Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?

Ar ôl i fyfyriwr gael ei dderbyn ar y cwrs

Clirio iechyd a gwasanaethau iechyd galwedigaethol

Mae'n arfer cyffredin holi'r holl ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig lle i lenwi ffurflen clirio iechyd. Cynlluniwyd y broses er mwyn i'r ysgol nodi unrhyw un y bydd angen cymorth arnynt ymlaen llaw, a phenderfynu ar y math mwyaf priodol o gymorth.

Mae adborth gan fyfyrwyr meddygol yn dangos bod y cyswllt cychwynnol gyda gwasanaethau yn hollbwysig, ac y bydd yn cael effaith hirdymor ar y ffordd y mae'r unigolyn yn rhyngweithio gyda'r system er mwyn cael cymorth.

Panel 11: Gwasanaethau iechyd galwedigaethol

Beth yw iechyd galwedigaethol?

Mae iechyd galwedigaethol yn faes arbenigol sy'n ymwneud â'r rhyngweithio rhwng gwaith (gan gynnwys hyfforddiant galwedigaethol) ac iechyd.

Mae'r gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn cynnwys tîm o nyrsys a meddygon arbenigol cymwys sy'n cynnig cyngor am eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn gweithio neu'n astudio.

Mae'r cyngor yn ddiduedd, yn wrthrychol, yn seiliedig ar dystiolaeth feddygol a deddfwriaeth, ac yn rhwym i'r rheol cyfrinachedd rhwng meddyg a chlaf.

Pam ei bod o gymorth ceisio cyngor gan iechyd galwedigaethol

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor annibynnol, waeth pwy sy'n talu amdano.

Gall cael y cyngor priodol ar y dechrau arbed myfyrwyr rhag dioddef gofid neu orbryder dianghenraid, gan osgoi canlyniadau negyddol eraill yn yr hirdymor (ee myfyrwyr yn cymryd egwyl o'r cwrs er mwyn adfer)

Pa fath o wasanaeth iechyd galwedigaethol i’w gynnwys

  • Gwasanaeth sy'n addas i'r diben er mwyn cynnig cyngor i fyfyrwyr meddygol
  • Gwasanaeth sy'n meddu ar strwythur llywodraethu clir ac arweinyddiaeth glinigol uwch
  • Gwasanaeth lle y mae modd troi at o leiaf un meddyg arbenigol achrededig sydd â phrofiad presennol neu brofiad diweddar amlwg ym maes iechyd meddygon (ee achrediad SEQHOS). Mae'n arfer da i'r tîm brofi a deall yr amgylchedd gofalu proffesiynol a materion rheoli haint.
  • Gwasanaeth a fydd ar gael yn ystod adegau pwysig yn y calendr academaidd – ee dechrau'r flwyddyn academaidd.
  • Gwasanaeth sy’n deall y gwahanol agweddau ar y cwrs, hyfforddiant meddygol, a phrosesau’r ysgol feddygol.
  • Gwasanaeth a fydd yn sefydlu cysylltiadau ac yn cydweithio â gwasanaethau eraill yn y brifysgol, gan gynnwys gwasanaethau anabledd a chymorth myfyrwyr.

Asesiad iechyd galwedigaethol

Gellir defnyddio'r ffurflenni sampl yn yr atodiad (Panelau A8-A9, a ddatblygwyr gan HEOPS (Meddygon/Ymarferwyr Galwedigaethol Addysgol Uwch) fel man cychwyn er mwyn gofyn am asesiad gan y gwasanaeth iechyd galwedigaethol, ac ar gyfer y gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn anfon adroddiad i'r ysgol feddygol. Cyflwynir y dogfennau hyn fel canllaw, a gellir eu haddasu yn unol ag anghenion yr ysgol feddygol.

Ymsefydlu fel cyfle i rannu gwybodaeth

Efallai y bydd ysgolion meddygol yn cael cyfle i ddarganfod gwybodaeth er mwyn cynorthwyo eu myfyrwyr yn ystod y cyfnod cofrestru ac ymsefydlu.

Gall yr ysgol feddygol:

  • gynnwys gwybodaeth mewn deunyddiau ymsefydlu am y ffordd y mae'r ysgol a'r brifysgol yn cynorthwyo dysgwyr anabl
  • rhoi manylion cyswllt i fyfyrwyr am yr holl wasanaethau cymorth sydd ar gael a diben pob un ohonynt, gan gynnwys gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gwasanaethau iechyd myfyrwyr, gwasanaethau cwnsela cyfrinachol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol, gwasanaethau anabledd ac undeb y myfyrwyr.
  • cael sesiynau ymsefydlu pwrpasol wyneb yn wyneb ynghylch cynorthwyo dysgwyr anabl, gan gynnwys carfan gyfan y myfyrwyr (gweler y cyngor ynghylch sesiynau ymsefydlu yn atodiad y canllaw, panel A5)
  • annog myfyrwyr a chynnig cyfleoedd i drafod unrhyw gyflyrau iechyd neu anableddau y maent yn dymuno rhannu gwybodaeth amdanynt
  • cynnwys enghreifftiau neu straeon am ddysgwyr anabl yn y deunyddiau ymsefydlu

Gall ysgolion meddygol atgoffa myfyrwyr o'r wybodaeth hon yn rheolaidd, er enghraifft trwy sicrhau ei bod yn hawdd troi ati ar wefan yr ysgol neu gynnal sesiwn ddiweddaru am iechyd ac anabledd trwy'r cwrs.

Cymorth ariannol

Gall dysgwyr anabl wneud cais am Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (DSAs) er mwyn talu rhai o'r costau ychwanegol sydd ganddynt.

Gall myfyrwyr gael y lwfansau yn ychwanegol i'w cyllid i fyfyrwyr. Nid yw'r swm y byddant yn ei gael yn dibynnu ar incwm eu haelwyd, ond ar asesiad o'u hanghenion unigol. Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr ad-dalu DSAs.

Mae'r DSA yn cynnwys tri pheth:

  • Lwfans offer arbenigol: Mae hwn yn talu am eitemau offer mawr megis cyfrifiadur neu beiriant recordio digidol. Mae'n talu costau yswiriant, cymorth technegol a gwaith trwsio hefyd.
  • Lwfans ar gyfer helpwr anfeddygol: Mae hwn yn talu cost rhywun i gymryd nodiadau, darllenwyr, hyfforddiant cymorth dyslecsia ac ati.
  • Lwfans cyffredinol: Mae hwn yn talu costau eraill sy'n gysylltiedig ag anabledd, nad ydynt wedi cael eu cynnwys uchod, megis llyfrau ychwanegol, argraffu, llun-gopïo ac ati. Gellir defnyddio'r lwfans ychwanegol er mwyn ychwanegu at y lwfansau eraill hefyd yn ôl yr angen.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cyllid i fyfyrwyr anabl ar gael ar wefan UCAS.

Yn ogystal â chymorth ariannol gyda'u hastudiaethau, efallai y bydd myfyrwyr yn gallu hawlio cyllid ychwanegol tuag at gostau byw o ddydd i ddydd. Gall myfyrwyr hawlio hwn trwy'r Adran Gwaith a Phensiynau a Student Finance NIyng Ngogledd Iwerddon. Ni fydd unrhyw gyllid i fyfyrwyr arall y mae'r myfyriwr yn ei gael yn effeithio ar hyn. Penderfynir ar y swm ar sail sut y mae eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd yn effeithio ar y cymorth y mae ei angen arnynt.