Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?

Mae’r adran hon yn amlinellu sut y gallai ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau. Gall myfyrwyr meddygol hefyd ddarllen yr adran hon i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael iddynt.

Prif negeseuon y bennod hon

  • Dylai ysgolion meddygol hyrwyddo iechyd a llesiant ar gyfer eu myfyrwyr yn barhaus. Dylid grymuso myfyrwyr i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant trwy gyfrwng gweithgareddau gan yr ysgol.
  • Rhaid i ysgolion meddygol gynorthwyo dysgwyr anabl. Rhan o hyn yw sicrhau bod y cwrs mor gynhwysol a chroesawgar ag y bo modd. Mae hyn yn cynnwys hygyrchedd yr amgylchedd ffisegol, offer sy'n gallu helpu myfyrwyr, a sut y gwneir pethau yn yr ysgol er mwyn sicrhau na fydd dysgwyr anabl dan anfantais. Mae gan ysgolion ddyletswydd i ragweld anghenion dysgwyr anabl, hyd yn oed os nad oes unrhyw fyfyrwyr anabl ar y cwrs ar y pryd.
  • Gall ysgolion meddygol ystyried y strwythur cymorth a'r prosesau ar gyfer elfennau penodol y cwrs megis lleoliadau clinigol ac asesiadau.
    • Yn aml, darparir lleoliadau clinigol draw oddi wrth wasanaethau'r ysgol feddygol, felly gall ysgolion ystyried pa gymorth fydd ar gael i'w myfyrwyr pan fyddan nhw yno.
    • Mae asesu yn un o'r cydrannau addysgol sy'n destun gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb. Rhaid i'r holl asesiadau fod yn seiliedig ar safonau cymhwysedd wedi'u diffinio, a dylid gwneud addasiadau rhesymol o ran y ffordd y gall myfyriwr fodloni'r safonau hynny.
  • Gall ysgolion meddygol ddefnyddio ffurflen clirio iechyd a gwasanaethau iechyd galwedigaethol er mwyn nodi myfyrwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae'n arfer da cynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol sy'n gallu troi at feddyg arbenigol achrededig, y mae ganddynt brofiad presennol neu ddiweddar ym maes iechyd meddygon.
  • Dylai ysgol sicrhau bod modd i fyfyriwr rannu gwybodaeth am anableddau (gan gynnwys cyflyrau iechyd hirdymor) os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ar ôl iddynt rannu'r wybodaeth hon, rhaid i'r ysgol feddygol roi sylw i ofynion y myfyriwr i gael cymorth cyn gynted ag y bo modd yn rhesymol.
  • Mae'n fater i bob ysgol neu brifysgol asesu sut y maent yn delio â phob achos unigol. Mae'n bwysig cael proses er mwyn gwneud penderfyniadau cytbwys a theg, a fydd yn weithredol ar draws pob achos. Un dull gweithredu yr ydym yn annog ysgolion meddygol i'w ystyried fel arfer da yw'r model rheoli achosion. Gall ysgolion ddefnyddio proses cam wrth gam i ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn cynorthwyo pob myfyriwr.
    • Cam 1: Ffurfio grŵp cymorth ar gyfer y myfyriwr
    • Cam 2: Penderfynu ar brif gyswllt/cysylltiadau
    • Cam 3: Cytuno ar drefniadau cyfrinachedd
    • Cam 4: Gwneud penderfyniad ar y cyd ynghylch sut y byddai galwadau'r cwrs yn effeithio ar y myfyriwr.
    • Cam 5: Penderfynu a ellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r safonau cymhwysedd a nodir yn nogfen Canlyniadau ar gyfer graddedigion. Os gellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r canlyniadau, rhaid i'r ysgol eu cynorthwyo i wneud hynny. Os bydd yr ysgol yn penderfynu na ellir cynorthwyo'r myfyriwr i gyflawni'r canlyniadau, rhaid iddi annog y myfyriwr i ystyried dewisiadau amgen, gan gynnwys sicrhau gradd amgen a chael cyngor gyrfaoedd arall.
    • Cam 6: Creu cynllun gweithredu. Gallai'r cynllun gweithredu ymhelaethu am y cymorth yn ystod pob rhan o'r cwrs, yn ogystal â threfniadau gofal ar gyfer y myfyriwr.
    • Cam 7: Gweithredu, monitro ac adolygu. Ceir cyfrifoldeb a rennir rhwng yr ysgol feddygol a'r myfyriwr dros weithredu'r cynllun gweithredu.
  • Gall ysgolion asesu effeithiolrwydd y cymorth a roddir i fyfyrwyr, er enghraifft trwy gyfrwng sesiynau 'dal i fyny' rheolaidd neu adolygiadau a gynhelir bob tymor neu bob blwyddyn.

Rhaid i ysgolion fod yn barod i ymateb i anghenion eu myfyrwyr sy'n esblygu.