Ein cyswllt ni fel rheolydd proffesiynol

Cofrestru gyda ni am drwydded i wneud gwaith meddygol

Cofrestru gydag amodau neu gyfyngiadau

Ni allwn gynnig cofrestriad gyda chyfyngiadau neu amodau.

Ar adeg cofrestru, mae'n penderfyniad yn ddeuol – naill ai dyfarnu'r cofrestriad neu beidio, heb y potensial ar gyfer categorïau cofrestru ychwanegol. Mae hyn yn wahanol i feddyg cofrestredig, y gellir gosod amodau ar eu gwaith yn ystod eu gyrfa.

Gwneud cais am gofrestriad amodol a llawn

Y cam nesaf ar ôl cwblhau gradd feddygol israddedig yw cyflawni rhaglen dderbyniol ar gyfer meddygon sydd wedi sicrhau cofrestriad amodol. Yn y DU, hon yw blwyddyn gyntaf y Rhaglen Sylfaen (F1). Ar ôl cwblhau F1 yn llwyddiannus, bydd meddygon yn sicrhau cofrestriad llawn gyda ni ac yn symud ymlaen i ail flwyddyn y Rhaglen Sylfaen (F2).

Er mwyn sicrhau cofrestriad, rhaid i raddedigion meddygol gyflwyno cais i ni. Gofynnir i bob ymgeisydd lenwi datganiad am eu hiechyd fel rhan o'r broses ymgeisio.

Mae'r datganiad hwn yn gofyn cwestiynau penodol am iechyd yr ymgeisydd, ond ni fydd angen datgan pob cyflwr neu anabledd. Nid ydym yn darparu rhestr o gyflyrau iechyd y mae angen eu datgan. Gall ymgeiswyr ddarllen y cwestiynau a phenderfynu a ddylent ddatgan am unrhyw beth. Dim ond am fater y gallai effeithio ar allu'r ymgeisydd i wneud gwaith meddygol neu i ofalu am eu cleifion y bydd angen i ni gael gwybod amdano. Bydd yr effaith y mae cyflwr yn ei gael ar unigolyn, ac unrhyw effaith bosibl ar eu gwaith, yn amrywio o un unigolyn i'r llall.

Os bydd ymgeisydd yn rhoi ateb cadarnhaol i un o'r cwestiynau yn y datganiad, byddwn yn gofyn iddynt roi gwybodaeth bellach yn eu cais. Gall yr ymgeisydd ddweud mwy wrthym am eu cyflwr iechyd, unrhyw ddyddiadau perthnasol achosion a thriniaeth, sut y maent yn ei reoli, a sut y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw, eu gwaith neu eu hastudiaethau. Mewn nifer fach o achosion, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gan drydydd parti wedi hyn efallai, os byddant wedi sicrhau caniatâd yr ymgeisydd, er enghraifft gan feddyg iechyd galwedigaethol.

Os yw myfyriwr neu feddyg yn anhwylus, hyd yn oed os yw'r salwch yn ddifrifol, mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn golygu bod eu haddasrwydd i wneud gwaith meddygol yn cael ei amharu. Hyd yn oed os bydd ymgeisydd yn rhoi ateb cadarnhaol i un o'r cwestiynau, os gallant ddangos eu bod yn rheoli eu hiechyd ac na fydd yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, mae'n annhebygol y bydd effaith ar ganlyniad eu cais. Gallwch weld arweiniad llawn ynghylch y broses ymgeisio am gofrestriad ar ein gwefan.

Panel 4: Pa mor aml y byddwn yn gwrthod cofrestru?

Anaml iawn. Rydym wedi gwrthod cofrestriad amodol mewn nifer fach iawn o achosion; 39 achos yn 2010-18, o'i gymharu â'r tua 58,000 o geisiadau a gafwyd yn ystod yr un cyfnod. O blith y graddedigion hyn, roedd nifer sylweddol wedi ailymgeisio yn ystod y blynyddoedd dilynol, a rhoddwyd cofrestriad amodol iddynt.

Hyfforddiant ôl-raddedig

Fel y rheolydd proffesiynol, nid oes angen gwybodaeth arnom yn aml iawn ynghylch cyflyrau iechyd neu anableddau meddyg wrth iddynt wneud gwaith meddygol. Mae meddygon sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu dymor byr neu anableddau yn gwneud gwaith meddygol, fel mewn unrhyw broffesiwn arall. Gan amlaf, nid yw iechyd neu anabledd meddyg yn rhywbeth y mae gennym ni ddiddordeb ynddo.

Ar lefel system gyfan, mae safonau Hyrwyddo rhagoriaeth yn rhoi gofynion ar sefydliadau sy'n gyfrifol am hyfforddiant ôl-raddedig i gynorthwyo'u dysgwyr. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, byddwn yn cymryd camau cymesur os mynegir pryderon i ni ynghylch y ffaith nad yw ein safonau yn cael eu bodloni.

Ailddilysu

Rhaid i bob meddyg trwyddedig sy'n gwneud gwaith meddygol ailddilysu. Mae gan ran fwyaf y meddygon gyswllt gyda chorff dynodedig, gan gynnwys meddygon locwm, ac mae'n rhaid i'r swyddog cyfrifol gynorthwyo meddygon i droi at weithgarwch arfarnu a'r systemau er mwyn casglu gwybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys gwneud trefniadau penodol i feddyg anabl gynnal eu harfarniad. Disgwyliwn i gyrff dynodedig integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu holl broses ailddilysu meddygol, fel y nodir yn ein Llawlyfr Llywodraethu effeithiol er mwyn cynorthwyo ailddilysu.

Mae ein gofynion er mwyn ailddilysu yn rhai ar lefel uchel ac nid ydynt yn rhagnodol. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i'n gofynion gael eu haddasu i amgylchiadau meddygon unigol. Er enghraifft, mae'n protocol ar gyfer Swyddogion Cyfrifol yn nodi nad oes yn rhaid bod meddyg wedi cwblhau pum arfarniad er mwyn ailddilysu'n llwyddiannus, oherwydd y gallent fod wedi colli arfarniad oherwydd salwch.

Yn ogystal, gallwn roi amser ychwanegol yn y broses ailddilysu trwy dywys ein Swyddogion Cyfrifol i wneud argymhelliad y dylid gohirio achos meddygon nad ydynt wedi llwyddo i fodloni'r holl ofynion erbyn eu dyddiad ailddilysu ac unwaith eto, ceir amgylchiadau rhesymol sydd wedi arwain at hyn.

Rydym yn gwybod bod nifer fach o feddygon nad oes ganddynt gorff dynodedig efallai, ac mae'n rhaid iddynt droi at eu harfarnwr annibynnol eu hunain. Efallai y bydd hyn yn heriol i feddyg sydd ag anabledd ac yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn helpu i'w cynorthwyo i fodloni'r gofynion er mwyn ailddilysu. Gall meddygon sy'n dymuno trafod hyn neu ymholiadau eraill ynghylch ailddilysu, gysylltu â ni trwy anfon e-bost at revalidation-support@gmc-uk.org.

Panel 5: Enghreifftiau o gymorth wrth ailddilysu

Roedd gan feddyg olwg dwbl ar ôl cael strôc ac nid oedd wedi cyflwyno ei ffurflen flynyddol.

Nododd y meddyg ei fod yn ei chael hi'n anodd llenwi hon ar-lein. Cynigiom gopi caled o fersiwn print mawr i'r meddyg.

Ni fu modd i feddyg fynychu'r asesiad ailddilysu ym Manceinion gan nad oeddent yn gallu teithio oherwydd eu hanabledd. Cynhaliom asesiad o'r hyn y byddai gofyn i'r meddyg ei gael. Trefnom bod y meddyg yn cael yr asesiad yn ein swyddfa yn Llundain yn lle hynny, gan neilltuo amser ychwanegol iddynt gwblhau'r papur.

Roedd meddyg yn cael anhawster gyda'r holl ofynion ar gyfer eu proses ailddilysu gan bod ganddynt ddyslecsia. Rhoddom fwy o amser i'r meddyg fodloni'r gofynion, a'u helpu i gadarnhau a oedd ganddynt gysylltiad gyda chorff dynodedig.

Rhannu gwybodaeth yn lleol

Er nad oes angen i ni gael gwybodaeth am gyflyrau iechyd neu anableddau meddyg yn aml iawn, rydym yn annog meddygon i rannu'r wybodaeth hon yn lleol gyda gwasanaethau iechyd galwedigaethol, eu goruchwylydd addysgol neu eu rheolwr llinell. Diben hyn yw sicrhau bod y cymorth priodol yn cael ei ddarparu ar eu cyfer yn lleol, yn eu lleoliadau gwaith dydd-i-ddydd.

Rhannu gwybodaeth gyda ni

Yr unig adeg pan hoffem gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddygon unigol yw pan fydd y meddyg eu hunain neu rywun arall yn pryderu am y ffordd y mae'n effeithio ar eu gwaith. Anaml y mae hyn yn digwydd.

Yn yr un modd â'n prosesau cofrestru, ni allwn ddarparu rhestr o gyflyrau iechyd neu anableddau y dylai meddygon rannu gwybodaeth amdanynt. Mae hyn oherwydd nad yw cyflyrau iechyd neu anableddau, ynddynt eu hunain, yn rheswm dros gwestiynu addasrwydd meddyg i wneud gwaith meddygol. Nid yw ein cyswllt ni yn ymwneud â'r cyflwr ei hun, ond ynghylch yr effaith y mae'n ei gael ar allu unigolyn i wneud gwaith meddygol yn ddiogel. Mae hyn yn unigryw ar gyfer pob achos, felly mae'n rhaid ei ystyried fesul achos unigol. Ceir gwybodaeth benodol am hyn yn ein canllaw pwrpasol ar-lein, Rheoli eich iechyd.

Panel 6: Iechyd ac addasrwydd i wneud gwaith; rhoi sylw i’r risg ymddangosiadol i ddiogelwch cleifion

Nid yw cael cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu yr amharir ar addasrwydd meddyg i wneud gwaith meddygol yn awtomatig. Yn ogystal, nid yw cael cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu bod risg anorfod i ddiogelwch cleifion. Nid yw addasiad rhesymol neu fesur cymorth y gofynnir amdano ar gyfer meddyg sydd â chyflwr iechyd neu anabledd yn peri risg anorfod i gleifion. Mae'r diagram hwn yn esbonio sut y mae iechyd meddyg, eu haddasrwydd i wneud eu gwaith, a diogelwch cleifion yn gysylltiedig â'i gilydd yn ôl ein canllaw.

Diagram of patient safety, fitness to practice and a doctor's health

 

Nesaf yn y gyfres hon o gynnwys: