Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?

Strwythurau cymorth cyffredinol: Beth mae da yn ei olygu?

Rhaid i ysgolion meddygol gynorthwyo dysgwyr anabl i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys gwneud addasiadau rhesymol.

Bydd gan bob ysgol feddygol strwythurau a systemau unigol ynghylch sut i wneud hyn.

Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall yr hyn sy'n helpu i ddarparu cymorth llwyddiannus i fyfyrwyr ar draws ysgolion meddygol. Mae'r gwaith ymchwil yn amlygu egwyddorion arfer da y gall ysgolion meddygol eu haddasu i'w ffyrdd o weithio:

  • Meithrin diwylliant cadarnhaol tuag at gyflyrau iechyd ac anabledd
  • Cynorthwyo myfyrwyr i rannu gwybodaeth yn gynnar
  • Meddu ar broses sefydledig a chlir er mwyn cynorthwyo dysgwyr anabl
  • Cyfathrebu effeithiol
  • Cymorth unigoledig wedi'i deilwra
  • Amgylchedd dysgu cynhwysol
  • Buddsoddi mewn hyfforddiant staff a gweithdai
  • Monitro ac adolygu.

Sylwch: Gellir gweld rhagor o fanylion am yr hyn ddywedodd myfyrwyr wrthym fel rhan o'r gwaith ymchwil yn atodiad y ddogfen (paneli A1-A2).