Ein cyswllt ni fel rheolydd proffesiynol

Derbyn i ysgol feddygol

Nid oes gennym gylch gwaith uniongyrchol sy'n ymwneud â dewis unigolion ar gyfer ysgolion meddygol. Yn y pen draw, mae pob ysgol feddygol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau derbyn. O'r herwydd, nid yw'r canllawiau hyn yn cynnwys prosesau derbyn.

Mae gennym un brif ystyriaeth sy'n effeithio ar y cam derbyn. Rydym yn gyfrifol am bennu'r wybodaeth a'r medr sy'n ofynnol er mwyn dyfarnu gradd feddygol yn y DU, cymhwyster meddygol sylfaenol (y Deddf Feddygol (A.5(2)(a)). Wrth ystyried ceisiadau gan bobl anabl, efallai y bydd o gymorth i ysgolion meddygol ystyried y Canlyniadau ar gyfer graddedigion gyda'r ymgeiswyr, fel y safonau cymhwysedd y bydd angen iddynt eu dangos yn ystod eu hastudiaethau.

Canllawiau gan y Cyngor Ysgolion Meddygol

Mae'r corff sy'n cynrychioli ysgolion meddygol yn y DU (y Cyngor Ysgolion Meddygol) yn datblygu canllawiau i dimau derbyn ysgolion meddygol er mwyn cynorthwyo ac annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl. Yn ychwanegol i fodloni'r canlyniadau gydag addasiadau rhesymol, mae canllaw y Cyngor Ysgolion Meddygol yn cynghori y dylid:

  • Bod yn barod i ateb ymholiadau gan ddarpar ymgeiswyr sydd ag anabledd.
    • Ystyried trefnu cyfeiriad e-bost neu rif ffôn penodol lle y gall darpar ymgeiswyr sydd ag anabledd ofyn am gyngor
    • Ymyriadau sydd o gymorth megis ymweld â'r labordy sgiliau, siarad gyda chyn fyfyrwyr a myfyrwyr presennol ac efelychu gweledol.
  • Nodi'n glir i ymgeiswyr bod sôn am eu hanabledd mewn datganiadau personol yn golygu y bydd pobl sy'n ymwneud â'r broses ddethol yn gwybod amdani, ond na fydd y wybodaeth hon yn effeithio ar y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud am yr ymgeisydd hwnnw.
  • Sicrhau na fydd gofynion ynghylch profiad perthnasol er mwyn dethol yn cael effaith negyddol ar ymgeiswyr anabl
  • Sicrhau bod y penderfyniad ynghylch a yw'r ymgeisydd yn gallu bodloni'r canlyniadau yn benderfyniad ar wahân i'r penderfyniad i ddethol y myfyriwr.
    • Darparu addasiadau rhesymol ar gyfer cyfweliadau.
    • Sicrhau bod y sawl sy'n cyfweld yn deall na ddylent ystyried anabledd yr ymgeisydd pan fyddant yn sgorio ymgeisydd.
    • Gymaint ag y bo modd, ni ddylai'r sawl sy'n cyfweld wybod am anabledd ymgeisydd. Efallai na fydd modd osgoi hyn.
    • Sicrhau eu bod yn fodlon bod darparwr prawf doniau yn deall eu cyfrifoldebau dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan gynnwys cael proses er mwyn i ymgeiswyr allu mynegi pryderon am degwch profion doniau.
    • Gwneud cynnig amodol ar sail yr unigolyn yn cyflawni gofynion academaidd y cwrs. Ar ôl y derbynnir cynnig, gall ysgolion meddygol gysylltu i drafod anghenion ymgeiswyr anabl.
  • Bydd achlysuron prin pan fydd gan yr ysgol feddygol bryderon bod natur yr anabledd yn golygu y gallai fod yn amhosibl i'r unigolyn fodloni'r canlyniadau ar gyfer graddedigion, hyd yn oed ar ôl gwneud addasiadau. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, dylai ysgolion meddygol geisio cyngor amrediad o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymarferwr iechyd galwedigaethol y mae ganddynt arbenigedd ym maes gweithio gyda myfyrwyr meddygol.
  • Ar yr adeg pan wneir cynnig, nodi:
    • Er eu bod yn gobeithio y byddant yn mynd ymlaen i fod yn feddygon sy'n gweithio o fewn GIG, nad oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny, ac mai dim ond myfyrwyr sy'n bodloni'r holl ganlyniadau ac sy'n addas i wneud gwaith meddygol ar yr adeg pan fyddant yn graddio, fydd yn sicrhau cofrestriad y GMC
    • Efallai y bydd amgylchiadau lle na fydd addasiadau y gall ysgolion meddygol eu darparu ar gael iddynt o fewn GIG.