Trosolwg o’n hystyriaethau fel rheolydd proffesiynol
Fel corff cyhoeddus a rheolydd proffesiynol meddygon, mae gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol sawl dyletswydd ac ystyriaeth yn y maes hwn. Rydym yn esbonio ein hystyriaethau dros yr adrannau nesaf, gan gychwyn gyda'n hystyriaethau cyffredinol ac yna, gan ddilyn y cyfnodau addysg a hyfforddiant meddygol gwahanol.