Cyfrifoldebau cyflogwyr
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau cyfreithiol â sefydliadau addysg, o ran osgoi gwahaniaethu a gwneud addasiadau rhesymol.
Y prif wahaniaeth o'i gymharu â darpariaethau addysg y Ddeddf yw nad oes yn rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau i'w safle neu eu harferion gwaith nes y bydd eu hangen ar gyflogai neu ymgeisydd anabl.
Rhaid i gyflogwyr, fodd bynnag, gymryd camau rhesymol i ddarganfod a yw cyflogai neu ymgeisydd yn unigolyn anabl.
Cyfraith cyflogaeth
Gyda'r contract cyflogaeth, bydd gwahanol ddarpariaethau cyfreithiol yn berthnasol. Dan Rhan 5 Deddf Cydraddoldeb 2010, gwaharddir gwahaniaethu ym mhob agwedd ar gyflogaeth a galwedigaeth gan gynnwys recriwtio a dethol, gan gynnwys hysbysebu swyddi; cadw cyflogeion; dyrchafu a hyfforddiant.
- Mae gwahaniaethu uniongyrchol (sy'n cynnwys trin rhywun mewn ffordd lai ffafriol yn uniongyrchol oherwydd eu hanabledd) yn anghyfreithlon
- Mae gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd (trin rhywun mewn ffordd lai ffafriol nag eraill am reswm sy'n ymwneud â'u hanabledd) yn anghyfreithlon
- Disgwylir addasiadau rhesymol ym mhob agwedd ar gyflogaeth, felly mae'n rhaid eu gwneud i amodau gwaith, disgrifiadau swydd, hyfforddiant, dilyniant ac amgylchedd y gweithle er mwyn galluogi neu helpu pobl anabl i gyflawni eu swydd
- Mae aflonyddu yn y gwaith yn wahaniaethol
- Ni ddylai cyflogwr erlid rhywun anabl neu rywun nad ydynt yn anabl, na'u trin mewn ffordd anffafriol, oherwydd eu bod wedi gwneud honiadau ynghylch gwahaniaethu neu wneud cwyn neu gymryd unrhyw gamau dan y Ddeddf. Gellir cyflwyno cwyn am wahaniaethu i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).