Ar ôl anghenion cymorth gael eu codi
Mater i bob ysgol neu brifysgol yw asesu sut y maent yn delio â phob achos unigol. Mae'n bwysig cael proses er mwyn gwneud penderfyniadau cytbwys a theg a fydd yn weithredol ar draws pob achos. Un dull yr ydym yn annog ysgolion meddygol i'w ystyried fel arfer da, yw'r model rheoli achos.
Caiff rheoli achos ei ddiffinio fel: 'Proses ar y cyd sy'n asesu, cynllunio, gweithredu, cydlynu, monitro a gwerthuso'r dewisiadau a'r gwasanaethau sy'n ofynnol er mwyn bodloni anghenion iechyd a gwasanaethau dynol [...]. Fe'i nodweddir gan eiriolaeth, cyfathrebu, a rheoli adnoddau, ac mae'n hyrwyddo canlyniadau ac ymyriadau cost-effeithiol ac o ansawdd.' Fel dull gweithredu, mae'n cynnwys elfennau tebyg i dimau amlddisgyblaethol mewn meddygaeth.
Gall ysgolion ddefnyddio proses cam wrth gam (gweler y dudalen nesaf) er mwyn datblygu cynllun gweithredu i gynorthwyo pob myfyriwr. Gellir defnyddio'r un broses ar gyfer myfyrwyr sy'n datgelu cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn nes ymlaen yn ystod y cwrs, yn ogystal â myfyrwyr sy'n datblygu cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r broses hon yn cynnig trosolwg o'r hyn y gellir ei wneud; ni fydd pob cam yn briodol i bob myfyriwr, ond gellir ei addasu i bob achos unigol yn unol â disgresiwn yr ysgol feddygol.
Map proses er mwyn cynorthwyo myfyrwyr meddygol anabl
Mae'r broses hon yn cynnig trosolwg o'r hyn y gellir ei wneud; ni fydd pob cam yn briodol i bob myfyriwr, ond gellir ei addasu i bob achos unigol yn unol â disgresiwn yr ysgol feddygol.
Cam 1: Ffurfio grŵp cymorth
Efallai y bydd gan ysgolion meddygol arweinydd neu dîm sy'n delio â threfniadau cymorth ar gyfer myfyrwyr anabl sy'n cyrraedd. Bydd y rôl neu'r teitl swydd penodol yn gwahaniaethu rhwng ysgolion, ond byddai o gymorth pe bai unigolyn neu bobl dynodedig yn meddu ar y cyfrifoldeb dros gynorthwyo dysgwyr anabl.
Gall yr arweinydd gyfathrebu gyda thimau prifysgol ac ysgolion meddygol eraill er mwyn penderfynu pwy ddylai fod yn rhan o'r broses o archwilio trefniadau cymorth ar gyfer y myfyrwyr sy'n cyrraedd. Gallai'r grŵp craidd ar gyfer cymorth gynnwys:
- cynrychiolydd o'r ysgol feddygol sy'n meddu ar wybodaeth o gydrannau academaidd a chlinigol y cwrs. Bydd o ddefnydd cynnwys rhywun sy'n meddu ar gefndir clinigol a dealltwriaeth o fanylion addysgu yn y cwrs ac mewn lleoliad clinigol
- cynrychiolwyr o wasanaethau bugeiliol neu wasanaeth cymorth i fyfyrwyr
- cynrychiolwyr o wasanaethau iechyd galwedigaethol
- cynrychiolwyr o wasanaethau anabledd
- unrhyw rôl priodol arall o fewn system yr ysgol, er enghraifft cynrychiolwyr cleifion neu gynrychiolwyr lleyg.
Gall yr arweinydd gydlynu gyda'r partïon sy'n dymuno cymryd rhan er mwyn trefnu sgyrsiau gyda'r myfyriwr meddygol wrth symud ymlaen.
Cam 2: Penderfynu ar brif gysylltiadau
Ar ôl cytuno pa bartïon y byddent yn dymuno cymryd rhan, gall yr arweinydd benderfynu pwy fyddai'r prif unigolion cyswllt wrth symud ymlaen.
- Prif gysylltiadau i'r myfyriwr: yn ddelfrydol, byddai hwn yn un unigolyn a enwir, a fydd yn gallu cyfathrebu gyda'r myfyriwr ynghylch unrhyw beth y mae ei angen arnynt mewn perthynas â'u cyflwr iechyd neu eu hanabledd ac yn ganolwr i wasanaethau eraill. Gallai'r prif gyswllt fod yn arweinydd neu'n aelod arall o'r grŵp cymorth, a heb fod yn ymwneud â dilyniant y myfyriwr. Gall yr arweinydd roi eu manylion cyswllt, manylion yr adegau pan fyddant ar gael (ee diwrnodau / oriau gwaith penodol) a manylion unigolyn cyswllt amgen pan na fyddant ar gael.
- Prif gysylltiadau mewnol: Y prif gyswllt ar gyfer pob un o'r gwasanaethau a fydd yn ymwneud ag archwilio trefniadau cymorth ar gyfer y myfyrwyr yn y dyfodol.
Cam 3: Trefniadau cyfrinachedd
Wrth drin gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion, rhaid i sefydliadau sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfreithlon. Rhaid i ysgolion meddygol ddarparu deunydd i fyfyrwyr ynghylch sut y defnyddir eu gwybodaeth, a'u hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth honno.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth a rennir gan y myfyriwr ei chamddefnyddio. Yn ogystal, bydd yn rhoi hyder i fyfyrwyr wrth ddarparu gwybodaeth o'r fath i ysgolion. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu canllawiau am y wybodaeth i'w chynnwys, gan gynnwys rhestr gyfeirio(ym Mhanel A10 yr Atodiad). Weithiau, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnig ymweliadau cynghori am ddim i sefydliadau er mwyn rhoi cyngor ymarferol iddynt iddynt ynghylch sut i wella'u harfer diogelu data.
Efallai y bydd ysgol yn dymuno ystyried y canlynol wrth gasglu gwybodaeth gan fyfyrwyr am eu hiechyd.
- Cadw llwybr archwilio clir o weithgarwch penderfynu er mwyn cynorthwyo dysgwyr anabl, gan bod hyn yn debygol o gynorthwyo ysgolion i sicrhau eu bod wedi cymryd camau priodol i ddarparu addasiadau rhesymol.
- Cadw cofnod o'r holl sgyrsiau rhwng y grŵp cymorth a'r myfyriwr. Mae'n arfer da cytuno ar y dull o gofnodi sgyrsiau o'r fath a bod y myfyriwr yn gweld cofnod drafft o unrhyw drafodaethau.
- Creu ffeil ar wahân ar gyfer gwybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud ag iechyd y tu allan i gofnod cyffredinol y myfyriwr, gyda threfniadau mynediad pendant mewn grym ar gyfer y ffeil honno.
Cam 4: Cynhadledd achos/cyfarfod ar y cyd
Gall yr arweinydd drefnu cyfarfod rhwng y myfyriwr a'r grŵp cymorth.
Yn ogystal, gall y grŵp cymorth ystyried cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'i aelodau ei hun yn bresennol yn unig fel cyfle i drafod cynnydd a gwerthuso achosion, yn enwedig os byddant yn delio gyda sawl achos ar yr un pryd. Bydd y grŵp yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y cyfarfodydd ac yn rhoi cyfle iddynt fynychu pan fo hynny'n briodol.
Mae'r pethau cyffredinol y gallai'r grŵp eu hystyried fel a ganlyn:
- amlinelliad o anabledd neu gyflwr iechyd y myfyriwr – er mwyn helpu i ddeall yr effaith ar eu hastudiaethau. Ni fydd angen trafod symptomau neu fanylion meddygol penodol.
- Ystyried sut y gallai galwadau'r cwrs effeithio ar y myfyriwr, gan ystyried eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd.
Mae cydweithio gyda'r myfyriwr er mwyn dod i benderfyniad ar y cyd yn arfer gorau:
- Y myfyriwr yw'r un gorau i esbonio sut y mae eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd yn effeithio arnynt o ddydd i ddydd.
- Aelodau'r grŵp cymorth sydd yn y sefyllfa orau i esbonio'r hyn y bydd angen i'r myfyriwr ei wneud o ddydd i ddydd yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol feddygol.
Gallai'r drafodaeth gynnwys gwahanol elfennau bywyd myfyriwr yn ystod eu cyfnod mewn ysgol feddygol:
- Logisteg, llety a thrafnidiaeth: Trefniadau byw y myfyriwr, sut y maent yn teithio i leoliadau prifysgol ar gyfer eu cwrs, manteisio ar wasanaethau a lleoliadau prifysgol eraill (ee llyfrgell, undeb y myfyrwyr). Mae'n debygol y bydd polisïau'r brifysgol sy'n bodoli eisoes yn rhoi sylw i nifer o'r trefniadau hyn.
- Rhan academaidd: Yr hyn y bydd angen i'r myfyriwr ei wneud o ddydd i ddydd er mwyn ymgysylltu â'r cwrs. Mae hyn yn cynnwys dilyn gweithgareddau addysgu mewn ffordd effeithiol (ee darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial), gallu manteisio ar ddeunyddiau addysgu mewn ffurf briodol, cymorth sgiliau astudio neu astudio, a chyflawni aseiniadau.
- Rhan mewn labordy: Mae cwrs meddygol yn cynnwys sesiynau mewn labordy neu labordy sgiliau lle y bydd myfyrwyr yn defnyddio offer a chemegau penodol. Gallai'r trafodaethau ystyried yr hyn y bydd angen i'r myfyriwr ei fynychu, defnyddio offer mewn ffordd briodol a chwblhau tasgau.
Gall efelychiad neu daith o gwmpas y labordy sgiliau (os oes modd) helpu'r myfyriwr i gael darlun mwy realistig o'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud.
4. Rhan glinigol:
- Gall y grŵp drafod sawl peth am leoliadau clinigol:
- Llety yn ystod y cyfnod ar leoliadau
- Trafnidiaeth i safleoedd lleoliadau ac oddi yno
- Defnyddio'r cyfleusterau clinigol ee hygyrchedd adeiladau
- Tasgau nodweddiadol y gofynnir i fyfyrwyr ar leoliad eu cyflawni (ee tasgau gweinyddol a chlerigol, archwiliadau syml, tasgau clinigol eraill)
- Yr amserlen yn ystod lleoliadau clinigol
- Defnyddio offer, cemegau a chynhyrchion fferyllol (ee menig, nodwyddau, chwistrellau, canwlâu)
- Defnyddio offer cynorthwyol
- Cyfathrebu gyda chleifion a'u teuluoedd / gofalwyr
Gall efelychiad neu daith o gwmpas safleoedd lleoliadau clinigol (os oes modd) helpu'r myfyriwr i ddychmygu'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud.
5. Rhan asesu: Yr asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol y bydd angen i fyfyrwyr meddygol eu cyflawni er mwyn symud trwy gwahanol gamau'r cwrs. Gall y grŵp drafod ffurf yr asesiadau gan gynnwys yr amseru a'r offer a ddefnyddir. Gall efelychiad neu brawf asesu helpu'r myfyriwr i ddeall yr hyn y bydd angen iddynt ei wneud. Mae'n arfer da trefnu adolygiad yn dilyn yr asesiad cyntaf a gyflawnir gan fyfyriwr hefyd.
6. Trefniadau gofal: Efallai y bydd angen i'r myfyriwr fynychu apwyntiadau parhaus gyda gwasanaethau iechyd er mwyn sicrhau bod eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd yn cael ei reoli. Gall y grŵp:
- ofyn i'r myfyriwr pa mor aml y bydd angen iddynt fynychu apwyntiadau iechyd ac ym mha leoliadau
- cytuno ar drefniadau ymlaen llaw, er enghraifft pa gyfnod o absenoldeb y bydd ei angen ar y myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd
- annog y myfyriwr i gofrestru gyda gwasanaethau lleol, fel y gallant fanteisio ar weithwyr iechyd proffesiynol yn hawdd yn ôl yr angen, er mwyn cael triniaeth a rheolaeth barhaus
Gofal bugeiliol arall neu gymorth ariannol y bydd angen i'r myfyriwr ei gael er mwyn rholi eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd.
Step 5: Penderfyniad ynghylch a ellir cynorthwyo myfyriwr i fodloni’r Canlyniadau ar gyfer graddedigion
Rhaid i ysgolion meddygol ddefnyddio Canlyniadau ar gyfer graddedigion fel y meincnod sylfaenol wrth benderfynu a ellir cynorthwyo myfyriwr trwy'r cwrs neu beidio.
Rhaid i'r holl raddedigion o ysgolion meddygol y DU fodloni'r un safon cymhwysedd, fel y disgrifiwyd yn y Canlyniadau ar gyfer graddedigion. Ond yn bwysig, gallwch wneud addasiadau rhesymol mewn perthynas â'r ffordd yr asesir y canlyniadau hynny, ac eithrio pan fo'r dull perfformio yn rhan o'r cymhwysedd i'w sicrhau.
Er mwyn penderfynu a ellir cynorthwyo myfyriwr i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion, gall y grŵp cymorth:
- fynd trwy'r holl sgiliau a'r gweithdrefnau a restrir yn nogfen Canlyniadau ar gyfer graddedigion, gan ystyried a fyddai'r myfyriwr mewn sefyllfa i fodloni'r rhain gyda chymorth priodol yn ei le
- archwilio pa rannau y gallai'r myfyriwr gael anhawster gyda nhw: Gofyn i'r myfyriwr 'sut allech chi roi sylw i hyn?'; 'a ydych chi'n gallu gweld unrhyw broblemau gyda hyn?'; 'pa strategaethau ymdopi y gallech chi eu mabwysiadu?', a 'sut allwn ni helpu gyda hyn?'.
all y trafodaethau gael eu harwain gan feddyg iechyd galwedigaethol achrededig sydd â phrofiad ym maes iechyd meddygon. Gall y meddyg iechyd galwedigaethol gwblhau asesiad a chael cyngor gan sefydliadau arbenigol eraill yn ôl yr angen; a rhoi eu barn i'r grŵp ynghylch a ellir cynorthwyo'r myfyriwr i gyflawni'r Canlyniadau.
Gall ysgolion ystyried unrhyw geisiadau gan fyfyriwr am ail farn neu gyfeiriad at wasanaeth iechyd galwedigaethol arall.
Os bydd yr ysgol yn penderfynu y gellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion, gall y grŵp cymorth lunio cynllun gweithredu ar gyfer y cwrs.Yn ogystal, gall y grŵp lunio cynllun gweithredu sy'n cynnwys trefniadau ymadael priodol os byddant o'r farn, ar ôl ystyried y manylion yn drylwyr, na fydd y myfyriwr yn gallu cyflawni'r Canlyniadau er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael cymorth (gweler Cam 6).
Sylwch: Nid oes angen i fyfyrwyr meddygol gynnal triniaethau a allai arwain at gysylltiad (EPPs) er mwyn cael canlyniadau addysg feddygol israddedig. Gall meddygon â feirysau a gludir yn y gwaed astudio meddygaeth, ond mae’n bosibl na fyddant yn gallu cynnal triniaethau a allai arwain at gysylltiad ac mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar eu lleoliadau clinigol.
Panel 12: Penderfynu a ddylid darparu cymorth neu beidio
Yn eu Fframwaith Arfer Da er mwyn cynorthwyo myfyrwyr anabl, mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) yn argymell y dylid gofyn y cwestiynau canlynol wrth weithredu polisïau a gweithdrefnau.
- A yw'r myfyriwr yn anabl?
- Os yw, pa ddarpariaethau (er enghraifft, polisïau a gweithdrefnau) yr ydym yn eu gweithredu ar eu cyfer?
- A yw'r darpariaethau hyn yn eu rhoi dan anfantais?
- Beth fyddai modd ei wneud i atal yr anfantais honno?
- A fyddai hi'n rhesymol i ni gymryd y camau hynny?
Ar sail yr arweiniad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gall yr ysgol feddygol ofyn y cwestiynau canlynol:
- A ydym wedi ystyried yr achos hwn yn unigol, am y myfyriwr penodol a'u hamgylchiadau unigryw?
- A ydym wedi ystyried trin y myfyriwr yn well neu'n 'fwy ffafriol' na phobl nad ydynt yn anabl fel rhan o'r datrysiad?
- A yw'r addasiad(au) arfaethedig yn effeithiol wrth waredu neu leihau unrhyw anfantais y mae'r myfyriwr anabl yn ei wynebu? A ydym wedi ystyried newidiadau neu addasiadau eraill sy'n gallu cyfrannu?
- Pa mor hawdd neu ymarferol yw'r addasiad hwn?
- Faint mae'r addasiad hwn yn ei gostio?
- A oes cyngor neu gymorth ar gael? A ydym wedi ystyried cael cyngor arbenigol er mwyn cynorthwyo gweithgarwch cytbwys wrth wneud penderfyniadau? A allem gysylltu â sefydliadau arbenigol?
- A ydym yn credu y byddai'r addasiad hwn/addasiadau hyn yn cynyddu'r risgiau i iechyd a diogelwch unrhyw un (y myfyriwr, myfyrwyr eraill, staff, cleifion ac ati)? Os byddai/byddent, a ydym wedi cynnal asesiad cywir ac wedi'i ddogfennu o'r risgiau posibl?
Ni allai addasiad fod yn rhesymol pe bai risg i ddiogelwch. Ond y casgliad yno yw bod yn rhaid i risg neu risg posibl fod yn seiliedig ar asesiad cywir ac wedi'i ddogfennu, yn hytrach nag unrhyw dybiaethau, gan ein bod yn dymuno sicrhau dysgwyr y dilynir proses wrthrychol o wneud penderfyniad yn eu hachos nhw.
Cam 6: Cynllun gweithredu
Ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch a ellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion, gall y grŵp cymorth lunio cynllun gweithredu gyda'r myfyriwr.
Os bydd yr ysgol yn penderfynu y gellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion:
- Drafftio cynllun gweithredu ar gyfer cymorth ac addasiadau rhesymol, er mwyn i'r myfyriwr ymgysylltu â phob rhan o'r cwrs.
- Drafftio gyda mewnbwn y myfyriwr os oes modd.
- Cynnwys unrhyw argymhellion a roddwyd gan y meddyg iechyd galwedigaethol. Os ceir pryderon ynghylch dichonolrwydd, gall y grŵp drafod i ddod i gytundeb am yr hyn a fyddai'n bosibl.
- Ystyried cymorth ariannol er mwyn gweithredu'r cynllun.
Os bydd yr ysgol yn penderfynu na ellir cynorthwyo'r myfyriwr i fodloni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion:
- Mae'n arfer da cael cyfarfod gyda'r myfyriwr ac esbonio'r penderfyniad wyneb yn wyneb.
- Gellir esbonio'r penderfyniad yng nghyd-destun Canlyniadau ar gyfer graddedigion a Hyrwyddo rhagoriaeth, sy'n nodi nad oes modd i ddysgwyr sicrhau cynnydd os na allant gyflawni'r canlyniadau dysgu gofynnol (R3.15)
- Annog y myfyriwr i ystyried dewisiadau amgen, gan gynnwys sicrhau gradd amgen gan y brifysgol a chyngor gyrfaoedd arall
- Ceir rhai awgrymiadau ynghylch cael sgyrsiau anodd yn atodiad y canllaw (panel A3).
Cam 7: Monitro ac adolygu
Ar ôl cytuno ar y cynllun gweithredu, gall yr ysgol benodi rhywun a fydd yn gyfrifol am ei weithredu. Mae gweithredu'r cynllun gweithredu yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng yr ysgol feddygol a'r myfyriwr.
- Gall y prif gyswllt a'r myfyriwr gyfarfod yn rheolaidd er mwyn monitro cynnydd y cynllun gweithredu, er enghraifft trwy gyfrwng adolygiad tymhorol neu flynyddol. Yn ogystal, gall yr ysgol roi cyswllt i'r myfyriwr er mwyn codi materion rhag ofn nad ydynt yn fodlon â'r cymorth a ddarparir.
- Rhaid i'r myfyriwr ymgysylltu â'r broses gymorth a chyfrannu at weithrediad y cynllun gweithredu. Os na fydd y myfyriwr yn cydymffurfio â mesurau ac addasiadau a gynlluniwyd i'w galluogi i gwblhau'r cwrs, efallai y bydd hyn yn datblygu i fod yn fater sy'n ymwneud ag addasrwydd myfyriwr i wneud gwaith paragraff 81, Ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i wneud gwaith).
Sylwch: Mae'n debygol y bydd gan yr ysgol unigolion a thimau amlwg yn yr ysgol sy'n gallu cynnig cyngor gyrfaoedd arbenigol. Yn ogystal, gall yr ysgol gyfeirio'r myfyriwr at gyngor gyrfaoedd allanol, er enghraifft gan Gyrfaoedd BMA a Medical Success, Cyngor am yrfaoedd meddygol amgen i feddygon ar gael ar-lein trwy droi.