Astudio meddygaeth a graddio gyda chymhwyster meddygol sylfaenol
Mae i'n rôl yn cynnwys goruchwylio addysg feddygol i israddedigion.
Gall unrhyw un raddio ar yr amod: eu bod yn ddigon da i astudio, eu bod yn addas i wneud gwaith meddygol, eu bod yn bodloni holl ofynion academaidd eu cwrs a'r holl Ganlyniadau ar gyfer graddedigion.
Bod yn ddigon da i astudio: Mae'n bwysig ystyried a yw myfyriwr yn ddigon da i gymryd rhan yn eu cwrs ac i ymgysylltu ag ef. Mae Pennod 4 ('Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?'), yn cynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch ystyried addasrwydd i astudio.
Bodloni'r holl ofynion academaidd: Mae angen i bob myfyriwr meddygol fodloni gofynion academaidd eu cwrs. Mae ysgolion meddygol yn rheoli hyn, ac ni all myfyriwr gwblhau eu gradd fel arall.
Heb fod ag unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd myfyriwr i wneud gwaith meddygol: Rhaid i holl raddedigion ysgolion meddygol yn y DU fod yn addas i wneud gwaith meddygol ar yr adeg pan fyddant yn graddio. Mae ysgolion meddygol yn rheoli proffesiynoldeb a phryderon ynghylch addasrwydd myfyrwyr i wneud gwaith meddygol, sy'n codi yn ystod y cwrs, gan sicrhau y rhoddir sylw i'r pryderon hyn erbyn yr adeg pan fydd y myfyriwr yn graddio. Dim ond myfyrwyr yr ystyrir eu bod yn addas i wneud gwaith meddygol ar yr adeg graddio y dylai ysgolion meddygol eu graddio. Mae graddio myfyriwr yn golygu bod yr ysgol feddygol yn hyderus bod y myfyriwr yn addas i wneud gwaith meddygol.
- Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig gallai addasrwydd myfyriwr i wneud gwaith meddygol gael ei gwestiynu mewn perthynas â'u hiechyd. Nid yw'r rhain yn ymwneud â'r cyflwr iechyd ei hun, ond gydag ymddygiad yr unigolyn fel ymateb.
- Ar yr amod bod y myfyriwr yn dangos dirnadaeth o'u cyflwr a'u bod yn dilyn cyngor meddygol a chynlluniau trin priodol, mae'n annhebygol y bydd unrhyw bryderon ynghylch eu haddasrwydd i wneud gwaith.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, byddai modd cyfeirio myfyrwyr sy'n methu cyflawni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud a chymorth gael ei ddarparu, at y weithdrefn addasrwydd i wneud gwaith meddygol. Mewn achosion o'r fath, mae o gymorth i'r ysgol ddangos ei bod wedi gwneud pob ymdrech i gynorthwyo'r myfyriwr i gwblhau'r cwrs, gan gynnwys ceisio cyngor priodol gan arbenigwr achrededig ym maes meddygaeth alwedigaethol a gwasanaethau arbenigol eraill. Mae gennym fwy o gyngor ar gyfer myfyrwyr nad ydynt efallai yn cyflawni ein canlyniadau a gyhoeddwyd ar gyfer graddedigion.
Panel 3: A yw dysgwyr anabl yn gallu cwblhau eu cwrs meddygol dan drefniant rhan-amser?
Nid ydym yn gwrthwynebu sefyllfa lle y bydd myfyrwyr yn cwblhau cwrs meddygol dan drefniant rhan-amser / llai nag amser llawn fel un addasiad rhesymol posibl, ar yr amod bod yr ysgol feddygol yn cael ei sicrhau am y gofynion uchod. Byddai hyn yn benderfyniad i'r ysgol feddygol ei wneud ynghylch myfyriwr unigol
Nid oes unrhyw gyrsiau meddygol rhan-amser yn y DU ar hyn o bryd. Byddai angen i unrhyw gwrs rhan-amser fynd trwy ein proses gymeradwyo ar gyfer rhaglenni newydd.