiadau rhesymol i ddulliau asesu y canlyniadau hyn. Yn ychwanegol i gyfrifoldebau cyflogwyr a sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig, mae cyfadrannau a cholegau brenhinol yn gyfrifol am wneud addasiadau rhesymol ar gyfer asesiadau ôl-raddedig.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am safonau cymhwysedd yn ein datganiad safbwynt o fis Mai 2013.