Beth a ddisgwylir gan sefydliadau addysg feddygol a chyflogwyr?

Prif negeseuon y bennod hon

Ceir dau brif ddisgwyliad o bob sefydliad addysg feddygol yn y DU mewn perthynas ag anabledd. Mae hyn yn berthnasol i ysgolion meddygol ar lefel israddedig a sefydliadau hyfforddi ôl-raddedig.

Yn gyntaf, rhaid i sefydliadau gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb y DU. Yn ail, rhaid i sefydliadau fodloni ein safonau a'n gofynion ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn y DU.

Mae cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb yn golygu:

  • Peidio â thrin myfyriwr neu feddyg yn waeth na dysgwr arall oherwydd eu hanabledd. Gelwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.
  • Cydnabod y gellir cynnig triniaeth fwy ffafriol i ddysgwr anabl. Nid yw gwneud hyn yn cyfateb â gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn dysgwr nad ydynt yn anabl.
  • Sicrhau na fydd dysgwyr sydd ag anabledd dan anfantais benodol oherwydd y ffordd y mae sefydliad yn gwneud pethau, oni bai bod hon yn 'ffordd gymesur' o gyflawni 'nod dilys' y sefydliad, e.e. cynnal safonau addysg neu iechyd a diogelwch. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw'r enw a roddir ar sefyllfa pan fydd dysgwyr dan anfantais yn y fath fodd.
  • Peidio â thrin dysgwr yn wael oherwydd rhywbeth sy'n gysylltiedig â'u hanabledd. Gelwir hyn yn wahaniaethu sy'n deillio o anabledd.
  • Osgoi erledigaeth ac aflonyddu.
  • Gwneud addasiadau rhesymol: Rhaid i sefydliadau gymryd camau cadarnhaol er mwyn sicrhau y gall dysgwyr anabl gymryd rhan lawn mewn addysg a buddion, cyfleusterau a gwasanaethau eraill. Mae hyn yn cynnwys:
    • Rhagweld anghenion dysgwyr anabl.
    • Osgoi anfantais sylweddol i ddysgwyr anabl o'r ffordd y gwneir pethau, nodwedd gorfforol’, neu absenoldeb cymorth cynorthwyol.
    • Meddwl eto os na fu addasiad yn effeithiol.
    • Ystyried cymorth fesul achos, gan benderfynu pa addasiad(au) y byddent yn rhai 'rhesymol' i amgylchiadau pob unigolyn a'r rhwystrau y maent yn eu wynebu.
  • Efallai yr hoffai sefydliadau gadw llwybr archwilio er mwyn dangos eu bod wedi ystyried a yw addasiad yn rhesymol, gan gynnwys sut y gwnaethant asesu a sicrhau cydbwysedd rhwng gwahanol ffactorau ar gyfer pob achos.
  • Rhaid i ysgolion meddygol gyflawni'r ddyletswydd hon ar gyfer ymgeiswyr, myfyrwyr presennol ac, mewn amgylchiadau cyfyngedig, cyn fyfyrwyr anabl. Rhaid i sefydliadau addysg ôl-raddedig gyflawni'r ddyletswydd hon ar gyfer yr holl ymgeiswyr a'r meddygon dan hyfforddiant yn eu sefydliad, ac mewn amgylchiadau cyfyngedig, cyn feddygon dan hyfforddiant.
  • Ni all y GMC ddiffinio pa addasiadau sy'n rhesymol ym maes meddygaeth.
  • Mae bodloni ein safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn golygu dilyn y gofynion er mwyn cynorthwyo dysgwyr anabl a nodir yn Thema 3 (R3.2 – R3.5, R3.14, R3.16).
  • Rhaid i ysgolion meddygol ddefnyddio'r safonau cymhwysedd a nodir yn Canlyniadau ar gyfer graddedigion er mwyn penderfynu a ellir cynorthwyo myfyriwr trwy'r cwrs neu beidio.
  • Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau cyfreithiol â sefydliadau addysg, o ran osgoi gwahaniaethu a gwneud addasiadau rhesymol. Dim ond pan fyddant yn ymwybodol – neu y mae'n rhesymol disgwyl iddynt fod yn ymwybodol – o'r ffaith bod gan gyflogai anabledd, y mae'n rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau.