Bodloni safonau Hyrwyddo rhagoriaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol
Beth mae Hyrwyddo rhagoriaeth yn ei ddweud am gynorthwyo dysgwyr anabl?
Mae Hyrwyddo rhagoriaeth yn nodi'n glir mai diben darparu cymorth effeithiol i fyfyrwyr a meddygon yw er mwyn iddynt ddangos yr hyn a ddisgwylir yn Arfer meddygol da a chyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n ofynnol yn ôl eu cwricwlwm.
Rydym yn gofyn bod sefydliadau:
yn cynnig mynediad i ddysgwyr i adnoddau er mwyn cynorthwyo'u hiechyd a'u llesiant, a chymorth addysgol a bugeiliol, gan gynnwys (R3.2) gwasanaethau cwnsela cyfrinachol, cyngor a chymorth gyrfaoedd, a gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
yn sicrhau nad yw dysgwyr yn dioddef ymddygiad sy'n tanseilio'u hyder proffesiynol, eu perfformiad neu eu hunan-barch (R3.3)
yn gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr anabl, gan sicrhau y gall dysgwyr droi at wybodaeth am addasiadau rhesymol, gyda chysylltiadau penodol (R3.4)
yn rhoi gwybodaeth a chymorth i ddysgwyr er mwyn eu helpu i symud rhwng gwahanol gyfnodau addysg a hyfforddiant. Rhaid ystyried anghenion dysgwyr anabl, yn enwedig pan fyddant yn symud o ysgol feddygol i hyfforddiant ôl-raddedig, ac ar leoliadau clinigol (R3.5)
yn rhoi gwybodaeth amserol a manwl i ddysgwyr am eu cwricwlwm, eu hasesiadau a'u lleoliadau clinigol (R3.7). Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddysgwyr anabl, oherwydd y bydd cael y wybodaeth hon ymlaen llaw yn helpu i roi unrhyw addasiadau rhesymol neu drefniadau eraill gofynnol (ee trefniadau teithio ar gyfer lleoliadau sy'n bellach i ffwrdd) yn eu lle
yn cynorthwyo, pan fo hynny'n rhesymol, dysgwyr y mae eu cynnydd, eu perfformiad, eu hiechyd neu eu hymddygiad yn arwain at bryderon i oresgyn y rhain ac yn ôl yr angen, yn cael cyngor am ddewisiadau gyrfa amgen (R3.14).
Yn ogystal, mae gan ysgolion meddygol gyfrifoldebau tuag at nifer fach iawn y myfyrwyr meddygol nad ydynt yn gallu bodloni'r cymwyseddau yn nogfen Canlyniadau ar gyfer graddedigion, efallai, ar ôl iddynt fanteisio ar yr holl ddewisiadau er mwyn cael cymorth.
Mae Hyrwyddo rhagoriaeth yn nodi mewn ffordd eglur na ddylai myfyrwyr symud ymlaen os byddant yn methu bodloni'r canlyniadau dysgu gofynnol ar gyfer graddedigion. Yn yr achosion hyn, mae gofyn i ysgolion meddygol gynnig cyngor am ddewisiadau gyrfa amgen, gan gynnwys llwybrau er mwyn sicrhau cymhwyster os yw hyn yn briodol. Dylid cynnig cyngor gyrfaoedd i feddygon dan hyfforddiant nad ydynt yn gallu cwblhau eu llwybr hyfforddiant hefyd (R3.16).
Panel 7: A oes unrhyw fath o gymorth ar gyfer myfyriwr nad yw’n cyd-fynd ag arfer clinigol yn y dyfodol?
Rhaid i ysgolion meddygol wneud addasiadau rhesymol i fyfyrwyr sydd ag anabledd er mwyn caniatáu iddynt gyflawni'r Canlyniadau ar gyfer graddedigion.
Efallai y bydd adegau pan fydd addasiad yn afresymol ar gwrs astudio ac yn y gweithle. Os na fydd lefel benodol o ran cymorth neu addasiad ar gael mewn amgylchedd gweithle penodol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad oes rheidrwydd ar ysgol feddygol i'w ddarparu. Yn y pen draw, mae penderfyniadau ynghylch addasiadau rhesymol yn fater i ysgolion meddygol, ac mae gofyn gwneud penderfyniadau ar sail ffeithiau'r achos penodol.
Wrth ystyried cymorth ar gyfer myfyriwr, y peth allweddol i'w ystyried yw a fyddai darparu cymorth mewn ffurf benodol neu addasiad rhesymol yn galluogi myfyriwr i ddangos safon berthnasol o ran cymhwysedd – yn yr achos hwn, y Canlyniadau ar gyfer graddedigion. Rydym yn argymell y dull gweithredu hwn oherwydd:
- Mae Canlyniadau ar gyfer graddedigion yn set wrthrychol o feini prawf y mae angen i bob myfyriwr meddygol eu harddangos, a ddatblygwyd gydag amrediad o arbenigwyr ym maes addysg feddygol
- ceir risg y caiff barnau goddrychol eu ffurfio ynghylch galluoedd y myfyriwr yn y dyfodol fel meddyg a'r lleoliad y byddant yn gweithio ynddo
- mae amgylcheddau clinigol yn amrywio'n fawr iawn, ac mae addysgwyr ôl-raddedig yn gyfrifol am neilltuo meddyg dan hyfforddiant mewn ffordd briodol. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i swydd lle y bydd cymorth priodol ar gael
Ni allwn ragweld sut y bydd cyflwr iechyd neu anabledd rhywun yn effeithio arnynt yn y dyfodol.