Prif ddisgwyliadau
Mae gan sefydliadau addysg feddygol yn y DU ddau brif ddisgwyliad mewn perthynas ag anabledd.
- Dilyn deddfwriaeth cydraddoldeb Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 a Gorchymyn Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau 2005 yng Ngogledd Iwerddon.
- Bodloni ein safonau a'n gofynion ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn y DU - yn Hyrwyddo rhagoriaeth (2015).
Deddfwriaeth cydraddoldeb
Ym maes addysg feddygol israddedig, corff llywodraethu’r brifysgol sy'n meddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol dros gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb. Ym maes hyfforddiant ôl-raddedig, y deoniaethau ôl-raddedig a thimau lleol GIG Lloegr sy'n meddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol.
Beth mae’n rhaid i sefydliadau addysg feddygol ei wneud i gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb?
Mae'r dyletswyddau sy'n deillio o ddeddfwriaeth cydraddoldeb sy'n bodoli eisoes fel a ganlyn:
- Rhaid i sefydliadau osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn dysgwyr anabl (at ddibenion yr canllawiau hynr, yn fwy cyffredinol hefyd yn erbyn nodweddion gwarchodedig eraill). Mae hyn yn cynnwys mathau penodol o wahaniaethu, y rhoddir esboniad manylach ohonynt yn atodiad y canllaw hwn: gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd, aflonyddwch ac erledigaeth.
- Mae gan sefydliadau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol, er mwyn osgoi rhoi dysgwyr anabl dan anfantais sylweddol.
Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
Mae'r ddyletswydd yn mynnu bod sefydliadau yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau y gall dysgwyr anabl gymryd rhan lawn yn yr addysg ac mewn buddion, cyfleusterau a gwasanaethau eraill a ddarperir ar eu cyfer.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i sefydliadau gymryd camau rhesymol pan fydd dysgwr dan anfantais sylweddol oherwydd:
- Y ffordd y mae'r sefydliad yn gwneud pethau.
- Er enghraifft, darpariaethau neu lwfansau ychwanegol i ddysgwyr anabl, gan gynnwys ymestyn terfynau amser, caniatáu cyfnodau o absenoldeb er mwyn mynychu apwyntiadau meddygol, egwyl mewn sesiynau addysgu, cymorth tiwtorial 1:1 rheolaidd ychwanegol neu ddarparu cymorth sgiliau astudio.
- Nodwedd ffisegol. Gallai hyn gynnwys gwaredu'r nodwedd ffisegol, ei haddasu neu gynnig ffordd resymol o'i hosgoi.
- Er enghraifft, os na fydd lleoliadau a nodweddion ffisegol yn hygyrch i ddysgwyr, gellir addasu'r rhain trwy osod rampiau, drysau awtomatig, lifftiau a botymau lifft hygyrch, gwaith tirlunio a llwybrau allanol hygyrch.
- Peidio â darparu cymorth cynorthwyol.
- Er enghraifft, offer er mwyn helpu dysgwyr i ddilyn gweithgareddau addysgu neu hwyluso arfer clinigol, megis gliniaduron neu ddyfeisiau llaw er mwyn cymryd nodiadau neu rywun i gymryd nodiadau mewn darlithoedd, cyfleusterau gwirio sillafu, darllenwyr sgriniau, stethosgop wedi'i fwyhau, dodrefn cynhaliol neu glustog neu gymorth meingefnol a chadeiriau y mae modd addasu eu huchder.
Pethau allweddol i’w gwybod am addasiadau rhesymol
Rhaid i sefydliadau ragweld anghenion dysgwyr anabl. Y sefydliad sy'n gyfrifol am ystyried y cymorth fesul achos, gan benderfynu pa addasiadau y byddent yn cael eu hystyried yn rhai 'rhesymol' ar gyfer pob unigolyn. Mae'n arfer da cadw llwybr archwilio o'u proses o wneud penderfyniadau.
Gellir gwrthod cais am addasiad os bernir nad yw'n 'rhesymol', ond mae'n anghyfreithlon peidio ystyried addasiadau rhesymol o gwbl. Os na fu'r addasiadau rhesymol a ddarparwyd yn effeithiol, efallai y bydd angen i'r sefydliad ystyried dewisiadau amgen. Mae'n arfer da creu amgylchedd dysgu cynhwysol gydag addasiadau, y gallai helpu pawb.
1. Beth mae rhesymol yn ei olygu?
Nid oes diffiniad penodol o'r hyn y mae 'rhesymol' yn ei olygu.
Yr unig ffordd o benderfynu ar yr hyn sy'n 'rhesymol' yw fesul achos, a bydd hyn wastad yn dibynnu ar yr unigolyn dan sylw a'u hamgylchiadau.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynghori bod y cwestiwn ynghylch a yw addasiad yn rhesymol yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau, gan gynnwys:
- os a pha mor effeithiol y bydd y newid wrth oresgyn yr anfantais y byddai'r unigolyn anabl yn ei brofi fel arall
- pa mor ymarferol yw'r newidiadau
- y gost o wneud y newidiadau
- maint ac adnoddau'r sefydliad
- argaeledd cymorth ariannol.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau ssy'n nodi ffactorau i sefydliadau eu hystyried wrth asesu a yw addasiad yn rhesymol. Mae'n awgrymu'r canlynol:
- Gallwch drin pobl anabl yn well neu'n 'fwy ffafriol' na phobl nad ydynt yn anabl ac weithiau, gallai hyn fod yn rhan o'r datrysiad.
- Rhaid i'r addasiad fod yn effeithiol wrth helpu i waredu neu leihau unrhyw anfantais y mae'r myfyriwr anabl yn ei wynebu. Os nad yw'n cael unrhyw effaith, nid oes pwynt.
- Efallai y bydd yn cymryd sawl gwahanol addasiad i ddelio â'r anfantais honno, ond rhaid i bob newid gyfrannu tuag at hyn.
- Gallwch ystyried a yw addasiad yn ymarferol. Po hawsaf yw addasiad, y mwyaf tebygol ydyw o fod yn rhesymol. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith bod rhywbeth yn anodd yn golygu na all fod yn rhesymol hefyd.
- Os na fydd addasiad yn costio rhyw lawer neu ddim byd o gwbl ac os nad yw'n amharu, byddai'n rhesymol oni bai bod ffactor arall (megis anymarferoldeb neu ddiffyg effeithiolrwydd) yn peri iddo fod yn afresymol.
- Gallai'r hyn sy'n rhesymol mewn un sefyllfa fod yn wahanol i'r hyn sy'n rhesymol mewn sefyllfa arall.
- Os bydd cyngor neu gymorth ar gael, mae'n fwy tebygol o wneud yr addasiad yn un rhesymol.
- Os ydych o'r farn y byddai gwneud addasiad penodol yn cynyddu'r risgiau i iechyd a diogelwch unrhyw un, gallwch ystyried hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw'r addasiad neu'r datrysiad penodol hwnnw yn rhesymol. Ond rhaid bod eich penderfyniad yn seiliedig ar asesiad cywir ac wedi'i ddogfennu o'r rigiau posibl, yn hytrach nag unrhyw dybiaethau.
Os caiff penderfyniad sefydliad ei herio, bydd y cwestiwn ynghylch a yw'r addasiad yn 'rhesymol' yn gwestiwn a benderfynir gan y llysoedd yn y pen draw. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi: 'Yn y pen draw, prawf gwrthrychol yw'r prawf o'r hyn sy'n rhesymol, ac nid mater o'r hyn sy'n rhesymol yn eich barn bersonol chi.’
2. Sut all sefydliad ragweld anghenion dysgwyr anabl?
Dylai pob sefydliad gynllunio ar gyfer y dyfodol a rhagweld anghenion dysgwyr anabl a'r addasiadau y bydd angen eu gwneud ar eu cyfer efallai. Dylent wneud hyn os ydynt yn gwybod bod unigolyn penodol yn anabl neu beidio neu os ydynt yn cynnal unrhyw fyfyrwyr neu feddygon anabl ar hyn o bryd neu beidio.
Ond nid yw hyn yn golygu y disgwylir i sefydliadau ragweld anghenion pob darpar fyfyriwr neu feddyg dan hyfforddiant a fydd yn eu cyrraedd. Rhaid iddynt ystyried a chymryd camau rhesymol a chymesur i oresgyn unrhyw rwystrau, er enghraifft:
- Addasu'r amgylchedd ffisegol er mwyn helpu dysgwyr anabl
- Rhoi cymhorthion cynorthwyol i ddysgwyr
- Siarad gyda chyflogwyr a darparwyr addysg lleol er mwyn sicrhau y byddai'r amgylchedd ffisegol yn helpu myfyrwyr a meddygon dan hyfforddiant anabl, a bod modd darparu cymhorthion cynorthwyol.
- Archwilio polisïau mewnol er mwyn gweld a fyddai unrhyw beth yn gallu rhoi pobl anabl dan anfantais.
- Ystyried effaith newidiadau i'r ffordd y mae'r sefydliad yn gwneud pethau ar ddysgwyr anabl, er enghraifft effaith newidiadau i ffurf y cwrs neu gynnwys y cwricwlwm
- Enghraifft gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw y gallai fod yn briodol i'r brifysgol osod dolen sain mewn theatrau darlithio er mwyn rhagweld anghenion myfyrwyr sydd â nam ar eu clyw, ond ni fyddai disgwyl iddynt fod yn cyflogi dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
- Enghraifft ar gyfer sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig yw cael cyswllt â'r darparwyr addysg lleol lle y maent yn lleoli meddygon er mwyn sicrhau bod lleoliadau'n hygyrch. Fodd bynnag, ni fyddai disgwyl i sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gael darn o offer sy'n ofynnol ar gyfer amgylchiadau penodol meddyg unigol, cyn y byddant yn ymwybodol o anghenion y meddyg hwn.
3. Pa ddysgwyr y mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol iddynt?
Mae gan ysgolion meddygol y ddyletswydd hon tuag at ymgeiswyr, myfyrwyr cyfredol ac, mewn achosion cyfyngedig, tuag at gyn fyfyrwyr anabl. Mae hyn yn ymwneud â gwneud addasiadau rhesymol mewn perthynas â chymwysterau a ddyfearnir gan sefydliad addysg bellach neu uwch. Er enghraifft, os bydd angen i gyn fyfyriwr gael tystysgrif mewn gwahanol ffurf o ganlyniad i anabledd.
Mae gan sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig y ddyletswydd hon tuag at bob ymgeisydd a meddyg dan hyfforddiant o fewn eu sefydliad ac, mewn achosion cyfyngedig, tuag at gyn feddygon dan hyfforddiant.
4. Am ba mor hir y bydd y ddyletswydd yn berthnasol?
Mae'r ddyletswydd yn un barhaus. Os bydd addasiad wedi cael ei wneud ac os nad yw'n effeithiol wrth oresgyn yr anfantais, efallai y bydd angen i'r corff addysg feddwl eto – ni allant gymryd bod eu dyletswydd i wneud hyn wedi cael ei chyflawni ar ôl gwneud un addasiad.
5. A all y sefydliad beidio gwneud addasiadau rhesymol i ddysgwyr anabl?
Rhaid i sefydliad ddangos bob amser ei fod wedi ystyried addasiadau. Ond gall benderfynu peidio gwneud addasiad os nad yw'n 'rhesymol' (gweler Panel 12 ym Mhennod 4 'Sut all ysgolion meddygol gyflawni eu dyletswyddau?'). Ar ôl ystyried y sefyllfa, os bydd sefydliad yn penderfynu peidio darparu addasiad oherwydd nad yw'n rhesymol, dylent ystyried a oes unrhyw addasiadau rhesymol amgen y gallent fodloni anghenion yr unigolyn.
6. A oes angen i’r sefydliad ystyried pob dysgwr yn unigol?
Oes. Rhaid ystyried addasiadau rhesymol fesul achos, gan ystyried amgylchiadau'r unigolyn a'r rhwystrau penodol. Mae hyn yn rhannol oherwydd y bydd effaith anabledd neu gyflwr yn unigryw i bob unigolyn. Hyd yn oed os bydd gan ddau unigolyn yr un anabledd, gallai effeithio arnynt mewn ffordd wahanol, felly mae angen gwahanol set o addasiadau ar bob un.
7. A oes unrhyw addasiadau a ystyrir yn rhai rhesymol yn aml?
Oes. Bydd rhai addasiadau a ystyrir yn rhai rhesymol ar gyfer nifer o fyfyrwyr yng nghyd-destun addysg a hyfforddiant. Er enghraifft, amser ychwanegol i rywun sydd â dyslecsia pan fyddant yn sefyll arholiad ar ôl ystyried pob achos yn unigol. Ond ni cheir rhestr argymhellol. Mae'n arfer da i sefydliadau greu amgylchedd dysgu cynhwysol a allai helpu eu holl fyfyrwyr a'u meddygon, y gallai gynnwys:
- argraffu dogfennau ar bapur lliw
- darparu cynlluniau, crynodebau, nodiadau a deunydd i'w ddosbarthu cyn darlithoedd a gweithgareddau addysgu eraill mewn ffurf electronig
- darparu deunydd fideo sy'n cynnwys isdeitlau neu y mae wedi cael ei drawsgrifio
- safleoedd cadw ym mhob lleoliad dysgu ac addysgu, gan gynnwys y llyfrgell
- sicrhau bod hyfforddiant a mentora ar gael.
Panel 5: A yw’r GMC yn gallu darparu rhestr o addasiadau sy’n rhesymol ym maes meddygaeth?
Ni all y GMC nodi pa addasiadau sy'n rhesymol ym maes meddygaeth. Nid oes gennym yr awdurdod i wneud hyn fel sefydliad.
Oherwydd yr holl ffactorau a ystyrir wrth benderfynu ar yr hyn sy'n rhesymol, ni ellir rhoi cyfarwyddiadau cyffredinol ynghylch a yw addasiad yn rhesymol mewn lleoliad meddygol neu beidio. Rhaid i'r ysgol feddygol neu'r cyflogwr (ar y cyd â sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig) ddefnyddio eu barn er mwyn asesu a chydbwyso'r ffactorau hyn. Ni fydd hyn yn hawdd o anghenraid, ond gallai ymgynghori â'r unigolyn am eu hangen hwyluso'r gwaith.
Ni fydd addasiad yn rhesymol:
- Os nad yw'n effeithiol wrth waredu neu leihau unrhyw anfantais
- Os yw'r addasiad yn newid neu'n lleihau'r cymhwysedd sy'n ofynnol gan y dysgwr yn ystod y cam penodol yn yr hyfforddiant
- Os bydd yr addasiad yn peri risg annerbyniol i ddiogelwch y dysgwr neu eraill. Rhaid seilio hyn ar asesiad gwrthrychol o'r risg.
Mae'r hyn a ystyrir yn rhesymol yn dibynnu ar yr unigolyn a'u hamgylchiadau penodol, felly gallai'r un addasiad gael ei ystyried yn rhesymol dan un set o amgylchiadau, ond nid yn rhesymol dan set arall. Er enghraifft:
- Mae meddyg dan hyfforddiant yn gofyn am addasiad i'r amgylchedd ffisegol fel y gall weithio mewn ymddiriedolaeth. Gallai'r gost o wneud yr addasiad fod yn afresymol i un sefydliad, ac fe allai fod yn is mewn ffordd gymesur i sefydliad arall. Gallai'r sefydliad cyntaf ddweud nad yw'r addasiad yn rhesymol oherwydd y gost, a gallai'r ail ddweud ei fod yn rhesymol (os yw'n unol â'r ffactorau eraill a ystyriwyd).
- Mae dau fyfyriwr meddygol y maent wedi cael diagnosis anableddau dysgu, yn gofyn am amser ychwanegol i gwblhau asesiad. Yn achos un myfyriwr, cefnogir hwn gan adroddiad arbenigol sy'n argymell amser ychwanegol fel addasiad effeithiol i'r myfyriwr. Mewn achos myfyriwr arall, ni argymhellir amser ychwanegol ar gyfer eu math penodol nhw o anabledd dysgu. Gallai'r ysgol feddygol ddweud bod yr addasiad yn rhesymol yn yr achos cyntaf (os yw'n unol â'r ffactorau eraill a ystyriwyd), ond nid yn yr ail achos, pe na byddai amser ychwanegol yn effeithiol wrth helpu'r myfyriwr.
Enghreifftiau yw'r rhain. Yn aml, bydd sefyllfaoedd yn fwy cymhleth nag enghreifftiau, felly bydd wastad angen gwneud penderfyniadau ar sail achosion unigol.
Panel 6: A ydw i’n rhoi eraill dan anfantais neu’n gwahaniaethu yn erbyn eraill trwy gynorthwyo dysgwyr anabl?
Na.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi nad yw trin unigolyn anabl mewn ffordd fwy ffafriol yn cyfateb i wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn unigolyn nad ydynt yn anabl.
Mae'r gyfraith yn caniatáu i sefydliad drin unigolyn anabl mewn ffordd fwy ffafriol os bydd hyn yn gwaredu rhwystr neu anfantais y mae'r unigolyn yn ei brofi. Er enghraifft, gwarantu lleoliad neu swydd hyfforddi mewn lleoliad penodol oherwydd mai hwn yw'r unig agosaf i gartref y dysgwr anabl neu lle y maent yn cael gofal.
Gallai dysgwr anabl fod dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl cyn y gwneir addasiadau rhesymol ar eu cyfer. Dylai'r addasiadau rhesymol geisio gwaredu'r anfantais honno a dwyn yr unigolyn anabl i 'safle cyfartal' o'u cymharu â'u cymheiriaid. Nid yw'n rhoi anfantais annheg iddynt dros eraill.
Nodir rhai enghreifftiau isod. Yn aml, mae sefyllfaoedd yn fwy cymhleth na'r enghreifftiau, felly bydd angen gwneud penderfyniadau ar sail achosion unigol bob amser.
- Mae myfyriwr sydd â diabetes dan anfantais mewn amgylchedd arholiad arferol, efallai na fyddant yn gallu cwblhau'r arholiad heb gymryd eu meddyginiaeth neu fwyta er mwyn rheoli eu lefelau siwgr. Trwy wneud addasiad rhesymol er mwyn caniatáu i'r myfyriwr hwn gymryd egwyliau o'r arholiad er mwyn bwyta, gorffwys neu gymryd meddyginiaeth, gall yr ysgol feddygol ganiatáu iddynt berfformio ar lefel gyfartal â myfyrwyr eraill nad oes ganddynt diabetes.
- Mae angen i feddyg sy'n dioddef o iselder cronig fynychu apwyntiadau meddygol rheolaidd gyda'r arbenigwr sy'n eu trin. Nid oes modd trefnu'r rhain ar adegau cyfleus o ystyried eu rota bob amser. Felly, mae'r meddyg dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid, oherwydd efallai y byddant yn dioddef o effeithiau eu hiselder, y gallai amharu ar eu hyfforddiant a'u dilyniant. Trwy wneud addasiad rhesymol er mwyn caniatáu amser i ffwrdd i fynychu apwyntiadau clinigol, neu addasu eu rota er mwyn mynychu sifftiau penodol, gall y cyflogwr, gyda'r sefydliad hyfforddi ôl-raddedig ganiatáu i'r meddyg oresgyn y rhwystr hwnnw.