Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?

Yn barhaus neu’n rheolaidd

Derbyniadau

Bydd y Cyngor Ysgolion Meddygol yn cyhoeddi canllawiau pwrpasol sy'n cynnwys cyngor am y prosesau derbyn er mwyn croesawu ymgeiswyr sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau.

Gallwch weld y prif negeseuon o ganllawiau’r y Cyngor Ysgolion Meddygol i dimau derbyniadau ysgolion meddygol Croesawu a gwerthfawrogi: Ein cyswllt ni fel rheoleiddiwr proffesiynol: Derbyn i ysgol feddygol.

Hyrwyddo iechyd a llesiant

Dylai ysgolion meddygol hyrwyddo iechyd a llesiant eu myfyrwyr yn barhaus.

Mae meddygaeth yn gwrs anodd lle y bydd myfyrwyr dan straen, a dylid eu grymuso i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant trwy gyfrwng gweithgareddau gan yr ysgol.

Ceir rhai enghreifftiau o ymgyrchoedd ynghylch llesiant myfyrwyr yn yr atodiad (panel A7).

Sicrhau bod y cwrs yn gynhwysol ac yn groesawgar

Cyn y bydd unrhyw fyfyriwr newydd yn cyrraedd, dylai ysgolion meddygol roi ystyriaeth ddifrifol i sicrhau bod popeth am y cwrs yn gynhwysol ac yn groesawgar i ddysgwyr anabl. Mae gan ysgolion ddyletswydd i ragweld anghenion dysgwyr anabl, hyd yn oed os na fydd unrhyw fyfyrwyr anabl ar y cwrs ar adeg benodol.

Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd ffisegol, cymhorthion cynorthwyol, a ffyrdd o wneud pethau (darpariaethau, arferion neu feini prawf).

Table of ways to make the course accessible

Panel 10: Enghreifftiau o’r ffordd y gwneir pethau

Dyma rai enghreifftiau o gwestiynau a ofynnir i ni am y ffordd y gwneir pethau mewn ysgol feddygol. Yn aml, mae sefyllfaoedd yn fwy cymhleth na'r enghreifftiau, felly mae angen gwneud penderfyniadau ar sail achosion unigol bob amser.

  • Absenoldebau anawdurdodedig ac absenoldebau awdurdodedig: Gallai polisi absenoldebau ysgol gynnwys uchafswm o ran nifer yr absenoldebau awdurdodedig. Mae'n debygol y bydd angen amser i ffwrdd ar ddysgwr anabl i fynychu apwyntiadau meddygol. Os yw hynny'n briodol ar gyfer myfyriwr penodol, gallai'r ysgol wneud addasiad rhesymol er mwyn caniatáu i'r myfyriwr fynychu eu holl apwyntiadau heb gymryd absenoldebau anawdurdodedig.
  • Rhoi gwybodaeth ymlaen llaw: Efallai y bydd ysgol yn rhannu amserlenni neu ddeunydd academaidd gyda myfyrwyr ar ddyddiad penodol. Gallai dysgwyr anabl gael budd o gael y wybodaeth hon ymlaen llaw – er enghraifft er mwyn cynllunio eu hastudiaethau neu wneud trefniadau teithio i leoliadau. Os yw hynny'n briodol i fyfyriwr penodol, gallai'r ysgol wneud addasiad rhesymol i rannu'r wybodaeth hon yn gynharach.

Astudio'n rhan-amser: Mae rhai ysgolion meddygol wedi gwneud trefniadau i fyfyrwyr unigol gwblhau gradd feddygol dan drefniant sy'n cyfateb ag ychydig yn llai na threfniant amser llawn, am yr holl gwrs neu rannau ohono. Os yw hynny'n briodol i fyfyriwr penodol, gallai'r ysgol bennu bod hwn yn addasiad rhesymol er mwyn i ddysgwr anabl gwblhau'r cwrs.

Ystyried elfennau penodol y cwrs

Lleoliadau clinigol

Mae cyrsiau meddygaeth a chyrsiau gofal iechyd eraill yn cynnwys addysgu yn yr amgylchedd clinigol lle y darparir gofal, megis ysbyty, canolfan iechyd, practis meddyg teulu neu'r gymuned. Mae hyn yn golygu bod y myfyriwr yn cael cyswllt gyda chleifion a'u teuluoedd / gofalwyr, lle y bydd yn rhaid iddynt ddysgu sut i gyfathrebu yn y cyd-destun hwnnw a chyflawni tasgau perthnasol dan oruchwyliaeth. Yn aml, bydd ysgolion meddygol yn gwneud hyn ar draws safleoedd lluosog ymhell o'r brifysgol. Ni reolir y safleoedd hyn gan yr ysgolion meddygol yn uniongyrchol, ond bydd gan yr ysgolion gytundebau yn eu lle gyda'r darparwyr GIG i'w myfyrwyr dreulio cyfnodau ar leoliad yno.

Efallai y bydd ysgolion meddygol yn dymuno:

  • darparu gwasanaethau cymorth yn lleoliad y lleoliadau clinigol, y maent yn cyd-fynd â threfniant lleoliadau, er enghraifft cyswllt dynodedig wedi'i leoli yn yr ysbyty, practis ac ati. Neu, gallai ysgolion gynnig ffyrdd eraill i fyfyrwyr gysylltu â gwasanaethau cymorth pan fyddant ar leoliad (ee cyswllt neu linell gymorth y tu allan i oriau swyddfa)
  • trefnu cymorth ar gyfer lleoliadau clinigol mor gynnar ag y bo modd. Yn ddelfrydol, byddai hyn ar ddechrau'r cwrs. Pan geir blynyddoedd clinigol ac anghlinigol ar wahân, byddai o gymorth trafod cymorth tuag at ddiwedd y flwyddyn cyn-glinigol olaf
  • rhoi eu lleoliadau lleoliad a'u rotâu i ddysgwyr anabl mor gynnar ag y bo modd
  • cynnwys gwybodaeth benodol i ddysgwyr anabl yn ystod sesiynau paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol (gweler y cyngor ynghylch sesiynau paratoi yn atodiad y canllaw, panel A6)
  • cynnig cyfleoedd i ddysgwyr anabl gysgodi ar leoliadau clinigol (cyn iddynt gychwyn) fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â'r amgylchedd a'r galwadau
  • rhoi hyfforddiant i oruchwylwyr clinigol am anghenion myfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau
  • meddu ar system 'basbortau' neu 'gardiau cymorth' y bydd myfyrwyr ar leoliad yn eu cario. Bydd y pasbort neu'r cerdyn yn cynnwys geiriad y cytunwyd arno gyda'r myfyriwr, sy'n disgrifio eu hanghenion. Gellir dangos hwn i aelodau o staff mewn lleoliadau clinigol yn ôl yr angen. Gweler enghraifft o ddefnyddio cardiau cymorth i fyfyrwyr gan Goleg Prifysgol Llundain.

Wrth i fyfyrwyr gael profiad o'r amgylchedd clinigol, efallai y bydd angen i'r grŵp cymorth gyfarfod eto i asesu a ellir cynorthwyo'r myfyriwr o hyd i gyflawni'r canlyniadau sy'n ymwneud â sgiliau clinigol.

Asesiadau

Mae asesu yn un o'r cydrannau addysgol sy'n destun gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb. Efallai y bydd ysgolion meddygol yn dymuno:

  • gweithredu rhai mesurau ar draws grŵp o fyfyrwyr neu bawb sy'n cyflawni'r asesiad am resymau ymarferol. Er enghraifft:
    • rhoi swm penodol o amser ychwanegol i grŵp o fyfyrwyr
    • rhoi myfyrwyr y mae angen iddynt gael egwyl rheolaidd yng nghefn yr ystafell neu mewn ystafell ar wahân
    • ychwanegu gorsaf orffwyso i bawb ar gylchdaith arholiad ymarferol
    • defnyddio papur lliw ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n cael asesiad.
  • ystyried cymorth ar wahân ar gyfer asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol, er y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddau leoliad
  • annog myfyrwyr i roi adborth ynghylch pa mor effeithiol y bu'r cymorth cyn gynted ag y byddant yn dechrau cymryd asesiadau
  • ystyried cardiau neu 'basbortau' cymorth ar gyfer asesiadau. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol ar gyfer arholiadau ymarferol, lle y ceir arholwyr a gorsafoedd lluosog
  • ystyried gweithredu cymorth a gytunwyd yn awtomatig heb eu hail-gymeradwyo ar gyfer pob rownd asesu.

Ceir arweiniad ychwanegol am y rhyngweithio rhwng safonau cymhwysedd ac addasiadau rhesymol mewn addysg uwch gan yr Uned Herio Cydraddoldeb.