Ein cyswllt ni fel rheolydd proffesiynol
Mae’r adran hon yn trafod ein hystyriaethau fel rheolydd proffesiynol ar gyfer pob cam o addysg feddygol.
Prif negeseuon y bennod hon
- Rydym yn rhwym wrth y ddyletswydd cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb a gwaredu gwahaniaethu.
- Mae gennym gylch gwaith statudol i hyrwyddo safonau uchel addysg feddygol, gan gydlynu'r holl gamau o fewn addysg feddygol. Rydym yn gwneud hyn trwy lunio safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol y mae'n rhaid i sefydliadau sy'n ymwneud ag addysg feddygol eu dilyn. Mae ei'n safonau'n nodi bod yn rhaid i'r sefydliadau hyn gynorthwyo dysgwyr anabl, gan gynnwys trwy wneud addasiadau rhesymol.
- Mae angen i bob myfyriwr meddygol a meddyg dan hyfforddiant, os oes ganddynt anabledd neu beidio (gan gynnwys cyflyrau iechyd hirdymor), fodloni'r cymwyseddau a nodir ar gyfer gwahanol gamau o'u haddysg a'u hyfforddiant. Y rhain yw'r gofynion absoliwt i fyfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant er mwyn iddynt sicrhau cynnydd yn eu hastudiaethau a'u gwaith. Mae hyn yn cynnwys y Canlyniadau ar gyfer meddygon sydd â chofrestriad amodol ar ddiwedd blwyddyn gyntaf y Rhaglen Sylfaen a chanlyniadau dysgu eu cwricwla trwy gyfrwng hyfforddiant.
- Mae gennym gylch gwaith ynghylch sefydliadau sy'n gyfrifol am gynllunio, rheoli a darparu hyfforddiant i feddygon. Y rhain yw ysgolion meddygol, sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig a cholegau / cyfadrannau, a darparwyr addysg lleol.
- Nid oes gennym gylch gwaith ynghylch sefydliadau sy'n cyflogi meddygon (e.e. ymddiriedolaethau / byrddau GIG). Fodd bynnag, mae sefydliadau sy'n ymwneud â hyfforddiant meddygon a sefydliadau sy'n cyflogi meddygon yn cydweithio'n agos iawn wrth i feddygon hyfforddi yn eu hamgylchedd gwaith. Am y rheswm hwnnw, mawr obeithiwn y caiff y canllawiau hyn eu hystyried yn rhywbeth uchelgeisiol y tu hwnt i addysg a hyfforddiant, ac y bydd pob sefydliad sy'n cyflogi meddygon yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn y ddogfen hon.
- Nid oes gennym gylch gwaith sy'n ymwneud â derbyniadau, ond rydym yn pennu lefel y wybodaeth a'r medrau er mwyn sicrhau cymhwyster meddygol sylfaenol trwy gyfrwng Canlyniadau ar gyfer graddedigion.
- Mae gan ddysgwyr a sefydliadau gyfrifoldeb ar y cyd dros ofalu am lesiant (Arfer meddygol da a Sicrhau arfer meddygol da).
- Gall unrhyw fyfyriwr raddio ar yr amod: eu bod yn ddigon da i gwblhau'r cwrs; nad oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd i wneud gwaith meddygol; eu bod wedi bodloni'r holl Ganlyniadau ar gyfer graddedigion, gydag addasiadau i'r dull asesu yn ôl yr angen.
- Rydym yn gofyn am wybodaeth iechyd er mwyn cofrestru meddygon mewn ffordd amodol, ond nid yw hynny'n rhwystr sy'n atal rhywun rhag cofrestru. Anaml y bydd angen i ni gael neu y byddwn yn gofyn am wybodaeth iechyd ar ôl i rywun sicrhau cofrestriad llawn.
- Rhaid i bob meddyg trwyddedig sy'n gwneud gwaith meddygol ailddilysu. Mae'n gofynion ar gyfer ailddilysu yn rhai ar lefel uchel ac nid ydynt yn rhai rhagnodol. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i addasu ein gofynion i amgylchiadau meddygon unigol..
- Nid yw'r ffaith bod gan feddyg gyflwr iechyd neu anabledd yn golygu yr amharir ar eu haddasrwydd i wneud gwaith meddygol. Yn ogystal, nid yw cael cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu bod risg anorfod i ddiogelwch cleifion. Nid yw addasiad rhesymol neu fesur cymorth y gofynnwyd amdano ar gyfer meddyg sydd â chyflwr iechyd neu anabledd yn peri risg anorfod i gleifion.