Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?

Pan fydd cymorth yn ei le

Anghenion sy’n esblygu

Dylai ysgolion meddygol gofio y gall anghenion dysgwyr anabl newid yn ystod y cwrs.

Mae'n arfer da i'r ysgol gymryd camau i asesu effeithiolrwydd y cymorth a roddir i ddysgwyr anabl. Gallai'r rhain gynnwys:

  • sgyrsiau 'dal i fyny' rheolaidd gyda'r myfyriwr
  • ffordd i'r myfyriwr godi unrhyw faterion am y cymorth y maent yn ei gael
  • cynnal adolygiad mwy ffurfiol yn rheolaidd, e.e. bob tymor neu bob blwyddyn.

Gall prif gyswllt yr ysgol feddygol ddelio â newidiadau bach yn y cymorth y mae'r myfyriwr yn ei gael, trwy gael cyswllt â'r gwasanaethau priodol.

Os bydd newidiadau arwyddocaol yn digwydd, efallai y bydd y prif gyswllt o'r ysgol feddygol yn dymuno galw cynhadledd achos neu gyfarfod ar y cyd arall er mwyn trafod sut y gellir delio â'r rhain. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer cyflyrau dirywiol neu sy'n gwaethygu. Os bydd cyflwr myfyriwr yn newid mewn ffordd sylweddol, efallai y bydd angen i grŵp cymorth yr ysgol feddygol ailasesu a ellir cynorthwyo'r myfyriwr o hyd i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion.

Cymryd amser i ffwrdd o’r cwrs

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn anhwylus yn ystod eu hastudiaethau a bydd angen iddynt gymryd amser i ffwrdd o'r cwrs er mwyn gwella.

Os bydd yr ysgol neu fyfyriwr meddygol o'r farn y byddent yn cael budd o gymryd amser i ffwrdd o'r cwrs, gallai'r grŵp cymorth gyfarfod eto i wneud penderfyniad (gan gynnwys y myfyriwr pan fo hynny'n briodol). Gallai'r trafodaethau gynnwys:

  • pam y byddai'r myfyriwr yn cael budd o/yn dymuno cymryd amser i ffwrdd efallai
  • hyd y cyfnod yr argymhellir y dylai'r myfyriwr ei gymryd i ffwrdd.
    • gall colli swm sylweddol o amser addysgu neu ar leoliadau olygu ei bod yn amhosibl i fyfyriwr ddal i fyny gyda'u gwaith. Mae angen i'r ysgol sicrhau cydbwysedd rhwng hyn a'r effaith negyddol y gall ailadrodd blwyddyn ei chael ar y myfyriwr, felly mae angen gwneud penderfyniadau fesul achos
  • yr hyn y disgwylir i'r myfyriwr ei wneud, neu'r hyn y mae'r myfyriwr yn bwriadu ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw (ee mynychu rhaglen driniaeth)
  • eu lleoliad yn ystod eu cyfnod i ffwrdd: er enghraifft, yn lleol ac yn defnyddio cyfleusterau'r brifysgol, neu'n dychwelyd gartref i gael cymorth gan deulu a ffrindiau
  • lefel y cyswllt y byddant yn ei chael gyda'r ysgol feddygol a'r brifysgol yn ystod eu cyfnod i ffwrdd
  • sut y gall yr ysgol eu helpu i ailintegreiddio i'r cwrs pan fyddant yn dychwelyd.

Bydd adegau yn codi pan fydd yr ysgol a myfyriwr yn anghytuno ynghylch y cwestiwn ai cymryd amser i ffwrdd o'r cwrs yw'r peth iawn i'w wneud. Dylai'r ysgol gymryd camau rhesymol i ddeall y gwahaniaeth barn, gan ddatblygu cynllun priodol gyda'r myfyriwr.

Dylai'r ysgol ddarparu cymorth bugeiliol ar lefel uchel oherwydd y bydd hwn yn gyfnod anodd i'r myfyriwr. Mae'r un peth yn wir pan fydd myfyriwr sydd wedi cymryd amser i ffwrdd yn dychwelyd i'r cwrs.

Dylai'r ysgol feddwl am ffyrdd o gynnwys hyblygrwydd mewn cyrsiau, fel bod modd i fyfyrwyr ddal i fyny ar yr amser y maent wedi'i golli.

Sylwch: Seilir yr adran hon ar y cyngor a roddir i ysgolion meddygol am y mater hwn yn Cynorthwyo myfyrwyr meddygol sydd â chyflyrau iechyd meddwl (canllawiau ar y cyd gyda'r Cyngor Ysgolion Meddygol).

Panel 13: A oes modd i ysgolion ddarparu addasiad na ystyrir yn rhywbeth mor realistig yn yr amgylchedd clinigol, megis amser ychwanegol?

Cynlluniwyd yr asesiad i brofi safonau cymhwysedd penodol. Gellir gwneud addasiad rhesymol er mwyn galluogi myfyriwr anabl i fodloni'r un safon a ddisgwylir o bob myfyriwr – ni all newid neu ostwng y safon honno. Y ffactor allweddol yw a yw'r elfen a addaswyd yn rhan o'r safonau cymhwysedd a brofir yn yr asesiad hwnnw.

Mae amser ychwanegol yn addasiad rhesymol posibl. Mae'n dibynnu a yw'r ysgol feddygol yn penderfynu bod y rhan sy'n ymwneud ag amser yn rhan o'r safonau cymhwysedd a brofir yn yr asesiad penodol hwnnw. Mae hyn yn berthnasol i rannau eraill hefyd, er enghraifft, a ydych yn dymuno profi sillafu, atalnodi a gramadeg, neu'r iaith a ddefnyddir yn y cwestiynau, fel cymhwysedd.

Gall ysgolion meddygol ystyried addasiadau fel yr enghreifftiau canlynol. Enghreifftiau yw'r rhain a bydd angen gwneud penderfyniadau ar sail achosion unigol bob tro.

  • amser ychwanegol ar gyfer asesiad neu gydrannau penodol asesiad
  • peidio marcio'n is oherwydd safon sillafu, atalnodi a gramadeg
  • caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio papur a beiro
  • caniatáu i fyfyrwyr gymryd yr asesiad mewn amgylchedd tawel – er enghraifft, efallai y bydd unigolyn sydd â dyslecsia yn ei chael hi'n anodd iawn canolbwyntio mewn amgylcheddau gorlawn prysur

Wrth drefnu cymorth ar gyfer asesiadau sy'n efelychu'r amgylchedd clinigol, efallai y bydd ysgolion meddygol yn dymuno ystyried:

  • ei bod yn naturiol y bydd myfyrwyr meddygol dan fwy o straen nag arfer mewn asesiad. Gall straen waethygu nifer o gyflyrau – ee gall waethygu atal dweud
  • mae myfyrwyr meddygol a meddygon yn unigolion sydd â chryn allu, a gallant ddatblygu strategaethau ymdopi llwyddiannus ym maes arfer clinigol. Er enghraifft, defnyddio templedi er mwyn helpu i strwythuro gwaith ysgrifenedig; meddalwedd gwirio sillafu, arddweud nodiadau, dulliau gweledol/sain, apiau meddygol, a meddalwedd adnabod llais

Mae angen i geisiadau am addasiadau gael eu cadarnhau gan y myfyriwr, er enghraifft trwy gyfrwng adroddiad gan seicolegydd addysg. Yn yr un modd, rhaid i ysgolion gadarnhau penderfyniad i wrthod ceisiadau am addasiadau. Mae'n annhebygol y bydd polisi cyffredinol yn rhesymol.

Mae'r hyn a ystyrir yn rhesymol, ac a fyddai addasiad penodol yn atal y safon cymhwysedd rhag cael ei dangos, yn benderfyniad i bob ysgol feddygol ei wneud ar sail ffeithiau pob achos penodol.

Panel 14: Beth all ysgolion meddygol ei wneud pan gaiff myfyrwyr ddiagnosis cyflwr iechyd neu anabledd o ganlyniad i’r ffaith eu bod wedi methu asesiad?

Os bydd myfyriwr yn methu asesiad neu gydran benodol mewn ffordd annisgwyl, gall yr ysgol archwilio a yw hyn o ganlyniad i anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.

  • Mae myfyrwyr meddygol yn unigolion sy'n meddu ar gryn allu, felly mae'n debygol bod unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio ar eu perfformiad mewn arholiad wedi parhau i fod yn gudd. Yn ogystal, gallai myfyrwyr feddwl bod cael diagnosis yn ifanc yn amherthnasol gan nad yw wedi effeithio ar eu perfformiad mewn asesiadau blaenorol, er enghraifft yn yr ysgol.
  • Mae natur asesiad mewn ysgol feddygol yn benodol i'r lleoliad hwnnw, felly ni fyddai myfyrwyr wedi bod yn yr amgylchedd arholiad hwnnw o'r blaen.

Ceir anableddau cudd sy'n gallu effeithio ar berfformiad mewn arholiad – er enghraifft, mae Cymdeithas Ryngwladol Dyslecsia yn dweud bod 'Dyslecsia yn effeithio ar 1 o bob 10 unigolyn, na fydd nifer ohonynt yn cael diagnosis nac unrhyw wasanaethau ymyrraeth o gwbl neu fawr iawn o wasanaethau ymyrraeth'.

Nesaf yn y gyfres hon o gynnwys: